Canllawiau Trawsrywedd (Ebrill 2025)
Yn yr adran hon
4. Pobl Draws a Thrawsnewid
|
|
|
|
|
|
Mae pobl draws yn bobl nad yw eu rhywedd yr un fath â'r rhyw a roddwyd iddynt adeg eu genedigaeth, neu nad oeddynt yn gyfforddus ag ef.
Trawsnewid yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r camau y gall person traws eu cymryd i fyw yn y rhywedd y maent yn ei arddel. Bydd proses drawsnewid pob unigolyn yn golygu gwahanol bethau. I rai, mae hyn yn golygu ymyrraeth feddygol, megis therapi hormonau a llawdriniaethau, ond nid yw pob person traws yn dymuno neu'n gallu cael hyn. Gall trawsnewid hefyd gynnwys dweud wrth ffrindiau a pherthnasau, gwisgo'n wahanol a newid dogfennau swyddogol.