Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024

9. Penderfynu p'un a yw ymddygiad annerbyniol yn digwydd.

Y cwestiynau allweddol yw:

• A yw'r person yn profi anghysur, trallod neu anhapusrwydd yn y gwaith neu gartref sy'n deillio o'r gwaith?
• A yw hyn o ganlyniad i ymddygiad annerbyniol person arall yn y gwaith?

Gall ymddygiad annerbyniol ddigwydd hefyd y tu allan i'r gwaith e.e. mewn digwyddiadau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r gwaith ac mae egwyddorion y canllawiau hyn yn parhau i fod yn berthnasol. Mae'n bwysig eich bod yn cydymffurfio â'r safonau a nodwyd yn Adran 4 a 5 y canllawiau hyn a'r Côd Ymddygiad, y Polisi Cyfryngau cymdeithasol  a'r Polisi Cydroddoldeb ac Amrywiaeth 

Nid yw'r enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol yn y canllawiau hyn yn cynnwys popeth ac mae'n bosibl y cymerir camau gweithredu lle bernir bod ymddygiad sydd heb ei nodi yn annerbyniol wrth ystyried egwyddorion y polisi hwn.