Polisi Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol - Ebrill 2025
Yn yr adran hon
- 7. Cymhwysedd ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Ychwanegol
- 8. Dechrau eich Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
- 9. Newid eich cynlluniau o ran Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
- 10. Eich hawliau yn ystod absenoldeb gofal newyddenedigol
- 11. Absenoldeb Statudol Arall
- 12. Sicrhau Triniaeth Gyfartal
9. Newid eich cynlluniau o ran Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
Os ydych wedi cyflwyno rhybudd ynghylch bwriad a hawl i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol yn ystod y cyfnod haen 2 ond yn dymuno canslo eich absenoldeb, rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr llinell/y Tîm Absenoldeb gan ddefnyddio ein ffurflen canslo Absenoldeb Gofal Newyddenedigol.
Os oeddech chi'n bwriadu cymryd un wythnos o absenoldeb gofal newyddenedigol, rhaid i chi gyflwyno'r ffurflen hon o leiaf 15 diwrnod cyn y dyddiad cyntaf yr oeddech wedi'i ddewis i ddechrau eich absenoldeb.
Os oeddech chi'n bwriadu cymryd dwy wythnos neu fwy yn olynol, rhaid i chi gyflwyno'r ffurflen hon o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad cyntaf yr oeddech wedi'i ddewis i ddechrau eich absenoldeb.
Rhybudd hwyr
Rydym yn deall ei fod yn gyfnod anodd dros ben i rieni os yw eich plentyn mewn gofal newyddenedigol. Hoffwn eich sicrhau, os nad yw'n bosibl i chi gydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer rhoi rhybudd neu dynnu'r rhybudd yn ôl, fel y nodir yn y polisi hwn, y byddwn yn derbyn rhybudd hwyrach na hyn ac, mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn hepgor y gofyniad i chi roi rhybudd yn gyfan gwbl.
Newidiadau sy'n effeithio ar eich hawl i absenoldeb a thâl gofal newyddenedigol
Rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr llinell/y Tîm Absenoldeb am y dyddiad y mae gofal newyddenedigol eich plentyn yn dod i ben cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r gofal ddod i ben.
Os yw eich plentyn yn dechrau derbyn gofal newyddenedigol eto, ar ôl i chi roi gwybod i ni fod y gofal wedi dod i ben, rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr llinell/y Tîm Absenoldeb am y dyddiadau dechrau a gorffen newydd.
Os ydych chi'n dioddef profedigaeth
Gall gweithwyr sydd wedi cronni hawl i absenoldeb gofal newyddenedigol gymryd yr absenoldeb gofal newyddenedigol y maent wedi'i gronni os bydd eu plentyn yn marw.
Os ydych wedi dioddef profedigaeth, cysylltwch â'ch rheolwr llinell/y Tîm Absenoldeb fel y gallwn drafod cymorth arall y gallwn ei gynnig i chi.