Cynllun Cymorth Benthyciad i Brynu Car

Diweddarwyd y dudalen: 08/01/2024

Mae'r cynllun hwn yn fenter sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer gweithwyr sy'n teithio'n barhaus at ddibenion cyflogaeth. Diben y cynllun hwn yw helpu gweithwyr i brynu cerbyd sy'n addas i ymgymryd â dyletswyddau cyflogaeth.

Y Cynllun

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn benthyg uchafswm o £9,999 i weithwyr cymwys. Mae'r gyfradd llog sy'n berthnasol i'r swm a fenthycwyd 1% yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr. Ar ôl i'r benthyciad gael ei gymeradwyo'n llwyddiannus, bydd ad-daliadau ar gyfer cyfnod y benthyciad yn cael eu didynnu o'ch cyflog. NID yw'r cynllun hwn yn gynllun ildio cyflog ac felly NI chyflawnir unrhyw arbedion o ran trethi, Yswiriant Gwladol na phensiwn.

Cymhwysedd

  • Rhaid i chi deithio o leiaf 1,000 milltir busnes fesul cyfnod treigl o ddeuddeg mis. Rhaid dangos tystiolaeth o hyn, gweler canllawiau a ffurflen gais y cynllun.
  • Mae angen i chi fod yn weithiwr parhaol. Os ydych ar gontract cyfnod penodol neu gontract dros dro, rhaid bod eich contract cyflogi am gyfnod sy’n hwy na chytundeb y benthyciad arfaethedig (isafswm o ddwy flynedd).

I gael arweiniad manwl pellach ar y cynllun, gweler y nodiadau cyfarwyddyd isod:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod y cynllun hwn yn fanylach, cysylltwch â crfinancetechnical@sirgar.gov.uk.

Os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a nodir uchod, llenwch y ffurflen gais isod a'i dychwelyd at crfinancetechnical@sirgar.gov.uk i'w phrosesu. Gweler y rhestr wirio a ddarperir isod i sicrhau bod eich cais yn gyflawn.

Cofiwch fod benthyciadau yn amodol ar feini prawf cymhwysedd a rhaid i geisiadau fodloni'r gofynion llawn fel y nodir yn y nodiadau cyfarwyddyd.

Cyn llenwi’r ffurflen gais:

  • Yn gallu dangos tystiolaeth bod o leiaf 1,000 o filltiroedd busnes wedi'u teithio mewn cyfnod treigl o'r 12 mis diwethaf.
  • Mae'r contract cyflogaeth yn cwmpasu cyfnod y benthyciad arfaethedig (o leiaf ddwy flynedd).
  • Ni fydd y benthyciad (uchafswm o £9,999):
    - yn fwy na 90% o werth y car, nac
    - yn fwy na'r gwahaniaeth rhwng y pris a dalwyd am brynu'r car a'r lwfans a gynigir yn rhan-gyfnewid am hen gar y gweithiwr (os oes un).

Ffurflen gais: ar ôl ei llenwi'n llawn:

  • Anfoneb ar gyfer y cerbyd.
  • Tystysgrif Peiriannydd Ceir Annibynnol wedi'i chwblhau.
  • Llungopi o drwydded yrru'r ymgeisydd wedi'i llofnodi a'i ddyddio gan y Cyfarwyddwr.
  • Llofnod yr ymgeisydd.
  • Llofnod Cyfarwyddwr yr ymgeisydd.

Bydd telerau ac amodau canlynol y cynllun yn berthnasol fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir.

1. Cymhwysedd
(a) Rhaid i weithwyr deithio o leiaf 1,000 milltir busnes fesul cyfnod treigl o ddeuddeg mis.
(b) Mae'n rhaid i staff fod yn gyflogedig gyda thâl yn barhaol. Os ydych ar gontract cyfnod penodol neu gontract dros dro, rhaid bod eich contract cyflogi am gyfnod sy’n hwy na chytundeb y benthyciad arfaethedig (isafswm o 2 flynedd).

2. Y Benthyciad
(a) Yr uchafswm a fenthycir yw £9,999.00.
(b) Ni fydd y benthyciad yn fwy na 90% o werth y car na'r gwahaniaeth rhwng y pris a dalwyd i'r car gael ei brynu a'r lwfans a gynigir mewn rhan o gyfnewid ar gyfer hen gar y gweithiwr (os oes un).
(c) Rhaid i bob car ail-law gael ei archwilio gan Uned Cynnal a Chadw Cerbydau yr Awdurdod, yr AA neu’r RAC neu beiriannydd ceir annibynnol arall, i weld a yw’r car yn addas i’r ffordd fawr, ac i wneud amcangyfrif o’r oes sy’n weddill i’r car, a pha mor rhesymol yw’r pris. Mewn achos o’r fath, bydd gofyn cael “Tystysgrif Addasrwydd”.

3. Cyfnod ad-dalu
(a) Uchafswm o 5 mlynedd ar gyfer ceir sydd o dan 3 oed.
(b) Uchafswm o 4 blynedd ar gyfer unrhyw gerbyd arall.
Mae (a) a (b) yn ddibynnol ar oes y car yn cael ei amcangyfrif yn fwy na chyfnod yr ad-daliad.

4. Terfynu’r Benthyciad yn Gynnar/Newid Car
(a) Os bydd y gweithiwr yn terfynu'r benthyciad yn gynnar, gellir ychwanegu'r swm sy'n weddill ar yr hen fenthyciad at y gwahaniaeth rhwng y pris prynu newydd a'r gwerth rhan-gyfnewid i bennu lefel y benthyciad sydd ar gael.
(b) Os yw'r gweithiwr yn peidio â chael ei gyflogi gan y Cyngor mwyach neu os yw'r gweithiwr am ryw reswm arall yn methu â chadw at delerau'r cytundeb, bydd y swm sy'n weddill yn ad-daladwy yn llawn ar unwaith.
(c) Ni ddylai'r gweithiwr gael gwared ar y cerbyd o dan unrhyw amgylchiadau yn ystod y cyfnod pan fo unrhyw falans yn weddill ar y benthyciad, heb gael caniatâd yr Awdurdod.
(d) Rhoddir y caniatâd hwnnw mewn amgylchiadau eithriadol yn unig os derbynnir cais i newid y car yn ystod dwy flynedd gyntaf cyfnod y benthyciad.
(e) Rhaid i unrhyw weithiwr sy’n prynu car drwy fenthyciad car sicrhau bod y car ar gael at ei ddefnydd swyddogol, a bod y car yn cael ei gynnal a'i gadw a'i wasanaethu'n briodol. Ni ellir newid y
car cyn i'r benthyciad gael ei ad-dalu heb gymeradwyaeth y Cyngor a dim ond os yw'r car newydd yn fwy na gwerth y cerbyd a brynwyd yn wreiddiol y rhoddir hyn.

5. Llog
Bydd y Gyfradd Log Flynyddol berthnasol yn 1% yn uwch na Chyfradd log sylfaenol Banc Lloegr 28 diwrnod cyn dyddiad y Cytundeb.

6. Cofrestru ac Yswirio'r Cerbyd
(a) Rhaid i'r cerbyd gael ei gofrestru yn enw'r gweithiwr.
(b) Rhaid i'r gweithiwr gynnal polisi yswiriant cynhwysfawr (gan gynnwys defnydd busnes) tra bod unrhyw falans yn weddill ar y benthyciad.
(c) Cyn i siec y benthyciad gael ei chyflwyno i'r gweithiwr, rhaid i'r gweithiwr ddangos tystysgrif yswiriant ar gyfer y cerbyd sy'n destun y benthyciad. Ni fydd y siec yn cael ei throsglwyddo nes bod y dystysgrif hon wedi'i chyflwyno.
I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Cymorth Benthyciad i Brynu Car, cysylltwch â CRFinanceTechnical@sirgar.gov.uk

DALIER SYLW:
A fyddai pob ymgeisydd yn nodi:
Gallai fod yn rhaid aros 5 diwrnod gwaith ar ôl i'r Adain Dechnegol - Cyllid dderbyn y ffurflen gais am fenthyciad cyn y bydd y siec yn barod.

C. Ydw i'n gymwys ar gyfer y cynllun?
A. I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, mae'n rhaid i chi fodloni'r gofynion canlynol:

  • Yn gallu dangos tystiolaeth eich bod wedi cwblhau O LEIAF 1,000 o filltiroedd busnes yn ystod y 12 mis blaenorol.
  • Gweithiwr parhaol. Os ydych ar gontract cyfnod penodol neu gontract dros dro, rhaid bod eich contract cyflogi am gyfnod sy’n hwy na’r cytundeb arfaethedig (o leiaf ddwy flynedd).
  • Mae wedi'i bennu bod angen defnyddiwr car dynodedig/hanfodol ar gyfer eich rôl.

C. Sut ydw i'n rhoi tystiolaeth fy mod wedi cwblhau 1,000 o filltiroedd busnes yn ystod y 12 mis diwethaf?
A. Gellir rhoi tystiolaeth am hyn drwy eich hawliadau costau teithio o fewn y 12 mis blaenorol, gallwch weld eich hawliadau ar MyView.

C. Faint fyddai blaenswm y benthyciad?
A. Uchafswm blaenswm y benthyciad sydd ar gael yw £9,999, ond gwneir dyfarniad yn seiliedig ar y canlynol:

  • NI fydd blaenswm y benthyciad yn fwy na 90% o werth y car,
  • NA'R gwahaniaeth rhwng y pris a dalwyd i'r car gael ei brynu a'r lwfans a gynigir yn rhan-gyfnewid am eich hen gar (os oes un).

C. Mae'r car rydw i wedi'i weld (angen blaenswm benthyciad) yn fwy nag uchafswm y benthyciad, yn fwy na'r gwahaniaeth y byddwn i'n ei dderbyn ar gyfer fy nghar cyfredol fel rhan-gyfnewid, ac nid oes gennyf yr arian parod ar gael i ariannu'r gwahaniaeth. A allaf gael cyllid ychwanegol drwy fenthyciad arall, hurbwrcasu neu drefniant ariannu tebyg?
A. Na allwch.

C. Sut ydw i'n ad-dalu'r benthyciad hwn?
A. NID yw'r cynllun hwn yn gynllun ildio cyflog ac felly NI wneir unrhyw arbedion o ran treth, Yswiriant Gwladol na phensiwn. Bydd yr ad-daliadau'n cael eu didynnu o'ch cyflog net (cyflog terfynol) bob mis.

C. Dros sawl blwyddyn y gallaf ad-dalu'r benthyciad hwn?
A. Dyma'r cyfnodau ar gyfer ad-dalu'r benthyciad:

  1. Uchafswm o 5 mlynedd ar gyfer ceir sydd o dan 3 oed.
  2. Uchafswm o 4 blynedd ar gyfer unrhyw gar arall.

Mae 1 a 2 uchod yn amodol ar amcangyfrif bod oes y car yn fwy na'r cyfnod ad-dalu.

C. Beth yw'r gyfradd llog flynyddol sy'n berthnasol i'r benthyciad?
A. Mae'r Gyfradd Ganrannol Flynyddol sy'n berthnasol i'r benthyciad 1% yn uwch na Chyfradd Sylfaenol Banc Lloegr 28 diwrnod cyn dyddiad y cytundeb.

C. Sut ydw i'n gwybod beth fydd fy ad-daliadau?
A. Bydd hyn yn cael ei gyfrifo unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais. Os hoffech wybod am eich ad-daliadau cyn cyflwyno'ch cais, anfonwch neges e-bost at CRFinanceTechnical@sirgar.gov.uk.

C. Rwy'n gadael y Cyngor, beth mae hyn yn ei olygu i'm benthyciad?
A. Os byddwch yn peidio â bod yn gyflogedig gan y Cyngor neu os na allwch gadw at delerau'r cytundeb am unrhyw reswm, bydd y swm sy'n weddill yn daladwy yn llawn.

C. Ar hyn o bryd mae gen i gerbyd ar y cynllun, a hoffwn waredu/newid y cerbyd hwn.
A. NI ddylech waredu/newid y cerbyd o dan unrhyw amgylchiadau yn ystod y cyfnod pan fo unrhyw falans yn weddill ar y benthyciad, heb gael caniatâd yr Awdurdod.

C. A oes angen i mi nodi unrhyw ystyriaethau wrth yswirio'r cerbyd?
A. Oes, mae'n rhaid i'r cerbyd gael ei gofrestru yn eich enw chi, a chi sy'n gyfrifol a rhaid cynnal polisi yswiriant cynhwysfawr. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth defnydd busnes tra bod unrhyw falans yn weddill ar y benthyciad.

C. Pwy ddylwn i gysylltu ag ef os hoffwn gael rhagor o wybodaeth am y cynllun?
A. Dylech anfon yr holl ymholiadau at CRFinanceTechnical@sirgar.gov.uk lle bydd aelod o'r tîm yn ymateb unol â hynny.