Ailgylchu yn y Gweithle

Diweddarwyd y dudalen: 11/09/2024

Mae'r ffordd rydym yn ailgylchu yn y gweithle wedi newid 

Bellach, yn ôl y gyfraith mae’n rhaid i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu. 

Er mwyn cydymffurfio â hyn, rydym wedi gosod mannau ailgylchu dynodedig mewn lleoliadau strategol mewn adeiladau, yn lle biniau unigol ar draws y gweithle,  gan ei gwneud yn haws i chi waredu'ch gwastraff yn gyfrifol.

Mae posteri wedi’u gosod i ddangos i chi ble mae’r lleoliadau hyn. Os oes gennych fin yn eich swyddfa nad yw wedi'i leoli mewn mannau ailgylchu dynodedig, ni fydd yn cael ei gasglu.

O dan ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, bydd yn ofynnol i safleoedd annomestig wahanu'r deunyddiau i’r categorïau canlynol i'w casglu: 

  • papur a chardbord
  • metel, plastig a chartonau
  • bwyd
  • gwydr

Mae’n rhaid i eitemau fod yn lân ac yn wag. Ni fyddwch yn gallu ailgylchu rhai eitemau y mae modd i chi ailgylchu gartref e.e. ffilm blastig a hambyrddau bwyd plastig du. Gwiriwch ein rhestr Ailgylchu A-Y i weld beth mae modd ei ailgylchu a pha fin dylid ei ddefnyddio.

Hefyd, fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, ni chaniateir i sefydliadau ddefnyddio unedau gwaredu gwastraff mwyach gan fod gwaredu gwastraff bwyd i garthffosydd hefyd yn cael ei wahardd.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio'r gyfraith newydd a gellir rhoi dirwyon am beidio â chydymffurfio.

Cyfrifoldeb pawb yw rhoi'r gwastraff cywir yn y bin sydd wedi'i labelu'n gywir. Ni chaniateir rhoi eich holl wastraff mewn un bin - rhaid i chi ddidoli'ch gwastraff yn iawn.   

Gallai methu â chydymffurfio â'r gyfraith olygu dirwy.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pob gweithle.