Cycle Solutions - Cynllun Beicio i'r Gwaith

Diweddarwyd y dudalen: 02/01/2024

Darperir y cynllun hwn i weithwyr cymwys gan Cycle Solutions. Mae'r Cynllun Beicio i'r Gwaith yn fenter a gefnogir gan y Llywodraeth sy'n eich galluogi i gael beic a/neu ategolion beicio i'w defnyddio ar gyfer beicio i'r gwaith gan arbed treth ac Yswiriant Gwladol o'ch cyflog gros. Gallwch ddewis eich cyfuniad perffaith o ran beic ac ategolion ac yna rhentu'r offer trwy ildio cyflog gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.

Uchafswm eich pris prynu drwy'r cynllun hwn yw £3,500 gan gynnwys unrhyw ategolion. Pan fyddwch yn gwneud archeb dros £1,000 ar y cynllun, gallwch ddewis cyfnod o 12 mis neu 24 mis wrth nodi eich manylion. Sylwch y bydd hyn yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.

Mae'r meini prawf cymhwysedd yn nodi bod yn rhaid i'ch contract cyflogaeth fodloni hyd y cytundeb ac nad yw'r cyflog a ildir o'ch cyflog gros yn golygu bod y swm yn llai na gofynion y Cyflog Byw Cenedlaethol.

Gweler copi o'r Cwestiynau Cyffredin isod.

Mae ildio cyflog yn digwydd pan fyddwch yn ildio'r hawl i dderbyn rhan o'ch cyflog dyledus. Mae ildio cyflog yn eich galluogi i ad-dalu'r benthyciad ar eich beic, ategolion ac offer diogelwch o'ch cyflog gros yn hytrach na'ch tâl net am y cyfnod llogi. Mae hyn yn caniatáu i chi elwa o ryddhad Yswiriant Gwladol a threth incwm, sef lle mae arbedion yn cael eu gwneud.

Gall arbedion nodweddiadol ar y cynllun fod hyd at 39% i drethdalwyr cyfradd sylfaenol, a 48% i drethdalwyr cyfradd uwch, ond mae'r swm gwirioneddol rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich band treth personol.

  • Arbed arian
  • Fforddiadwy - rhannu cost eich beic dros amser
  • Defnydd heb gyfyngiadau yn ystod amser hamdden
  • Gwella iechyd a ffitrwydd
  • Lleihau tagfeydd traffig a llygredd

Ni allai'r broses archebu fod yn symlach, defnyddiwch y ddolen ganlynol:

Cycle Solutions Cycle2Work (buddionstaffcsg.co.uk)

Ar ôl i chi ddewis eich beic ac unrhyw ategolion, defnyddiwch y swyddogaeth wirio i gadarnhau eich dewis. Bydd aelod o'r tîm cyflawni archebion Cycle Solutions yn eich ffonio i wirio bod popeth yn gywir a bydd yn dewis ac yn dosbarthu eich pecyn wedi'i deilwra yn uniongyrchol i'ch drws.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Cycle Solutions yn uniongyrchol drwy'r dudalen we sydd i'w gweld yma: Cycle Solutions Cycle2Work (buddionstaffcsg.co.uk)

Os hoffech siarad â chynrychiolydd o fewn y Cyngor am y cynllun, e-bostiwch CRFinanceTechnical@sirgar.gov.uk a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi.

A hoffech chi wella eich sgiliau ar y ffyrdd? Os felly, gallwch archebu sesiwn hyfforddi 1:1 yn rhad ac am ddim gydag un o'n hyfforddwyr cymwysedig.
Bydd y cwrs yn:
• Eich helpu i feicio’n ddiogel mewn unrhyw amgylchiadau – gan gwella eich safle ar y ffordd, rhoi signalau ac ymwybyddiaeth o'r ffordd.
• Eich helpu i ddatblygu strategaethau uwch ar gyfer ffyrdd trefol.
• Hybu eich hyder a gwella'r mwynhad o feicio.

Sut mae'n gweithio:
• Rydym yn trefnu taith feicio gyda chi am 1-2 awr a chi fydd yn dewis y daith.
• Yn aml mae pobl am gael help i gynllunio, yna rhoi cynnig ar deithio i'r gwaith ac yn ôl, neu yn syml teithio i'r siopau, meddyg ac ati.
• Mae'r sesiwn yn cynnwys amser ar y dechrau a'r diwedd i siarad am y daith.
• Mae'n RHAD AC AM DDIM yn Sir Gaerfyrddin, ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael!

Am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen Diogelwch ffyrdd ar wefan y Cyngor.