BetterPoints De-orllewin Cymru

Diweddarwyd y dudalen: 11/03/2026

Ydych chi eisiau ennill buddion am eich teithiau bob dydd? Nawr gallwch chi – drwy BetterPoints De-orllewin Cymru.

Mae BetterPoints yn ap newid ymddygiad sy'n gwobrwyo defnyddwyr am ddewis teithio cynaliadwy fel cerdded, beicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu rannu ceir. Mae'r ap yn olrhain teithiau yn awtomatig ac yn eu troi'n bwyntiau. 

Mae'r rhaglen hon yn agored i holl staff Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'n syml iawn:

1. Lawrlwythwch BetterPoints o'r App Store neu'r Play Store.

2. Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost gwaith i gofrestru. (Dim cyfeiriad gyda chi? Rhowch y cod: swwooa). 

3. Recordiwch eich teithiau ac ennill pwyntiau ar gyfer cerdded, olwyno, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 

4. Defnyddiwch eich pwyntiau gyda manwerthwyr cenedlaethol (Amazon, Argos, Asda, B&Q, Boots, Costa, Currys PC World, Decathlon, Deliveroo, Dunelm, Greggs, H&M, IKEA, John Lewis/Waitrose, Just Eat, Love2Shop, M&S, Matalan, Morrisons, National Book Tokens, New Look, Next, Pizza Express, Primark, Sainsburys, Screwfix, Starbucks, Tesco, TK Maxx) neu gyda masnachwyr lleol. Neu eu rhoi i elusen.

Lawrlwythwch BetterPoints heddiw! Mae'n dda i chi, yn dda i'r blaned, ac yn dda i'ch waled. 

Rhagor o wybodaeth

 

Mae BetterPoints yn ap newid ymddygiad sy'n gwobrwyo defnyddwyr am ddewis teithio cynaliadwy fel cerdded, beicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu rannu ceir. Mae'r ap yn olrhain teithiau yn awtomatig ac yn eu troi'n bwyntiau. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Link

Mae'r holl staff yn gymwys i gymryd rhan yn rhaglen De-orllewin Cymru.  

Mae'r ap yn defnyddio olrhain GPS i ganfod a recordio'ch teithiau a nodi'r dull teithio.  

Gallwch ddefnyddio pwyntiau ar gyfer:

  • Talebau i fanwerthwyr cenedlaethol 
  • Gostyngiadau gyda busnesau lleol sy'n cymryd rhan
  • Rhoddion elusennol
  • Cymryd rhan mewn rafflau ar gyfer gwobrau ychwanegol (gan gynnwys talebau neu docynnau ar gyfer digwyddiadau)  

Mae partneriaid busnes lleol (e.e., canolfannau hamdden, caffis, siopau) yn cael eu hychwanegu ar hyn o bryd i sicrhau digon o ddewis ar draws y fwrdeistref.  

Mae hon yn rhaglen ranbarthol, sy'n golygu y gallwch chi ennill buddion os ydych chi'n byw neu'n gweithio unrhyw le ar draws De-orllewin Cymru. 

Nac ydy. Mae'r holl fuddion yn cael eu hariannu drwy gomisiwn BetterPoints drwy raglen Metro De-orllewin Cymru, sy'n golygu nad oes unrhyw gost net i'r Cyngor a dim cost i staff am gymryd rhan. 

Nod y rhaglen yw: 

  • Gwella llesiant staff drwy deithio llesol
  • Lleihau allyriadau carbon 
  • Annog dewisiadau teithio iachach a mwy cynaliadwy
  • Darparu data a mewnwelediadau i gefnogi cyflwyno'r ap i'r cyhoedd yn y dyfodol  

Ydy. Mae'n lansiad rhanbarthol cydgysylltiedig ar draws: 

  • Sir Gaerfyrddin
  • Castell-nedd Port Talbot 
  • Abertawe 
  • Sir Benfro 

Bydd y treial 12 mis yn helpu i asesu ymgysylltiad staff a photensial yn y dyfodol i gyflwyno'r ap i'r cyhoedd ehangach. 

Mae BetterPoints yn darparu mewnwelediadau dienw i'r Cyngor, megis lefelau gweithgarwch, patrymau teithio ac arbedion CO₂. Defnyddir data i werthuso newid ymddygiad a gwella'r rhaglen yn unig.

Mae'r lansiad rhanbarthol yn dechrau ym mis Mawrth 2026 ac yn para am 12 mis

Na fydd. Disgwylir i staff weithredu fel arfer a pharhau i deithio'n synhwyrol yn ystod oriau busnes. Ni ddylech chi wneud teithiau diangen dim ond i gasglu pwyntiau. Bydd ein deunydd cyfathrebu yn gwneud hyn yn glir a bydd yn annog staff i gymryd rhan yn bennaf y tu allan i oriau gwaith lle bo hynny'n briodol.