Canllawiau Trawsrywedd - Mehefin 2026

Atodiad 2 - Ffynonellau gwybodaeth a chyngor defnyddiol

http://genderedintelligence.co.uk Mae Gendered Intelligence yn gweithio'n bennaf gyda'r gymuned drawsryweddol a'r rhai sy'n effeithio ar fywydau trawsryweddol.   Maent yn arbenigo'n benodol mewn cefnogi pobl ifanc drawsryweddol rhwng 11 a 25 oed.

www.gires.org.uk Mae'r Gender Identity Research and Education Society yn darparu gwybodaeth i bobl draws, eu teuluoedd a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gofalu amdanynt. 

www.depend.org.uk Sefydliad sy'n cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth cyfrinachol a rhad ac am ddim i holl aelodau'r teulu, gwŷr/gwragedd, partneriaid a chyfeillion pobl drawsrywiol yn y DU.

www.equalityhumanrights.com Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ceisio nodi a mynd i'r afael â meysydd lle y mae gwahaniaethu annheg yn digwydd o hyd neu lle nad yw hawliau dynol yn cael eu parchu, ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid.

Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth (GEO) 
Mae Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth yn gyfrifol am strategaeth a deddfwriaeth cydraddoldeb ar draws y llywodraeth. 
www.gov.uk/geo  

Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) 
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb linell gymorth sy'n cynghori ac yn cynorthwyo unigolion ar faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol, ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. 
http://eass-ws.custhelp.com/app/home  

Cwnsela Cynnydd Cymru

Mae Cwnsela Cynnydd Cymru yn elusen sy'n ymroddedig i gefnogi pobl LHDTC+, drwy ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl fforddiadwy i'r rhai mewn angen. Cyswllt: info@progress.cymru

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd 
Mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn datgelu eich holl enwau a chyfeiriadau blaenorol i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd fel y gallant brosesu eich cais yn gywir. Fodd bynnag, mae gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd broses lle gallwch ddatgelu eich rhywedd/enw blaenorol i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unig a pheidio â datgelu hyn ar ffurflen gais y Gwasanaeth Datgelu a Gwasanaeth.

Gelwir hyn yn 'Broses Ceisiadau Sensitif'. Mae'r broses hon yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei thrin yn sensitif ac yn ddiogel gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac na chaiff ei datgelu i'r sawl a ofynnodd i chi wneud cais. 

I gael rhagor o wybodaeth 
E-bost: sensitive@dbs.gsi.gov.uk  neu ffoniwch 0151 676 1452.