Canllawiau i Gymeradwywyr

Diweddarwyd y dudalen: 24/06/2024

CYNNWYS

  1. Mewngofnodi i'r system
  2. Dangosfyrddau
  3. Y llif gwaith recriwtio
  4. Deall y broses gymeradwyo
  5. Beth ydw i'n ei gymeradwyo?
  6. Derbyn ceisiadau i'w cymeradwyo
  7. Sut i Gymeradwyo, Gwrthod neu Gwestiynu Cais
  8. Trobleshooting

Mae system Oleeo yn rhaglen ar y we ac mae'n hygyrch o'r holl borwyr modern; nid oes angen i chi lawrlwytho unrhyw beth.

Mae angen i chi gysylltu â'r Tîm Recriwtio i ofyn iddynt greu cyfrif i chi, ac wedyn byddwch wedi'ch cofrestru ar system Oleeo. Ar ôl i gyfrif gael ei greu, byddwch yn cael e-bost a gynhyrchir gan y system yn rhoi gwybod i chi am eich manylion mewngofnodi. Gall gymryd hyd at 15 munud i'r e-bost gyrraedd. Hefyd, edrychwch ar eich negeseuon sbam. Os nad ydych wedi derbyn e-bost, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio a fydd yn ailosod eich cyfrif ar eich rhan.

Eich enw defnyddiwr fydd eich cyfeiriad e-bost gwaith llawn.

Pan fyddwch yn mewngofnodi i'r system am y tro cyntaf, gofynnir i chi ailosod eich cyfrinair – bydd angen i'ch cyfrinair gynnwys o leiaf 12 nod.

Sut i fewngofnodi i'r system

 

Dolen mewngofnodi i system Oleeo: Mewngofnodi ATS Oleeo

Fel rhan o greu cyfrif ar gyfer defnyddwyr, bydd y Tîm Recriwtio hefyd yn penderfynu pa Broffil Defnyddiwr y byddwch yn ei gael. Bydd y proffil defnyddiwr yn pennu eich caniatâd o ran mynediad – yn y bôn, pa dudalennau y gallwch ac na allwch eu gweld ar y system.

Bydd gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr broffil Rheolwr Recriwtio, a fydd yn cyfyngu eich mynediad/swyddogaethau i'r swyddi gwag rydych yn eu creu, neu sy'n cael eu neilltuo i chi. Efallai y bydd proffil arall yn cael ei roi i rai defnyddwyr gan y gallent fod yn gymeradwywr e.e., Pennaeth Gwasanaeth, ond hefyd yn Rheolwr Recriwtio. Os oes gennych fwy nag un proffil, cofiwch sicrhau eich bod yn y proffil cywir ar gyfer y dasg yr hoffech ei chyflawni! Eglurir hyn yn fanylach yn yr adran Defnyddio'r System.

I gyrchu'r dudalen fewngofnodi a mewngofnodi am y tro cyntaf:

Rhowch yr URL mewngofnodi yn y bar cyfeiriad yn eich porwr. Mae'n syniad da nodi'r dudalen hon yn eich porwr, fel y gallwch chi ddychwelyd ati'n gyflym.

Pan fyddwch yn agor y ddolen i'r wefan am y tro cyntaf, cliciwch ar 'Wedi anghofio eich cyfrinair'. Nodwch eich enw defnyddiwr, sef eich cyfeiriad e-bost gwaith. Dylech gael e-bost i'ch galluogi i ailosod eich cyfrinair. Edrychwch ar eich negeseuon sbam a cofiwch y gall gymryd hyd at 15 munud i gyrraedd eich mewnflwch. Os nad ydych yn cael e-bost, rhowch wybod i mi, a gallaf wirio a ydych wedi'ch gosod fel defnyddiwr.

O hynny ymlaen, bob tro y bydd angen i chi fewngofnodi i'r system, rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.

Nodwch:

  • Mae manylion mewngofnodi yn gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach.
  • Os byddwch yn nodi'ch manylion mewngofnodi yn anghywir 5 gwaith yn olynol (e.e. cyfrinair anghywir neu briflythrennau/llythrennau bach anghywir), bydd eich cyfrif yn cael ei gloi.
  • Os yw eich cyfrif wedi'i gloi, gallwch ddefnyddio'r ddolen Ailosod Cyfrinair yn y ddewislen ar y chwith i ailosod eich cyfrinair a chael cyfrinair dros dro newydd. Bydd hwn yn cael ei anfon drwy e-bost i'ch cyfrif e-bost enwebedig.

 

Dilysu Aml-ffactor

Bydd gofyn i chi ddilysu eich hun fel defnyddiwr bob 5 diwrnod neu bob tro y byddwch yn mewngofnodi i'r system gan ddefnyddio cyfeiriad IP gwahanol. Byddwch yn cael e-bost a fydd yn cynnwys eich côd dilysu.

Ar ôl i chi fewngofnodi, byddwch yn gweld eich dangosfwrdd.

Y Tab 'Vacancies Awaiting Approval'

Mae hyn yn rhoi gwybodaeth am yr holl swyddi gwag sy'n aros am eich cymeradwyaeth.

Y Tab 'Approval Pipeline'

Gallwch ddilyn y camau cymeradwyo ar y dangosfwrdd 'Approval Pipeline'.

Y Tab 'Historic Vacancy'

Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth i chi am yr holl swyddi gwag blaenorol sydd wedi'u creu ar gyfer eich is-adran/adran.

Isod ceir trosolwg o gamau'r broses recriwtio. Mae canllawiau manwl ar bob cam ar gael drwy'r tudalennau hyn ar y fewnrwyd.

 

Ar ôl i'r rheolwr recriwtio ofyn am gymeradwyaeth ar gyfer ei swydd wag, bydd yn symud ymlaen trwy broses hysbysu awtomatig. Bydd nifer y camau yn y broses gymeradwyo yn amrywio yn dibynnu ar y sefydliad, ac amlygir y Cymeradwywr Terfynol yn y broses isod.

 

Y Cam Proses Gymeradwyo Gorfforaethol Ysgolion Llesiant Delta
Creu swydd wag Rheolwr Recriwtio Swyddog Gweinyddol, Rheolwr Busnes neu Bennaeth Ysgol Arweinydd Tîm
Cymeradwyaeth 1 Ymgynghorydd Adnoddau Dynol Gwerthuso Swyddi Gwerthuso Swyddi
Cymeradwyaeth 2 Gwerthuso Swyddi Pennaeth Ysgol Rheolwr Gweithrediadau neu Uwch-reolwr neu Reolwr Gyfarwyddwr
Cymeradwyaeth 1 Cyllid    
Cymeradwyaeth 1 Pennaeth Gwasanaeth    
Cymeradwyaeth 1 Cyfarwyddwr    
Cymeradwyaeth 1 Dirprwy Brif Weithredwr    
Gwiriad Terfynol cyn postio hysbyseb Y Tîm Recriwtio Y Tîm Recriwtio Y Tîm Recriwtio

Mae rheolwyr recriwtio yn gallu recriwtio i swydd ar eu strwythur drwy system recriwtio Oleeo. Bydd angen rhif swydd arnynt cyn y gallant greu'r cais am swydd wag ar Oleeo.

Os oes angen i reolwyr recriwtio greu swydd newydd ar eu strwythur, mae hyn yn digwydd y tu allan i Oleeo, ac mae'n rhaid iddynt ofyn am ganiatâd drwy broses Penderfyniad Gweithredol y Swyddog a'r broses Creu Swydd Newydd ar-lein.

Bydd rheolwyr recriwtio yn llenwi ffurflen 'Creu Swydd Wag' yn Oleeo.

Mae'r tabl isod yn nodi pwy fydd yn gyfrifol am edrych ar y meysydd perthnasol ar y ffurflen creu swydd wag.

 

Cymeradwywr Meysydd i'w gwirio
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol* Teitl y Swydd (Cymraeg a Saesneg); Rhif y Swydd; Y rheswm dros y swydd wag; Ble bydd yn cael ei phostio; Y rhesymau dros glustnodi (os yw'n berthnasol); Tâl Marchnad Atodol; Cwestiwn hidlo cyn ymgeisio; Cwestiwn baner goch.
Gwerthuso Swyddi Gradd; Cyflog; Cyfradd yr awr; Adran; Maes Gwasanaeth; Angen DBS; Lefel DBS; Is-adran; Adain; bod y Lefel Sgiliau Cymraeg yn cyfateb i'r proffil swydd; Testun yr hysbyseb; Proffil Swydd.
Cyllid* Côd ariannol: bod y gyllideb yn ei lle ar gyfer y swydd wag; Y Math o Gontract
Pennaeth Gwasanaeth A oes rhesymeg busnes dros recriwtio i'r swydd hon; a yw'r holl opsiynau eraill wedi'u hystyried; a yw'r swydd wag hon yn cyd-fynd â strwythurau/cynlluniau busnes; beth yw'r risg sy'n gysylltiedig â pheidio â recriwtio.
Cyfarwyddwr / Rheolwr Gweithrediadau / Pennaeth Ysgol A oes rhesymeg busnes dros recriwtio i'r swydd hon; a yw'r holl opsiynau eraill wedi'u hystyried; a yw'r swydd wag hon yn cyd-fynd â strwythurau/cynlluniau busnes; beth yw'r risg sy'n gysylltiedig â pheidio â recriwtio.
Y Tîm Recriwtio Dyddiad cau; Gofynion sgrinio y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol; Angen Cofrestriadau Proffesiynol; categorïau chwilio am swydd.

 

*Y Pennaeth mewn Ysgolion neu'r Rheolwr Gweithredol/Uwch-reolwr yn Llesiant Delta fydd yn gyfrifol am gynnal y gwiriadau hyn fel rhan o'i rôl gymeradwyo.

Ar ôl i'r rheolwr recriwtio greu'r swydd wag, bydd yn symud i statws 'Drafft', a bydd yn gallu dewis gofyn am gymeradwyaeth neu ganslo'r swydd wag.

Ar ôl iddo ddewis 'Request Approval' bydd hyn yn dechrau'r broses gymeradwyo a bydd y swydd wag yn symud drwy'r broses gymeradwyo berthnasol. Gall rheolwyr recriwtio olrhain statws eu cais naill ai trwy'r tab 'Approval' neu'r dangosfwrdd Cymeradwyo.

Hysbysiad e-bost
Fel cymeradwywr, byddwch yn cael hysbysiad drwy e-bost, gan gynnwys dolen uniongyrchol i'r swydd wag, yn gofyn i chi adolygu'r cais. Gallwch naill ai glicio ar yr hyperddolen neu fewngofnodi i'r system i adolygu'r cais.

Y Tab 'Vacancies Awaiting Approval'
Gallwch fewngofnodi i'r system ac os ydych yn y proffil cywir (Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth/Pennaeth Ysgol, Cyfarwyddwr) byddwch yn gweld y dangosfwrdd canlynol. Bydd unrhyw swyddi gwag sy'n aros i chi eu cymeradwyo yn ymddangos yn y tab 'Vacancies Awaiting Your Approval'. I agor y swydd wag, cliciwch ddwywaith ar y rhes.

 


Fel y cymeradwywr bydd angen i chi adolygu'r swydd wag a gallwch ddewis ei chymeradwyo neu beidio â'i chymeradwyo (gallwch ddefnyddio'r opsiwn hwn os ydych am gyflwyno ymholiad i'r Rheolwr Recriwtio).  Os cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Review Vacancy', byddwch yn gallu golygu'r cais. 

Cymeradwyo Swydd Wag

Os ydych yn edrych drwy'r ffurflen gais am swydd wag, ar waelod y dudalen, cewch ddewis cymeradwyo'r swydd wag neu beidio.  Os ydych yn hapus i gymeradwyo'r swydd wag, dewiswch 'Yes' a chliciwch ar 'submit.  Bydd hyn yn symud y cais ymlaen i'r cam nesaf yn y broses gymeradwyo. 

Gwrthod Swydd Wag

Os oes gennych ymholiad, neu os nad ydych am gymeradwyo'r cais, dewiswch 'No’.  Gallwch ychwanegu sylwadau* i'r rheolwr recriwtio ymateb iddynt.  Cliciwch ar 'submit', a bydd hyn yn cael ei ddychwelyd at y Rheolwr Recriwtio.  Bydd y Rheolwr Recriwtio yn derbyn e-bost yn ei hysbysu nad yw ei gais wedi'i gymeradwyo. 

*Dim ond 255 o nodau y gellir eu rhoi yn y blwch sylwadau hwn.

Fel arall, gallwch ychwanegu sylwadau i'r bocs ‘Comments on Approval Process’.

Gallwch ychwanegu sylwadau mwy manwl drwy ddefnyddio'r blwch 'Add Comment’, sy'n ymddangos yng nghornel dde uchaf y dudalen.

Darllen Rhesymau dros Wrthod Swydd Wag

Os caiff swydd wag ei gwrthod, bydd y Rheolwr Recriwtio yn cael hysbysiad e-bost am y swydd wag a bydd yn cael ei annog i adolygu'r wybodaeth ar Oleeo.

Bydd y dangosfwrdd yn dangos unrhyw sylwadau ynglŷn â'r penderfyniad i wrthod y swydd wag.

Bydd y Rheolwr Recriwtio yn cael ei annog i 'Update the Vacancy and Resend’.  Gallwch wasgu ar y botwm 'View' i ddarllen y sylwadau.

Fel arall, os yw'r cymeradwywr wedi gwneud sylwadau mwy manwl, gall y Rheolwr Recriwtio (neu unrhyw gymeradwywr arall) glicio ar y tab 'History', hidlo’r canlyniadau trwy ‘comment; a bydd yr holl sylwadau yn ymddangos.

 Proses Ailgymeradwyo

Ar ôl i'r rheolwr recriwtio ddiweddaru neu ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel cymeradwywr byddwch yn derbyn e-bost arall yn gofyn i chi gymeradwyo'r swydd wag. Fel y rheolwr recriwtio, pan fyddwch yn mewngofnodi i'r system (neu'n mynd i'r swydd wag trwy'r hyperddolen), gofynnir i chi adolygu'r swydd wag.

Cliciwch ar 'Edit' a sgroliwch i waelod y dudalen a gallwch newid yr ateb i'r cwestiwn 'Do you approve this vacancy?' i 'Yes', a chlicio ar 'submit' Bydd y system yn newid y statws yn awtomatig i'r person nesaf yn y broses gymeradwyo, a bydd yn derbyn hysbysiad e-bost awtomatig. Bydd y broses yn parhau hyd at y Pennaeth Gwasanaeth ac, os caiff y swydd wag ei chymeradwyo ar y lefel hon, bydd y cais am gymeradwyaeth derfynol yn cael ei anfon at y Cyfarwyddwr neu'r Cymeradwywr Terfynol, yn dibynnu ar eich sefydliad.

Sylwer 1: Ni fydd ceisiadau sy'n cael eu gwrthod yn mynd yn ôl i ddechrau'r broses. Er enghraifft, os yw Adnoddau Dynol, Gwerthuso Swyddi a Chyllid i gyd wedi cymeradwyo'r swydd wag ond bod y Pennaeth Gwasanaeth yn gwrthod/cwestiynu'r swydd wag, ar ôl i chi ddiweddaru'r wybodaeth bydd yn mynd yn ôl at y Pennaeth Gwasanaeth ac yn parhau drwy gamau nesaf y broses gymeradwyo.

Sylwer 2: Unwaith y bydd swydd wag wedi'i hailgymeradwyo, bydd unrhyw sylwadau blaenorol a wnaed yn wreiddiol yn y cam gwrthod yn diflannu o'r dangosfwrdd.  Felly, efallai y byddai'n ddoeth defnyddio'r 'Ychwanegu Sylw'.

Os na allwch weld unrhyw swyddi gwag sydd angen i chi eu cymeradwyo, gwiriwch y canlynol:

A ydych yn y proffil cywir?

Bydd eich proffil yn cael ei ddangos o dan eich enw.

I newid eich proffil:

  1. Cliciwch ar y > wrth ymyl eich enw.
  2. O dan My Profile > Recruiter Profile, cliciwch ar y gwymplen a dewiswch y proffil.
  3. Cliciwch ar 'Save’.
  4. Yna cliciwch ar X yn y gornel dde uchaf.
  5. Cliciwch ar i adnewyddu eich sgrin.

 

A ydych wedi cael y Gwerthoedd Mynediad Recriwtiwr cywir?

Mae Gwerthoedd Mynediad Recrwtiwr yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr i swyddi gwag o fewn ysgol/meysydd gwasanaeth penodol. Cysylltwch â'ch Ymgynghorydd yn y Tîm Recriwtio a bydd yn gwirio a ydych wedi cael caniatâd i'r maes gwasanaeth/ysgol.

A ydych yn y system fyw?

Mae gan rai defnyddwyr fynediad i'r wefan ffurfweddu (prawf) a'r wefan fyw. Yn y bar cyfeiriad, sicrhewch eich bod yn y system fyw:

URL gwefan fyw Oleeo ccc-tal.net
URL gwefan ffurfweddu Oleeo ccc-config.tal.net