The Independent General Practice (iGP)

Diweddarwyd y dudalen: 06/05/2025

Mae gan staff y Cyngor bellach fynediad arbennig i wasanaethau gofal iechyd preifat gyda disgownt yn The Independent General Practice (iGP) – sydd wedi'i leoli yn MediSpace, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin.

Gyda'r cynnig arbennig hwn, gallwch fwynhau gofal meddygol o ansawdd uchel am hyd at 25% yn llai, gan sicrhau bod eich iechyd a'ch llesiant bob amser mewn dwylo arbenigol.

Mae'r iGP yn cynnig ystod eang o wasanaethau i gefnogi'ch anghenion iechyd:

  • Apwyntiadau meddyg teulu preifat – Ar gael wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu ymgynghoriad fideo
  • Gwiriadau llesiant - Profion meddygol cynhwysfawr i roi tawelwch meddwl i chi
  • Sgriniadau iechyd - Profion fforddiadwy ar gyfer cyfrif gwaed, iechyd yr arennau, diabetes, iechyd y galon, iechyd yr afu, a mwy
  • Iechyd dynion - Gan gynnwys Therapi Adfer Testosteron (TRT)
  • Iechyd menywod - Profion beichiogrwydd, cymorth menopos, a mwy
  • Gwasanaethau colli pwysau - Cynlluniau wedi'u teilwra i'ch helpu i gyrraedd eich nodau
  • Sgrinio'r galon – Gwiriadau hanfodol ar gyfer iechyd cardiofasgwlaidd
  • Pigiadau fitamin B12 - Rhoi hwb i'ch lefelau egni
  • Teithio a brechiadau arferol – Arhoswch yn ddiogel ble bynnag y mae bywyd yn mynd â chi
  • Ystod eang o brofion gwaed – wedi'u teilwra i'ch anghenion

Mae trefnu eich apwyntiad yn hawdd ac yn ddidrafferth:

  1. Archebwch ar-lein – Ewch i'n tudalen archebu unigryw ar gyfer staff: https://www.theigp.co.uk/ccc a dechrau heddiw! Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o'r dudalen!
  2. Wyneb yn wyneb – Ewch i iGP, MediSpace yng Nghaerfyrddin, a siaradwch â Hayley Palk, Rheolwr y Practis, a'r tîm.
  3. Dros y ffôn – ffoniwch 03456 252 252 ac archebwch dros y ffôn neu gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych.