WHA Healthcare

Diweddarwyd y dudalen: 14/10/2026

Rydych chi fwy na thebyg wedi clywed y term ‘cynllun talu cost gofal iechyd’ o'r blaen, ond beth mae'n ei olygu?

Mae cynllun talu cost gofal iechyd wedi'i gynllunio i helpu gyda chost treuliau gofal iechyd bob dydd. Mae’n eich ad-dalu am driniaethau cymwys fel archwiliadau deintyddol, gofal y llygaid, ffisiotherapi a gwasanaethau gofal iechyd arferol eraill. Mae hyn yn wahanol i yswiriant iechyd preifat, sydd fel arfer yn talu cost triniaeth feddygol, ymgynghoriadau, a gofal ysbyty preifat.

Dyw llawer o bobl ddim yn sylweddoli faint maen nhw'n ei wario bob blwyddyn ar bethau fel:

• Archwiliadau deintyddol
• Archwiliadau optegol 
• Apwyntiadau ffisiotherapi
• Apwyntiadau cwnsela

Mae cynllun talu cost gofal iechyd yn helpu i leihau'r costau hyn trwy roi arian yn ôl tuag at dreuliau gofal iechyd cymwys, hyd at derfynau eich cynllun.

Mae'r nod yn syml: sicrhau bod gofalu am eich iechyd yn syml ac yn fforddiadwy.

Gan ddechrau ar £6.28 y mis, mae WHA Healthcare yn cynnig dau gynllun talu gwahanol sydd wedi'u teilwra i weithwyr Cyngor Sir Caerfyddin. Oeddech chi'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y gallwch ei ddidynnu'n uniongyrchol o'ch cyflogres?

Am ragor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng pob cynllun, cliciwch ar y dolenni isod. 

Cynllun Talu Cost Gofal Iechyd WHA Healthcare | Cynllun Uniongyrchol WHA Healthcare

Ymunwch â'r Cynllun Talu Cost Gofal Iechyd WHA Healthcare

Ymunwch â'r Cynllun Uniongyrchol WHA Healthcare

Rydyn ni’n argymell eich bod yn darllen y ddau gynllun a'n Telerau ac Amodau cyn gwneud penderfyniad.

Telerau ac Amodau Cynllun Talu Cost Gofal Iechyd WHA Healthcare | Dogfen Gwybodaeth Cynnyrch Yswiriant

Telerau ac Amodau Cynllun Talu Uniongyrchol WHA Healthcare | Dogfen Gwybodaeth Cynnyrch Yswiriant

*Os oes gennych chi gyflwr iechyd rydych chi'n credu sy'n effeithio ar eich gwaith ac mae angen cyngor meddygol arnoch chi i'ch helpu chi i barhau i weithio, mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin Wasanaeth Iechyd Galwedigaethol a all eich helpu chi. Siaradwch â'ch rheolwr llinell, a all wneud atgyfeiriad lle bo'n briodol.