Canllawiau Trawsrywedd (Ebrill 2025)
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Nodau ac Amcanion
- 3. Cwmpas
- 4. Pobl Draws a Thrawsnewid
- 5. Amddiffyn yn ystod cyflogaeth
- 6. Recriwtio
- 7. Cyflogaeth
- 8. Goblygiadau ymarferol pan fo'r broses drawsnewid yn digwydd yn ystod cyflogaeth gyda ni
- 9. Yn ystod y broses drawsnewid ac ar ôl hynny
8. Goblygiadau ymarferol pan fo'r broses drawsnewid yn digwydd yn ystod cyflogaeth gyda ni
|
|
|
|
|
|
Pan fydd gweithiwr yn trawsnewid yn ystod ei gyflogaeth gyda ni, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cymorth, cefnogaeth a chyngor ar gael i'r gweithiwr ac i'r rheolwr lle y bo'n briodol.
Mae trawsnewid yn broses unigryw ar gyfer pob gweithiwr a gall gynnwys unrhyw nifer o newidiadau i fywyd unigolyn. Ni ddylid tybio mai nod pob person yw newid ei ffisioleg neu ei ryw cyfreithiol.
Gall gweithwyr ofyn am gymorth gan eu rheolwr, neu'r timau Adnoddau Dynol, Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Llesiant a Dysgu a Datblygu.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i'r rheolwyr ystyried y templed yn Atodiad 3, ond y cam cyntaf fydd gofyn i'r gweithiwr sut yr hoffai reoli ei gyfnod trawsnewid ei hun yn y gweithle.
Bydd y rheolwyr yn cael eu llywio gan y gweithiwr o ran pa mor gyflym y bydd y cyfnod trawsnewid yn datblygu a byddant yn anelu at ddod i gytundeb ynghylch materion megis:
• Pryd y bydd y gweithiwr yn cyflwyno'i hun yn ei rywedd a gaffaelwyd am y tro cyntaf.
• Pryd y bydd newidiadau i enwau a chofnodion swyddogol yn cael eu gwneud.
• Sut a phryd y bydd cydweithwyr yn cael gwybod am y newid.
• Sut y caiff gwybodaeth ei rheoli a chan bwy.
• Amser o'r gwaith a allai fod yn ofynnol ar gyfer cael triniaeth feddygol neu lawfeddygol, a/neu sgil-effeithiau posibl.
• A fydd amser o'r gwaith yn cael ei gymryd cyn dychwelyd i'r gwaith yn y rhywedd a gaffaelwyd.
Yn ogystal, efallai y bydd y gweithiwr am ofyn am addasiadau dros dro neu barhaol a fydd yn cefnogi ei broses drawsnewid. Dylai awgrymiadau ar gyfer addasiadau i'r gweithle gael eu harwain gan y gweithiwr. Dylai'r rheolwr ystyried ceisiadau o'r fath yn empathig, a gall ddefnyddio'r Canllawiau ynghylch Addasiadau Rhesymol i gefnogi ac arwain y sgwrs. Gellir cofnodi unrhyw addasiadau y cytunwyd arnynt ar y ffurflen addasiadau rhesymol, gan gadw cyfrinachedd mewn cof. Ni ddylid trosglwyddo gwybodaeth i unrhyw un arall o dan unrhyw amgylchiadau heb ganiatâd penodol y gweithiwr sy'n trawsnewid.
Mae cyfres o ystyriaethau ymarferol (y mae gan rai ohonynt oblygiadau cyfreithiol) y dylai rheolwyr fynd i'r afael â hwy ar y cyd â'r gweithiwr:
• Dyddiadau ac amserlenni – pennu pryd y bydd newidiadau allweddol yn digwydd a sut y byddant yn cyd-fynd ag unrhyw derfynau amser sy'n berthnasol i'r gwaith. Bydd y newidiadau allweddol hyn yn amrywio yn dibynnu ar y gweithiwr ond gallent gynnwys newid enw, dogfennaeth, newidiadau ffisegol neu newidiadau tymor byr neu barhaol i'r rôl. Gellid ystyried materion ymarferol sy'n ymwneud â'r broses, er enghraifft, argaeledd unigolion allweddol i gefnogi'r broses, patrymau sifftiau.
• Cofnodion a systemau – beth sydd angen ei newid, pryd y bydd hyn yn digwydd a beth fydd yn digwydd i "hen" gofnodion? Mae hyn yn cynnwys er enghraifft ffotograffau, bywgraffiadau, ar ein gwefan neu ar y fewnrwyd neu wybodaeth hanesyddol ar gofnodion Adnoddau Dynol (megis cyfeiriad at gyfnod blaenorol o absenoldeb mamolaeth i ddyn trawsryweddol). Hefyd efallai y bydd angen addasu manylion y gyflogres ac Yswiriant Gwladol, felly mae'n hanfodol, lle mae angen i bobl eraill yn ein sefydliad fod yn ymwybodol ohono, fod hyn yn digwydd mewn modd sy'n rhoi ystyriaeth i'r cyd-destun.
• Cyfathrebu â chydweithwyr – dylai rheolwyr annog y gweithwyr i ddisgrifio'r hyn a fydd orau iddynt yn eu barn nhw. Gallai hyn olygu cyfathrebu ar lafar mewn cyfarfod tîm neu ar sail un i un, gallai'r person traws ddewis bod yn bresennol neu'n absennol, neu gallai fod drwy gyfrwng cyfathrebu electronig y cytunwyd arno. Efallai na fydd y gweithiwr yn barod i ddweud wrth unrhyw un arall yn ystod y camau cynnar ac os felly, dylid parchu hyn. Mae pob sefyllfa'n wahanol ond mae angen i'r cynllun cyfathrebu godi ychydig o ymwybyddiaeth gyffredinol a mynd i'r afael â materion sy'n benodol i'r gweithiwr. Mae angen i gydweithwyr allu gofyn cwestiynau a rhaid i reolwyr sicrhau naws sy'n cynnwys cynhwysiant a pharch llwyr. Bydd angen i'r cyfathrebu hwn fod yn ymarferol gan fynd i'r afael â materion pwysig megis sut i annerch y cydweithiwr traws (enw newydd, rhagenw cywir), sut i gefnogi'r cydweithiwr, sut i ddelio â chwestiynau a allai ddod o'r tu alla o'r tîm heb dorri cyfrinachedd.
• Defnyddio cyfleusterau – Cynghorir rheolwyr a gweithwyr i ddilyn diweddariad interim y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar oblygiadau ymarferol Dyfarniad y Goruchaf Lys a gyhoeddwyd ar 25 Ebrill 2025.
• Amser o'r gwaith – efallai y bydd absenoldebau o'r gwaith am resymau meddygol neu ar gyfer apwyntiadau eraill sy'n gysylltiedig â'r broses drawsnewid. Gweler y Polisi Amser o'r Gwaith i gael rhagor o ganllawiau.
• Addasu dyletswyddau yn y tymor byr – gall hyn fod yn briodol mewn rhai achosion. Gall hyn ddigwydd yn unig os bydd y gweithiwr a'r rheolwr yn gytûn.
• Cyfathrebu â chwsmeriaid/defnyddwyr gwasanaeth – bydd yr angen yn amrywio yn dibynnu ar rôl y gweithiwr. Dylai'r rheolwr drafod â'r gweithiwr ynghylch y ffordd orau o gyfleu'r wybodaeth i'n cwsmeriaid a'n defnyddwyr gwasanaeth.
• Gwisg – anogir pob gweithiwr, gan gynnwys gweithwyr traws ac anneuaidd, i wisgo opsiynau gwisg yr Awdurdod neu'r wisg y maent yn teimlo'n fwyaf cyfforddus yn ei gwisgo waeth a ydynt yn trawsnewid ai peidio. Lle y mae'r broses drawsnewid yn cynnwys newidiadau i ymddangosiad, bydd y gweithiwr yn penderfynu pryd y mae'n briodol i ddechrau cyflwyno ei hun mewn dillad y mae'n credu eu bod yn briodol. Fel rhan o'r broses drawsnewid yn y gweithle efallai y bydd angen i'r rheolwr drafod â'r gweithiwr ynghylch ei anghenion a'i ddewisiadau ar hyn o bryd, yn enwedig lle y mae gwisg yn cael ei gwisgo fel rhan o'r rôl a bod angen un newydd. Dylai gwisgoedd sy'n niwtral o ran rhywedd fod ar gael ar gyfer yr holl staff.
• Parchu a cheisio darparu ar gyfer ceisiadau am anhysbysrwydd – os dymunir hyn. Gall trawsnewid fod yn broses anodd ac efallai na fydd cydweithwyr traws am gael unrhyw sylw. Gall y gweithiwr drafod trefniadau gwaith amgen dros dro â'i reolwr ac ystyried pa opsiynau a allai fod ar gael i gyd-fynd â'r hyn sy'n addas ar gyfer anghenion y gwasanaeth a chymorth ar gyfer y gweithiwr.
• Dylai aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - gyfeirio at wefan Cronfa Bensiwn Dyfed am wybodaeth sy'n ymwneud â'r effeithiau ar aelodaeth.
• Dylai Aelodau Pensiynau Athrawon - gyfeirio at wefan Pensiynau Athrawon.