Canllawiau Trawsrywedd (Ebrill 2025)

Atodiad 1 – Geirfa Termau

Deurywiol – cyfeirio at berson sydd â chyfeiriadedd emosiynol, rhamantaidd a/neu rywiol tuag at fwy nag un rhywedd.

Camenwi – galw rhywun wrth ei enw geni ar ôl iddo newid ei enw.  Mae'r term hwn yn aml yn gysylltiedig â phobl drawsryweddol sydd wedi newid eu henwau fel rhan o'u proses drawsnewid.

Hoyw – cyfeirio at ddyn sydd â chyfeiriadedd emosiynol, rhamantaidd a/neu rywiol tuag at ddynion.  Mae hefyd yn derm cyffredinol ar gyfer rhywioldeb o ran lesbiaidd a hoyw – mae rhai menywod yn diffinio eu hunain fel hoyw yn hytrach na lesbiaidd.

Rhywedd – yn aml mae'n cael ei fynegi o ran gwrywdod a benyweidd-dra, ac mae rhywedd yn cael ei bennu'n ddiwylliannol i raddau helaeth o ran y rhyw a roddwyd ar enedigaeth.

Dysfforia rhywedd – defnyddir i ddisgrifio pan fydd person yn teimlo'n anghyfforddus neu'n drist oherwydd bod diffyg cyfatebiaeth rhwng y rhyw a roddwyd iddo ar enedigaeth a'i hunaniaeth o ran rhywedd.     Yn ogystal, dyma'r diagnosis clinigol i rywun nad yw'n teimlo'n gyfforddus â'r rhywedd a roddwyd iddynt ar enedigaeth.

Hunaniaeth o ran rhywedd – ymdeimlad mewnol person o'i rywedd ei hun, boed yn wrywaidd, yn fenywaidd neu'n rhywbeth arall, a allai gyfateb i'r rhywedd a roddwyd iddynt ar enedigaeth neu beidio.

Ailbennu rhywedd – ffordd arall o ddisgrifio cyfnod trawsnewid unigolyn. Fel arfer, mae ailbennu rhywedd yn golygu cael rhyw fath o ymyriad meddygol, ond gall hyn hefyd olygu newid enwau, rhagenwau, gwisgo'n wahanol a byw yn y rhywedd y mae'r unigolyn yn ei gydnabod. Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd a ddiogelir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Tystysgrif cydnabod rhywedd (GRC) – mae hyn yn galluogi pobl draws i gael eu cydnabod yn gyfreithiol yn y rhywedd y maent yn ei ddatgan a chael tystysgrif geni newydd.  Ni fydd pob person traws yn gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd ac ar hyn o bryd mae'n rhaid bod dros 18 oed i wneud cais.  Nid oes angen tystysgrif cydnabod rhywedd arnoch i newid eich rhywedd yn y gwaith nac i newid eich rhywedd yn gyfreithiol ar ddogfennau eraill fel eich pasbort.

Lesbiad – cyfeirio at fenyw sydd â chyfeiriadedd emosiynol, rhamantaidd a/neu rywiol tuag at fenywod.

LHDT – yr acronym ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.

Anneuaidd – term ymbarél ar gyfer person nad yw'n arddel ei hun fel dyn neu fenyw yn unig, neu ar gyfer person sy'n arddel ei hun fel y ddau.

Panrywiol – cyfeirio at berson nad yw'n gyfyngedig mewn dewis rhywiol o ran rhyw fiolegol, rhywedd neu hunaniaeth o ran rhywedd. 

Rhagenw – geiriau rydyn ni'n eu defnyddio i gyfeirio at rywedd pobl mewn sgwrs – er enghraifft 'ef' neu 'hi'.   Efallai y byddai'n well gan rai pobl fod eraill yn cyfeirio atynt mewn iaith sy'n niwtral o ran rhywedd a defnyddio rhagenwau megis nhw/eu.

Traws – term ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yr un fath â'r rhywedd a roddwyd iddynt ar enedigaeth, neu nad ydynt yn gyfforddus ag ef.  Gall pobl draws ddisgrifio'u hunain gan ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth o dermau, gan gynnwys (ond nid yw'n gyfyngedig iddynt) Trawsryweddol. Trawsrywiol, Genderqueer (GQ), Rhyweddhylifol, Anneuaidd, Rhywedd amrywiol, Croeswisgwr, Dirywedd, Anrywedd, Trydydd rhywedd, Dau enaid, Deurywedd, Dyn Trawsryweddol, Menyw Drawsryweddol, a Neutrois.

Trawsnewid – y camau y gall person traws eu cymryd i fyw yn y rhywedd y maent yn ei arddel.  Bydd proses drawsnewid pob person yn golygu gwahanol bethau. I rai, mae hyn yn golygu ymyrraeth feddygol, megis therapi hormonau a llawdriniaethau, ond nid yw pob person traws yn dymuno neu'n gallu cael hyn.  Gallai trawsnewid hefyd olygu pethau megis dweud wrth ffrindiau, gwisgo'n wahanol a newid dogfennau swyddogol.