Canllawiau Trawsrywedd (Ebrill 2025)

1. Cyflwyniad

 

 

 

 

 

 

 

Rydym ni (Cyngor Sir Caerfyrddin) yn gyfrifol am ddarparu ystod amrywiol o wasanaethau i'r gymuned rydym yn ei gwasanaethu. Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydym yn eu cyflogi ac ar ddefnyddio'u safbwyntiau a'u profiadau gwahanol. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob person traws, gan gynnwys y rhai sydd â hunaniaeth anneuaidd, yn y gweithle.

Drwy ddenu, recriwtio a datblygu pobl o'r gronfa dalent ehangaf bosibl gallwn ddatblygu gwell dealltwriaeth o anghenion ein cwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein llwyddiant. 

Rydym ni i gyd yn wahanol. Mae ein cefndiroedd, ein profiadau a'n safbwyntiau gwahanol yn golygu ein bod yn meddwl am faterion mewn ffyrdd gwahanol ac yn gallu nodi atebion a chyfleoedd newydd i wella.  Mae'r sgiliau hyn yn bwysig i bob un ohonom fel y gallwn ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd. 

Mae cyfoeth o waith ymchwil yn dangos bod gweithleoedd sy'n fwy cynhwysol yn fwy cynhyrchiol. 

Os oes rhwystrau'n bodoli o ran recriwtio a chadw staff traws 1, gallem golli'r cyfle i fanteisio ar y potensial hwn.   Rydym yn gwybod bod pobl draws yn aml yn gadael eu swyddi cyn trawsnewid a'u bod yn aml yn cael swyddi â chyflog is pan fyddant yn dychwelyd i'r gweithle. Yn aml, mae hyn yn digwydd oherwydd eu bod yn dychmygu'r gwahaniaethu posibl y byddant yn ei wynebu os byddant yn aros yn eu gweithle. Gall hyn arwain at golli arbenigedd a buddsoddiad. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei drin yn deg ac â pharch ym mhob cam o gyflogaeth gan gynnwys y broses recriwtio.

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â'r Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Darllenwch Atodiad 1 – Geirfa, cyn darllen y canllawiau hyn.

1  Defnyddir y term 'traws' fel term ymbarél drwy gydol y ddogfen hon.