Creu swydd wag

Diweddarwyd y dudalen: 22/03/2024

FIDEOS “SUT I..."

video iconSut i greu swydd wag

Trosolwg o'r Broses Gymeradwyo

Sut i roi mynediad i gydweithwyr i'ch swydd wag

Sut i greu templed swydd wag

Creu postiadau swyddi diduedd drwy Oleeo - YouTube

CYNNWYS

  1. Camau allweddol i greu swydd wag

      a. Canllawiau ynghylch cwblhau'r meysydd creu swydd wag

      b. Creu swydd wag

  1. Deall y broses gymeradwyo

      a. Ymateb i ymholiadau

      b. Swyddi sydd wedi'u heithrio

  1. Gweithredu'ch swydd wag ar ôl iddi gael ei chymeradwyo

      a. Hyrwyddo’ch swydd wag

  1. Rhoi mynediad i gydweithwyr i'ch swydd wag
  2. Creu templed
  3. Creu swydd wag gan ddefnyddio templed presennol
  4. Creu Templed Sgorio Cyfweliad
  5. Y cam nesaf

 

I greu swydd wag, bydd angen i chi gwblhau'r camau canlynol:

  1. Creu Swydd Wag Newydd - Nodwch yr holl wybodaeth am y swydd wag, gan gynnwys manylion y swydd wag, llif proses, ffurflenni, ac ati, sy'n gysylltiedig â'ch swydd wag.
  2. Cymeradwyaeth – Ar gyfer swyddi nad ydynt wedi'u heithrio, bydd angen i'ch swydd wag fynd drwy'r broses gymeradwyo briodol cyn gallu ei phostio i'r bwrdd swyddi. Bydd yn rhaid i swyddi sydd wedi'u heithrio fynd drwy broses wirio cyn gallu eu postio i'r bwrdd swyddi.
  3. Mynediad/Cyfranogwyr – Ystyriwch ddefnyddwyr eraill a allai fod angen cael mynediad i'ch swydd wag (gweler adran 4 isod).
  4. Gweithredu/Postio - Pennwch yr amser a'r dyddiad y bydd eich swydd wag yn cael ei phostio i bob bwrdd swyddi sydd ar gael a'r dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr.

 

Canllawiau ynghylch cwblhau'r meysydd creu swydd wag

Mae'r meysydd sydd i'w cwblhau ar y dudalen creu swydd wag yn syml. Fodd bynnag, darperir canllawiau ychwanegol isod:

  • Bydd gan rai meysydd eiconau 'cymorth' wrth eu hymyl i roi rhagor o ganllawiau.
  • Bydd rhai meysydd yn gofyn i chi gynnwys y testun Cymraeg. Edrychwch am yr eicon A blue and white chat bubbles

Description automatically generated with low confidence i weld pa adrannau i'w hystyried ar gyfer cyfieithu.

 

Maes Creu Swydd Wag Disgrifydd
Dewiswch Dempled Os oes templed wedi'i greu, gallwch ei ddewis o'r rhestr templedi.

Teitl y Swydd

A blue and white chat bubbles

Description automatically generated with low confidence 

Rhowch deitl y swydd yma – sicrhewch ei fod yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y proffil swydd. Bydd angen i chi hefyd gynnwys y fersiwn Gymraeg o deitl y swydd. Os ydych am i'ch swydd wag fod yn agored i ymgeiswyr mewnol yn unig, dylech gynnwys y geiriad (Ymgeiswyr Mewnol yn Unig) wrth ymyl teitl y swydd yn Gymraeg ac yn Saesneg (Internal Applicants Only).
Dyddiad cau Wrth benderfynu ar y dyddiad cau sicrhewch eich bod yn caniatáu digon o amser i'r swydd wag fynd drwy'r broses gymeradwyo. Byddem yn argymell pennu dyddiad o leiaf 3 wythnos i ffwrdd. Fodd bynnag, os yw eich swydd wag yn cymryd mwy o amser i gael ei chymeradwyo, gall y tîm recriwtio, wrth gynnal y gwiriad terfynol, newid y dyddiad cau ar ôl trafod hynny gyda'r rheolwr recriwtio.

Testun yr Hysbyseb

A blue and white chat bubbles

Description automatically generated with low confidence

Dyma lle byddwch yn 'torri a gludo' eich hysbyseb o'r templed hysbyseb. Mae'n rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod yn ychwanegu'r fersiwn Gymraeg o'ch hysbyseb drwy ddewis ‘Insert Welsh text here’ a bydd blwch testun newydd yn ymddangos.

Cofiwch, os gwnewch unrhyw newidiadau i'r testun Saesneg, mae'n rhaid i chi newid y testun Cymraeg. Gallwch ddefnyddio offeryn rhagfarn ar sail rhywedd Oleeo i wirio eich hysbyseb..

Cwestiynau Hidlo Cyn Ymgeisio

A blue and white chat bubbles

Description automatically generated with low confidence

Ychwanegwch eich cwestiynau yma. Cofiwch, bydd angen i chi gynnwys y testun Cymraeg.

Cwestiynau Baner Goch

A blue and white chat bubbles

Description automatically generated with low confidence

Ychwanegwch eich cwestiynau yma. Cofiwch, bydd angen i chi gynnwys y testun Cymraeg.

Creu swydd wag

  1. Dewiswch y tab 'Create a Vacancy' ar eich dangosfwrdd a chliciwch ar Create Vacancy.
  2. Byddwch yn mynd i'r dudalen Create lle bydd angen i chi lenwi'r holl wybodaeth sylfaenol am eich swydd wag.
  • Mae'n rhaid cwblhau'r meysydd sydd â seren wrth eu hymyl i symud ymlaen.
  • Bydd meysydd glas golau yn cael eu dangos i ymgeiswyr gan y byddant yn ymddangos yn yr hysbyseb ar y bwrdd swyddi.
  • Mae angen pob maes arall fel rhan o'r llif gwaith gwiriadau cyn cyflogi a/neu er mwyn llunio adroddiadau.
  • Bydd y rhan fwyaf o feysydd yn gofyn i chi ddewis opsiwn o gwymplen.
  • Bydd rhai o'r meysydd hyn yn flychau testun rhydd a bydd angen i chi glicio ar y blwch ‘Insert Welsh text here’ i ychwanegu'r fersiwn Gymraeg o'r testun. Sylwer: Ni fydd y system yn cyfieithu'r cynnwys yn awtomatig i chi; mae'n rhaid i chi gael y cynnwys wedi'i gyfieithu cyn llenwi'r ffurflen creu swydd wag.
  • I gyflymu'r broses, gallwch greu templedi (gweler adran 7 – Sut i greu templed) lle gallai'r meysydd fod wedi cael eu llenwi ymlaen llaw.
  1. Ar ôl i chi gwblhau pob maes pwyswch y botwm ‘Create Vacancy’. Bydd hyn wedyn yn eich galluogi i gyflwyno'r swydd wag i'w chymeradwyo.
  • Os ydych wedi hepgor unrhyw feysydd gorfodol, byddwch yn cael neges 'Oh Oh! Something's wrong' a bydd unrhyw feysydd sydd heb eu llenwi yn cael eu nodi. Ar ôl i chi ychwanegu'r wybodaeth sydd ar goll, sgroliwch i waelod y dudalen, a dewiswch yr eicon 'create vacancy' eto.
  1. Bydd 'statws' eich swydd wag yn newid i 'Draft' ac mae hyn yn rhoi cyfle i chi wirio bod yr holl wybodaeth yn gywir.
  • Byddwch yn gallu gwneud newidiadau hyd nes eich bod yn barod i anfon y swydd wag i'w chymeradwyo.
  • Os ydych am wneud newidiadau i'ch hysbyseb, yn y tab 'Description', cliciwch ar y botwm 'view', a bydd yn newid i 'Edit’. Cliciwch ar 'Edit' a gallwch wneud newidiadau. Sylwer: Os oes angen i chi wneud newidiadau i Deitl y Swydd bydd angen i chi gysylltu â'r Tîm Recriwtio. Ar ôl cwblhau hyn, sgroliwch i waelod y dudalen, a phwyswch y botwm 'Submit'.
  1. Yna gofynnir i chi ‘Request Approval’.
  • Ar ôl i chi ddewis 'request approval' bydd hyn yn dechrau'r broses gymeradwyo. Gallwch wirio statws eich cais ar y dangosfwrdd Vacancies Awaiting Approval.

 

 

Ar ôl i chi gyflwyno'ch swydd wag, bydd yn symud ymlaen drwy broses hysbysu awtomatig. Bydd nifer y camau yn y broses gymeradwyo yn amrywio yn dibynnu ar y sefydliad, ac amlygir y Cymeradwywr Terfynol yn y broses mewn print bras isod.

 

Y Cam Cyngor Sir Caerfyrddin Ysgolion Llesiant Delta
Creu swydd wag Rheolwr Recriwtio Swyddog Gweinyddol, Rheolwr Busnes neu Bennaeth Ysgol Arweinydd Tîm
Cymeradwyaeth 1 Ymgynghorydd Adnoddau Dynol Gwerthuso Swyddi Gwerthuso Swyddi
Cymeradwyaeth 2 Gwerthuso Swyddi Pennaeth Ysgol Rheolwr Gweithrediadau neu Uwch-reolwr neu Reolwr Gyfarwyddwr
Cymeradwyaeth 3 Cyllid    
Cymeradwyaeth 4 Pennaeth Gwasanaeth    
Cymeradwyaeth 5 Cyfarwyddwr    
Gwiriad Terfynol cyn postio hysbyseb Y Tîm Recriwtio Y Tîm Recriwtio Y Tîm Recriwtio

 

Ymateb i ymholiadau

  1. Ar ôl i chi bwyso'r botwm 'Request Approval' bydd y broses gymeradwyo yn dechrau.
  2. Bydd y cymeradwywr yn cael hysbysiad drwy e-bost, gan gynnwys dolen uniongyrchol i'r swydd wag, yn gofyn iddo adolygu'r cais.
  3. Bydd y cymeradwywr yn adolygu'r swydd wag a bydd yn gallu ei chymeradwyo neu beidio â'i chymeradwyo.
  4. Os na fydd y cymeradwywr yn cymeradwyo'r swydd wag, bydd yn ychwanegu sylwadau neu ymholiadau i chi ymateb iddynt.
  5. Mae'n rhaid i chi edrych ar y dangosfwrdd Approval yn rheolaidd i fonitro cynnydd eich ceisiadau swydd wag. Bydd unrhyw gymeradwyaeth "a wrthodwyd" yn ymddangos yn y dangosfwrdd Approval Rejected. Fel arall, os agorwch y swydd wag, fe welwch fod y statws wedi newid i 'Update Vacancy and Resend.’
  6. Os ydych yn clicio ar y botwm 'Update Vacancy and Resend', bydd yn agor tudalen 'Review Vacancy'. O dan y tab 'Description', gallwch sgrolio i waelod y tudalennau i weld y rheswm dros wrthod y swydd wag.
  7. Drwy glicio ar y botwm 'Edit' ar frig y dudalen, gallwch wneud y newidiadau y gofynnir amdanynt i'r maes perthnasol a/neu ychwanegu unrhyw sylwadau yn y maes Comments on Approval Process ar waelod y dudalen.
  8. Ar ôl i chi ddiweddaru'r manylion, ychwanegwch sylwadau yn y blwch sylwadau i ddangos i'r cymeradwywr eich bod wedi ymateb i'w ymholiad. Sgroliwch i waelod y dudalen a phwyswch y botwm 'submit' a bydd hysbysiad yn gofyn am ailgymeradwyo'r cais yn cael ei anfon drwy e-bost at y cymeradwywr a wrthododd y swydd wag i ddechrau.
  • Ni fyddwch yn mynd yn ôl i ddechrau'r broses. Er enghraifft, os bydd Adnoddau Dynol, Gwerthuso Swyddi a Chyllid i gyd yn cymeradwyo'r swydd wag ond bod y Pennaeth Gwasanaeth yn gwrthod/cwestiynu'r swydd wag, ar ôl i chi ddiweddaru'r wybodaeth, bydd yn mynd yn ôl i'r Pennaeth Gwasanaeth ac yn parhau drwy gamau nesaf y broses gymeradwyo.
  1. Bydd y swydd wag yn parhau drwy'r broses gymeradwyo hyd nes iddi gael ei chymeradwyo neu ei gwrthod gan yr uwch-swyddog terfynol.

 

Swyddi sydd wedi'u heithrio

Bydd y Tîm Rheoli Corfforaethol yn cytuno pa swyddi gwag fydd yn cael eu 'heithrio' o'r broses gymeradwyo. Lluniwyd y rhestr hon yn seiliedig ar yr egwyddor bod yr holl swyddi sydd ynddi yn alwedigaethau hanfodol y mae'n rhaid eu llenwi oherwydd gofynion staffio statudol neu debyg. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r swyddi / grwpiau galwedigaethol hynny lle mae angen recriwtio treigl gan eu bod yn codi'n aml neu gan fod trosiant uchel.

Bydd yr holl swyddi sydd wedi'u heithrio a grëwyd ar system recriwtio Oleeo yn dal i fod yn destun fetio gan y Partner Busnes Adnoddau Dynol. Os ydych wedi ticio bod eich swydd wedi'i heithrio, ond nid yw ar y rhestr swyddi sydd wedi'u heithrio, ni fydd y blwch wedi'i dicio a bydd eich swydd wag yn symud ymlaen drwy'r broses gymeradwyo lawn, cyn i'r hysbyseb gael ei gosod ar y wefan gorfforaethol.

 

  1. Ar ôl cael cymeradwyaeth derfynol, anfonir hysbysiad at y Tîm Recriwtio i adolygu a gweithredu'r swydd wag. Bydd y tîm hwn yn gyfrifol am ‘Weithredu'r’ swydd wag a'i phostio i'r porth/pyrth perthnasol.
  2. Byddwch yn derbyn hysbysiad drwy e-bost cyn gynted ag y bydd eich swydd wag yn "fyw" ar y system. Bydd statws eich swydd wag hefyd yn ymddangos fel ‘Active – Open to Applications'.
  3. Gallwch hefyd wirio statws eich swydd wag drwy glicio ar y tab Active Vacancies – Live on website. Fel arall, ar y dudalen Opportunity, gallwch glicio ar y tab Publish to Candidate Search Engines, a bydd yn dangos i ba byrth y mae'r swydd wag wedi'i phostio.

 

Hyrwyddo’ch swydd wag

Fel y rheolwr recriwtio, gallwch ddefnyddio codau QR i hyrwyddo'ch swydd wag ochr yn ochr â'r tudalennau swyddi.

  1. Agorwch eich swydd wag a dewiswch y tab ‘Publish to Candidate Search Engines’.
  2. Byddwch yn gweld dolenni unigryw i gyfeiriadau URL ar gyfer y swydd wag, y gallwch eu cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo.
  • Details: Bydd hyn yn dangos codau QR i chi a fydd yn mynd ag ymgeiswyr yn uniongyrchol i'r hysbyseb neu'r ffurflen gais.
  • Portal URL: Bydd y ddolen yn mynd ag ymgeiswyr yn uniongyrchol i'r porth chwilio am swyddi.
  • Advert URL: Bydd y ddolen yn mynd ag ymgeiswyr yn uniongyrchol i'r ffurflen gais ar gyfer y swydd wag.

Yn ddiofyn, bydd y person sy'n creu'r swydd wag yn cael ei nodi'n awtomatig fel 'cyfranogwr' a bydd ganddo fynediad i'r swydd wag.

Efallai y bydd achosion lle bydd angen i chi roi mynediad i gydweithwyr i'r swydd wag - efallai eu bod yn helpu i lunio'r rhestr fer neu'n rhan o'r panel cyfweld; neu efallai y byddwch yn absennol neu fod un o'r cymeradwywyr i ffwrdd o'r gwaith, felly mae angen i chi roi mynediad i'ch swyddi gwag i bobl eraill.

Mae'n ofynnol bod y cyfranogwr wedi'i gyflogi gan y Cyngor (gan gynnwys ysgolion a Llesiant Delta) ac wedi'i sefydlu ar Oleeo i swydd wag gael ei neilltuo iddo. Cyfeiriwch at y modiwl 'Rheoli'ch Ceisiadau' i ddysgu sut y gallwch allgludo ceisiadau i aelodau panel y tu allan i'r Cyngor.
  1. Agorwch eich swydd wag a dewiswch y tab ‘Participants’.
  2. Cliciwch ar y botwm +Add Participant a bydd blwch newydd yn ymddangos.
  3. Dewiswch yr ‘User/Profile’ drwy gynnal chwiliad meddal – dechreuwch deipio enw'r ymgeisydd a bydd opsiynau yn ymddangos – efallai y bydd gan rai defnyddwyr sawl proffil, felly dewiswch y proffil ar gyfer y rôl rydych am iddynt ei chyflawni.
  4. Dewiswch y categori priodol - fel arfer bydd opsiwn diofyn i chi ei ddewis. Os na fydd opsiwn diofyn yn ymddangos, dewiswch y math o rôl y bydd y cyfranogwr yn ei chyflawni e.e. sgriniwr/cyfwelydd.
  5. Os ydych am iddo fod yn gyfrifol yn gyffredinol am gydlynu'r broses recriwtio ar gyfer y swydd wag hon, yna dewiswch y blwch 'Co-ordinator'.
  6. Os oes angen i'r person weld ceisiadau, yna dewiswch ‘Can View Applications’.
  7. Nesaf, cliciwch ar y botwm 'Add Participant' a bydd yr unigolyn yn cael ei ychwanegu at y rhestr o gyfranogwyr.
  8. Bydd rhestr o gyfranogwyr yn ymddangos sydd â mynediad i'r swydd wag. Gallwch olygu neu ddileu cyfranogwyr.

Gallwch symleiddio'r broses creu swydd wag drwy ddefnyddio templedi i lenwi'r meysydd yn y ffurflen creu swydd wag ymlaen llaw.

  1. O'r ddewislen ar y chwith, dewiswch Vacancies, yna dewiswch Templates. Yng nghornel dde uchaf y dudalen dewiswch y botwm New Template.
  2. Yna byddwch yn mynd i dudalen newydd i gwblhau tri cham o greu templed.
  • Cam 1: Dull Creu Cyfle
  • Cam 2: Ffurflenni Ymgeiswyr
  • Cwblhau Manylion Swydd Wag
  1. Gofynnir i chi am Deitl y Swydd ar gyfer y templed.
  • Cofiwch, efallai y bydd defnyddwyr eraill yn cael mynediad i'ch templed wrth greu swydd wag ac felly dylech fod mor glir â phosibl. Efallai yr hoffech roi'r gair 'Templed' o flaen teitl eich swydd. Cofiwch ychwanegu'r fersiwn Gymraeg o deitl y swydd.
  1. Bydd angen i chi ddewis sut y byddwch yn creu'r templed o blith dri opsiwn:
Create from existing opportunity (vacancy) Dewiswch y swydd wag o'r gwymplen neu gallwch gynnal chwiliad meddal drwy deipio enw'r swydd wag. Mae hyn yn ddefnyddiol os oes rhaid i chi greu llawer o swyddi gwag lle mai dim ond ychydig o fanylion fydd yn newid.
Create from template Dewiswch y swydd wag o'r gwymplen o dempledi presennol neu gallwch gynnal chwiliad meddal drwy deipio enw'r swydd wag.
Enter all details manually* Ar ôl dewis yr opsiwn hwn, gofynnir i chi gwblhau pedwar maes ychwanegol. Mae'r rhain wedi'u rhagosod, ac ni ddylech newid unrhyw un o'r gosodiadau.

*Rydym yn argymell dewis yr opsiwn hwn

  1. Ar ôl i chi ddewis eich dull creu, gallwch symud i Gam 2 drwy glicio ar y botwm ‘Continue to Candidate forms’.
  2. Mae'r cam hwn yn nodi'r ffurflenni y bydd yr ymgeiswyr yn eu llenwi ym mhob newid statws yn y llif gwaith. Mae'r rhain wedi'u rhagosod, ac ni ddylech newid unrhyw un o'r gosodiadau. Yn syml, sgroliwch i waelod y dudalen a symud i Gam 3 drwy glicio ar y botwm 'Continue to Opportunity Details’.
  3. Bydd hyn yn mynd â chi i'ch adran Opportunity Details, sydd wedi'u rhagosod, felly nid oes angen i chi gwblhau unrhyw un o'u meysydd.
Peidiwch â thicio'r blwch ‘Active’. Os gwnewch hynny, bydd yr holl swyddi gwag sydd wedi'u creu gan ddefnyddio'r templed hwn yn cael eu marcio fel rhai gweithredol yn awtomatig. Os dewiswch 'Is Default,' bydd y templed hwn yn cael ei ddewis yn awtomatig pan fyddwch chi (neu unrhyw ddefnyddwyr eraill sydd â mynediad i'r templed hwn) yn creu swydd wag newydd.
  1. Byddwch hefyd yn gweld y meysydd 'Opportunity Description', sy'n adlewyrchu'r dudalen creu swydd wag. I greu'r templed, nid oes yr un o'r meysydd ar y dudalen hon yn orfodol. Gallwch gwblhau cynifer neu gyn lleied ag sydd angen. Fe welwch fod seren wrth ymyl yr holl feysydd ond mae hyn yn tynnu sylw at y meysydd a fydd yn orfodol pan fyddwch yn mynd ati i greu swydd wag fyw gan ddefnyddio'r templed hwn. Dim ond y meysydd rydych am eu llenwi ymlaen llaw y mae angen i chi eu cwblhau pan fyddwch yn dewis y templed hwn.
Cofiwch – wrth gwblhau'r templed, fe'ch cynghorir i gynnwys unrhyw destun Cymraeg ar gyfer y meysydd perthnasol.  
  1. Pan fyddwch yn hapus, cliciwch ar Create Vacancy ar waelod y dudalen i gadw'r templed ar y system.
  • Yn yr un modd â chreu swydd wag, rhoddir rhif adnabod unigryw i dempledi.
  • Gallwch olygu'r tabiau 'Details, Description and Participants’ ar unrhyw adeg.

Bydd templed yn eich helpu i arbed amser drwy lenwi rhai o'r meysydd yn y ffurflen creu swydd wag ymlaen llaw.

  1. Pan fyddwch yn creu swydd wag, y peth cyntaf y gofynnir i chi ei wneud yw 'Select a Template’.
  2. Cliciwch ar y maes ‘Select Template' a bydd cwymplen o dempledi yn ymddangos, neu gallwch ddechrau teipio enw eich swydd wag yn y maes chwilio meddal. Os nad oes gennych yr opsiwn i ddewis templed, neu os nad yw'r swydd wag rydych yn chwilio amdani yn ymddangos yn y ddewislen chwilio, nid oes templed wedi'i greu ar gyfer y swydd wag honno.
  3. O'r gwymplen, dewiswch y templed swydd wag sydd ei angen arnoch.
  4. Bydd y ffurflen sydd wedi'i llenwi eisoes (yn seiliedig ar y meysydd a gwblhawyd gennych wrth greu eich templed) yn ymddangos, a gallwch wneud newidiadau i'r meysydd perthnasol.
  5. Dewiswch Create Vacancy.
  6. Bydd 'statws' eich swydd wag yn newid i 'Draft' ac mae hyn yn rhoi cyfle i chi wirio bod yr holl wybodaeth yn gywir.
    • Byddwch yn gallu gwneud newidiadau hyd nes eich bod yn barod i anfon y swydd wag i'w chymeradwyo.
    • Os ydych am newid eich hysbyseb, yn y tab 'Description', cliciwch ar y botwm 'view', a bydd yn newid i 'Edit.’ Cliciwch ar 'Edit' a gallwch wneud newidiadau. Ar ôl cwblhau hyn, sgroliwch i waelod y dudalen, a phwyswch y botwm 'Submit'.
  1. Yna gofynnir i chi ‘Request Approval’. Ar ôl i chi ddewis 'request approval' bydd hyn yn dechrau'r broses gymeradwyo. Gallwch wirio statws eich cais ar y dangosfwrdd Vacancies Awaiting Approval.

Unwaith y byddwch wedi creu eich templed gallwch greu templed sgorio cyfweliad.

Cam wrth gam

  1. O'r templed, cliciwch ar y tab 'Disgrifiad'.
  2. Cliciwch ar y tab 'Setup Interview Scoring'.
  3. Cwblhewch yr adrannau perthnasol o'r ffurflen sgorio cyfweliad.
  4. Pwyswch 'cyflwyno'.

Y tro nesaf y byddwch yn creu swydd wag o'r templed, dylid gosod y ffurflen sgorio cyfweliad hefyd.

 

 



Cofiwch, y tro cyntaf fydd yn cymryd yr amser hwyaf bob tro, ond bydd yn haws y tro nesaf, os mai'r un swydd sydd dan sylw, gan fod y rhan fwyaf o'r gwaith eisoes wedi'i wneud. Ac os ydych wedi creu templed, mae'n haws fyth.

Fodd bynnag, wrth gynllunio eich amserlen recriwtio, yn enwedig wrth bennu dyddiadau cau, gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu amser i'ch cais fynd drwy'r broses gymeradwyo.

I gael gwybod beth i'w wneud nesaf, edrychwch ar yr adran ‘Rheoli a llunio rhestr fer o geisiadau’.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cofiwch y gallwch bob amser gysylltu â'ch Uwchddefnyddiwr Adrannol neu'r Tîm Recriwtio