Canllawiau Trawsrywedd (Ebrill 2025)

12. Cydnabod bwlio ac aflonyddu

 

 

 

 

 

 

 

Bydd unrhyw achosion o fwlio neu aflonyddu yn cael eu trin â'r un difrifoldeb ag achosion eraill o fwlio neu aflonyddu yn ein sefydliad. Dylai rheolwyr fod yn ymwybodol y gall ymddygiad penodol, er enghraifft eithrio unigolion o restrau dosbarthu neu ddefnydd parhaus o'r rhagenw anghywir (hi, ef, nhw) fod yn andwyol iawn a rhaid ei nodi a mynd i'r afael ag ef. Peidiwch byth â gadael i chwilfrydedd naturiol am hunaniaethau unigolion traws sathru ar sensitifrwydd a pharch.

I atal unrhyw achos o fwlio ac aflonyddu staff traws, mae angen i'n sefydliad ei adnabod fel ffordd benodol o fwlio. Fel rheolwr, mae'n bwysig eich bod yn gallu adnabod arwyddion o fwlio ac aflonyddu unigolyn traws fel y gallwch gymryd camau gweithredu. Gall hyn gynnwys:

  • sarhau neu fygwth unigolyn mewn ffordd drawsffobig.
  • cyfeirio'n ddiangen ac yn ddiraddiol at hunaniaeth unigolyn o ran rhywedd.
  • cyfrannu at gellwair neu jôcs sy'n ddiraddiol i hunaniaeth unigolyn o ran rhywedd neu ei hunaniaeth ganfyddedig o ran rhywedd.
  • datgelu bod unigolyn yn unigolyn traws heb gael ei ganiatâd.
  • anwybyddu neu eithrio cydweithiwr oherwydd ei fod yn unigolyn traws.
  • lledaenu sïon neu glecs.
  • gofyn cwestiynau busneslyd am eu bywyd preifat.
  • gwneud rhagdybiaethau am gydweithiwr a'i farnu ar sail ei hunaniaeth o ran rhywedd.
  • defnyddio credoau crefyddol i gyfiawnhau bwlio ac aflonyddu unigolion traws.

Os byddwch yn dyst i unrhyw beth fel hyn yn digwydd yn eich gwasanaeth neu eich tîm neu os bydd rhywun yn dweud wrthych amdano, mae cyfrifoldeb arnoch fel rheolwr i weithredu. Mewn achosion eithafol, gellid galw'r math hwn o aflonyddu'n 'drosedd casineb'. Mae ymchwil yn awgrymu er bod cyfran uchel o unigolion traws wedi dioddef rhyw fath o drosedd casineb, na roddir gwybod amdani i'r heddlu yn aml. 

Mae'n bosibl y bydd gweithiwr yn dymuno siarad â chi, fel ei reolwr, am ddigwyddiadau o'r fath. Gall yr effeithiau ar y gweithiwr gael effaith fawr iawn ar y sefydliad a'i allu i weithio. Gallai eich cefnogaeth chi chwarae rôl hanfodol o ran sicrhau y rhoddir gwybod am hyn ac y rhoddir sylw iddo.