Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024

13. Camau ffurfiol

Dylai pawb sy'n rhan o'r mater wneud pob ymdrech i ddatrys pryderon ar y cam anffurfiol, gan fod hyn yn arwain at well canlyniadau i bawb. Fodd bynnag, gallai fod yna achlysuron lle nad oes modd datrys ymddygiad annerbyniol neu lle nad yw'n briodol ei reoli ar gam anffurfiol a bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos.

13.1 Y Weithdrefn Achwyniadau:

Pan fydd pob ymgais resymol i ddatrys y mater yn anffurfiol wedi'u defnyddio a/neu fod yr ymddygiad amhriodol yn parhau, gallwch ffurfioli eich pryderon trwy gamau ffurfiol y Polisi Achwyniad. Dylech gyflwyno hyn ar ffurf ysgrifenedig i'ch rheolwr (neu reolwr uwch ble mae'r pryderon yn ymwneud â'ch rheolwr llinell) gan amlinellu'r rhesymau dros gwyno. Ar ôl cael cwyn ffurfiol, dylid gweithredu Cam 1 y Weithdrefn Achwyniadau.

Dylai eich rheolwr ofyn am gyngor gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol ar y cyfle cyntaf posibl ar ôl cael achwyniad ffurfiol.

Ar bob cam o'r Weithdrefn Achwyniadau ffurfiol, mae gan y derbynnydd a'r gweithiwr sy'n gyfrifol am yr ymddygiad amhriodol canfyddedig ill dau'r hawl i ddod â rhywun gyda nhw, h.y. cynrychiolydd undeb llafur cydnabyddedig neu gydweithiwr.

 

13.2 Y Polisi Disgyblu:

Bydd adegau pryd y bydd yr ymddygiad y rhoddir gwybod amdano yn unol â'r canllawiau hyn yn dod o dan ddiffiniadau'r Polisi Disgyblu; Polisi Camau disgyblu. Bydd hyn yn dibynnu ar ddifrifoldeb y mater a natur y pryderon. Dylai eich rheolwr ofyn am gyngor gan Bartner Busnes Adnoddau Dynol ym mhob achos unigol.

Gall ymddygiad o'r fath arwain at gamau disgyblu hyd at, a chan gynnwys diswyddo os caiff ei gyflawni:

  • mewn sefyllfa waith.
  • mewn unrhyw sefyllfa sy'n gysylltiedig â gwaith fel digwyddiad cymdeithasol gyda chydweithwyr.
  • yn erbyn cydweithiwr neu berson arall sy'n gysylltiedig â'r cyflogwr y tu allan i sefyllfa waith, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, neu
  • yn erbyn unrhyw un y tu allan i sefyllfa waith lle mae'r digwyddiad yn berthnasol i'w haddasrwydd i gyflawni'r rôl.

Bydd ffactorau gwaethygol megis cam-drin pŵer gan uwch-gydweithiwr yn cael eu hystyried wrth benderfynu pa gamau disgyblu i'w cymryd.