Canllawiau Trawsrywedd (Ebrill 2025)
Yn yr adran hon
7. Cyflogaeth
|
|
|
|
|
|
Gall fod yn gam anodd iawn i rywun gysylltu â'i reolwr i ddweud wrtho ei fod yn bwriadu trawsnewid. Yn aml, nid yw'r person yn gwybod sut y bydd y rheolwr yn ymateb na sut y bydd y bobl yn y gwaith yn ymateb yn gyffredinol i'r newyddion.
Dylai rheolwyr ddilyn yr egwyddorion isod i gefnogi unigolion:
• Gwrando, dangos cefnogaeth, trafod lefelau o gyfrinachedd, cytuno i ofyn am gyngor a chytuno i weithio mewn partneriaeth. Dylai'r broses gael ei harwain gan y gweithiwr gymaint ag sy'n bosibl.
• Cael cyngor gan y timau Adnoddau Dynol, Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Llesiant a Dysgu a Datblygu, fel y bo'n briodol.
• Deall bod gan weithwyr ystod o brofiadau neu amcanion. Mae'n well gan rai pobl fod cyn lleied â phosibl o bobl yn gwybod am eu cyfnod trawsnewid ac maent yn penderfynu trafod hyn â'u rheolwr yn unig ond nid oes angen arnynt unrhyw gymorth pellach; gall rhai gweithwyr fod yn cynllunio ymyrraeth feddygol neu efallai fod yn well ganddynt drawsnewid mewn modd nad yw'n cynnwys ymyrraeth feddygol neu lawdriniaeth. Yr hyn sy'n allweddol yw bod angen i reolwyr fabwysiadu ymagwedd sy'n diwallu anghenion y gweithiwr unigol.
• Cytuno â'r gweithwyr ynghylch pa gamau sydd angen eu cymryd cyn, yn ystod ac ar ôl iddynt drawsnewid. Mae rhai pobl yn cyfeirio at hyn fel datblygu cytundeb neu gynllun gweithredu.
• Dylid trefnu cyfres o gyfarfodydd adolygu rhwng y gweithiwr a'r rheolwr, ar amledd y cytunwyd arno fel rhan o unrhyw gytundeb neu gynllun gweithredu, ac ar unrhyw gam arwyddocaol o'r broses (er enghraifft bob pythefnos/mis).
• Dylai'r cynllun hwn gael ei ddiweddaru a'i ddatblygu, ac ni ddylai fod yn gynllun sefydlog.
• Dylid cytuno ynghylch ble y dylid cadw'r cynllun neu unrhyw nodiadau am gyfarfodydd a phwy sydd yn gallu cael mynediad atynt.
Mae perthynas agored a llawn ymddiriedaeth rhwng gweithiwr traws a'r rheolwr yn bwysig. Dylai hyn gynnwys datrys problemau ar y cyd (megis rhagweld a chynllunio ar gyfer unrhyw bryderon), parchu cyfrinachedd, bod yn ddibynadwy (gwneud yr hyn rydych yn dweud eich bod yn mynd i'w wneud) a datblygu empathi a dealltwriaeth. Mae templed awgrymedig ynghylch cofnodi trafodaethau rhwng y gweithiwr a'r rheolwr ar gael yn Atodiad 3.