Buddion Staff

Diweddarwyd y dudalen: 21/05/2024

Fel gweithiwr, gallwch fwynhau cannoedd o gynigion a gostyngiadau drwy ein cynllun Buddion Staff gyda Terryberry, cwmni manteision gweithwyr.

Ochr yn ochr ag arbed arian ar frandiau mawr, gallwch hefyd ddod o hyd i ostyngiadau lleol yn eich ardal drwy ddefnyddio eich Vectis Card. Chwiliwch am leoliadau sy'n cymryd rhan pan fyddwch yn cofrestru ac yn mewngofnodi i wefan Buddion Staff (www.buddionstaffcsg.co.uk) i ddod o hyd i'ch cynigion.

Os hoffech chi fanteisio ar gynnig gyda'ch hoff fanwerthwr neu leoliad, rhowch wybod i Terryberry ar y tab 'Enwebu Manwerthwr' ar y wefan.

*I gael mynediad i'ch Vectis Card, lawrlwythwch neu diweddarwch yr ap Vectis Card am ddim ar yr Apple Store neu Google Play a defnyddiwch y cyfeiriad e-bost ddefnyddioch chi i greu eich cyfrif Buddion Staff Cyngor Sir Caerfyrddin a Rhif Adnabod y Cynllun 6991.

Yn ogystal, byddwch hefyd yn gallu mwynhau ystod o fanteision i weithwyr mewn un lle - gan gynnwys cynllun buddion ceir Tusker, llesiant ariannol drwy Salary Finance, byw'n iach, cynllun beicio i'r gwaith a mwy.

Cofrestrwch nawr i gael rhagor o wybodaeth!