Canlyniad cyfweliad a llythyrau cynnig

Diweddarwyd y dudalen: 18/04/2024

CYNNWYS

  1. Cwblhau'r matrics sgorio cyfweliad
  2. Cofnodi penderfyniad y cyfweliad
  3. Rhoi gwybod i ymgeiswyr
  1. Rhoi gwybod i ymgeiswyr aflwyddiannus
  2. Rhoi gwybod i ymgeiswyr aflwyddiannus (gweithwyr adleoli)
  1. Llunio'r llythyr cynnig
  1. Rhoi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus
  2. Rhoi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus (gweithwyr adleoli)
  1. Sut mae ymgeiswyr yn derbyn (neu'n gwrthod) cynigion
  2. Y cam nesaf

Dylai'r ffurflen adborth cyfweliad fod wedi'i sefydlu ar yr un pryd roedd eich swydd wag yn mynd drwy'r broses gymeradwyo.

Ar ôl y Cyfweliad

Dylai Cadeirydd y Panel fod yn gyfrifol am gasglu unrhyw gopïau papur o'r ffurflenni cais, y ffurflenni asesu ac ati a'u cadw'n ddiogel am gyfnod o flwyddyn ar ôl i'r broses recriwtio ddod i ben.

Pan fydd y cyfweliadau yn gorffen, dylai'r panel wneud y canlynol:

  1. Cyfrifo'r sgorau1. Dechreuwch drwy adio'r sgoriau ar gyfer pob ymgeisydd. Adolygwch pa ymgeiswyr sydd â sgôr dda mewn meysydd penodol a phwy sydd â sgôr dda yn gyffredinol. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniad cyflogi gwybodus a diduedd.
  2. Trafod yr ymgeiswyr. Dylai dewis gweithiwr newydd fod yn broses gydweithredol. Ar ôl cyfrifo'r holl sgoriau, adolygwch yr holl ymgeiswyr, a thrafodwch y manteision a'r anfanteision ar gyfer pob un sy'n cael ei gyfweld, ynghyd â'i sgorau, ac ystyried safbwyntiau pawb.
  3. Adolygu unrhyw nodiadau ychwanegol. Cyn i chi wneud eich penderfyniad terfynol, peidiwch ag anghofio adolygu unrhyw nodiadau sydd gennych ar gyfer atebion sydd y tu hwnt i'r cwestiynau a gynlluniwyd ymlaen llaw. Dylid ystyried unrhyw sgiliau y gellid eu trosglwyddo o feysydd eraill.
  4. Gwneud penderfyniad. Ar ôl adolygu holl nodiadau'r cyfweliad, adborth a sgorau, gallwch wneud eich penderfyniad cyflogi terfynol.

1 Bydd y sgôr gyfartalog yn cael ei chyfrifo drwy'r sgôr unigol gan bob aelod o'r panel ac yna cyfrifo’r ffigwr cyfartalog e.e. bydd sgôr o 3, 4 a 2 gan bob aelod o'r panel yn arwain at sgôr gyfartalog o 3.

Bydd gofyn i chi nodi'r "sgôr" gyfartalog ar gyfer pob gallu/maen prawf ac ychwanegu unrhyw nodiadau i gefnogi eich penderfyniad sgorio.

Canllaw Cam wrth Gam – Cofnodi Penderfyniad

  1. O'r dangosfwrdd, dewiswch y tab 'Interviews Pending Decision'. Bydd rhestr o ymgeiswyr a wahoddwyd i gyfweliad yn ymddangos.
  2. Dewiswch ymgeisydd drwy glicio ddwywaith ar y rhes. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Application Summary'.
  3. Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Input Interview Feedback'.
  4. Penderfynwch ar y sgôr gyfartalog ar gyfer pob maen prawf a dewiswch y sgôr gyfatebol o'r gwymplen. Gallwch ychwanegu nodiadau i gefnogi'ch penderfyniad.
  5. Cwblhewch y meysydd Asesiad Sgiliau Iaith Gymraeg a chanlyniad.
  6. Bydd cyfanswm sgôr yn cael ei gyfrifo'n awtomatig.
  7. Cwblhewch y meysydd yn yr adran 'Recommendation' gan gynnwys eich penderfyniad cyffredinol e.e. gwrthod yr ymgeisydd neu symud ymlaen i'r cam nesaf (yr ymgeisydd a ffefrir gennych).
  8. Cyflwyno

Ar ôl i chi gwblhau'r adran 'Input Interview Feedback' ar gyfer pob ymgeisydd. Ewch yn ôl i'r dangosfwrdd. Ar yr adeg hon, rydym yn eich cynghori i ffonio'r ymgeisydd a ffefrir gennych i gynnig y swydd wag iddo ar lafar (yn amodol ar gwblhau gwiriadau cyn cyflogi yn llwyddiannus) cyn rhoi gwybod i'r ymgeiswyr aflwyddiannus.

Canllaw Cam wrth Gam – Rhoi Gwybod i Ymgeiswyr Aflwyddiannus

  1. O'r dangosfwrdd, dewiswch y tab 'Interviews Pending Decision'. Bydd rhestr o ymgeiswyr a wahoddwyd i gyfweliad yn ymddangos. Bydd y tabl hefyd yn cael ei ddiweddaru i ddangos y cam nesaf a argymhellir (symud ymlaen i'r cam nesaf neu wrthod) ynghyd â chyfanswm sgôr y cyfweliad.
  2. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r 'whole table filter' i hidlo'ch canlyniadau, a hidlo yn ôl 'reject’.
  3. Dewiswch ymgeisydd trwy glicio ddwywaith ar y rhes. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Application Summary'.
  4. Cliciwch ar y botwm coch 'Reject'.
  5. Gofynnir i chi nodi a yw'r ymgeisydd yn weithiwr adleoli:
  1. Os Na, dewiswch 'No' a llenwch y blwch rheswm dros wrthod a sylwadau. Sylwer: Ni fydd yr ymgeisydd yn cael gwybod am sylwadau rydych chi'n eu rhoi yn y blwch sylwadau ond sicrhewch fod unrhyw sylwadau'n briodol.
  1. Pwyswch 'submit'.

Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Interview Rd 1 - Rejected' a bydd yn derbyn hysbysiad e-bost cyffredinol awtomatig.

 

Canllaw Cam wrth Gam – Rhoi Gwybod i Ymgeiswyr Aflwyddiannus (gweithwyr adleoli)

  1. O'r dangosfwrdd, dewiswch y tab 'Interviews Pending Decision'. Bydd rhestr o ymgeiswyr a wahoddwyd i gyfweliad yn ymddangos. Bydd y tabl hefyd yn cael ei ddiweddaru i ddangos y cam nesaf a argymhellir (symud ymlaen i'r cam nesaf neu wrthod) ynghyd â chyfanswm sgôr y cyfweliad.
  2. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r 'whole table filter' i hidlo'ch canlyniadau, a hidlo yn ôl 'reject’.
  3. Dewiswch ymgeisydd trwy glicio ddwywaith ar y rhes. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Application Summary'.
  4. Cliciwch ar y botwm coch 'Reject'.
  5. Gofynnir i chi nodi a yw'r ymgeisydd yn weithiwr adleoli:
  1. Os Ydy, gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol cyn i chi gwblhau'r meysydd 'Reasons for Rejecting'. Byddwch yn ofalus, os mai Cymraeg yw dewis iaith eich ymgeisydd (gallwch weld hyn ar y tab 'Summary' a'r adran 'Communication'), bydd angen i chi gael eich rhesymau dros wrthod wedi'u cyfieithu.
  1. Pwyswch 'submit'.

Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Interview Rd 1 - Rejected' a bydd yn derbyn hysbysiad awtomatig yn y ganolfan geisiadau yn gofyn iddo edrych ar y llythyr.

Ar ôl i chi siarad â'r ymgeisydd a ffefrir gennych, a'ch bod yn hapus i gadarnhau'ch cynnig yn ysgrifenedig, gallwch lunio'r llythyr cynnig, yn barod i'r llythyr gael ei roi i'r ymgeisydd gan y Tîm Recriwtio neu'r Partner Busnes Adnoddau Dynol yn achos gweithiwr adleoli.

Bydd gwybodaeth o'r ffurflen creu swydd wag yn cael ei thynnu'n awtomatig i dempled y llythyr cynnig. Bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol yn y ffurflen Llythyr Cynnig Amodol.

Sylwer: Os yw eich ymgeisydd wedi ymgeisio o dan y Polisi Secondiadau ond bod ei reolwr llinell wedi gwrthod rhoi caniatâd am y secondiad, gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol.

 

Canllaw Cam wrth Gam – Rhoi Gwybod i Ymgeiswyr Llwyddiannus (nad ydynt yn cael eu hadleoli)

  1. O'r dangosfwrdd, dewiswch y tab 'Interviews Pending Decision'. Bydd rhestr o ymgeiswyr a wahoddwyd i gyfweliad yn ymddangos. Bydd y tabl hefyd yn cael ei ddiweddaru i ddangos y cam nesaf a argymhellir (symud ymlaen i'r cam nesaf neu wrthod) ynghyd â chyfanswm sgôr y cyfweliad.
  2. Dewiswch ymgeisydd trwy glicio ddwywaith ar y rhes. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Application Summary'.
  3. Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Progress'.
  4. Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Create Offer'.
  5. Llenwch y Ffurflen Cynnig Amodol i gadarnhau:
  1. Rhif y Swydd
  2. Oriau contract a gytunwyd gyda'r ymgeisydd
  3. Lleoliad
  4. Cyflog cychwynnol a gytunwyd gyda'r ymgeisydd (gan lanlwytho dogfennau ategol ynghylch cyflog cychwynnol uwch lle bo angen).
  1. Pwyswch 'Submit'.
  2. Os yw eich ymgeisydd yn cael ei adleoli, bydd gofyn i chi gwblhau cwestiynau penodol ynghylch hyn. Yn achos gweithiwr adleoli, gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol cyn i chi gwblhau'r Ffurflen Cynnig Amodol.
  3. Os yw eich ymgeisydd wedi ymgeisio o dan y Polisi Secondiadau ond bod ei reolwr llinell wedi gwrthod rhoi caniatâd am y secondiad, gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol.
  4. Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Offer - Preview Offer Letter’.
  5. Dewiswch y botwm llwyd 'Preview Provisional Offer Letter'.
  6. Sgroliwch i waelod y dudalen 'Generate Communication' a dewiswch naill ai 'Preview' i weld rhagolwg o'ch llythyr cynnig neu 'Generate' i lunio'r llythyr cynnig.
  7. Pan fyddwch yn hapus gyda'r llythyr cynnig, dewiswch 'Generate’.
  8. Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Offer - Ready to Extend by HR'.

Mae'r llythyr bellach yn barod i'r tîm Adnoddau Dynol ei roi i'r ymgeisydd. Ar ôl i Adnoddau Dynol roi'r llythyr cynnig byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost. Fel arall, os oes ymholiad ynghylch y llythyr cynnig, bydd yn cael ei ddychwelyd atoch.

I wirio statws eich llythyrau cynnig, cliciwch ar y tab 'Offer Letter' ar eich dangosfwrdd.

 

Canllaw Cam wrth Gam – Rhoi Gwybod i Ymgeiswyr Llwyddiannus (nad ydynt yn cael eu hadleoli)

Os yw eich ymgeisydd yn cael ei adleoli, bydd gofyn i chi gwblhau cwestiynau penodol ynghylch hyn. Yn achos gweithiwr adleoli, gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol cyn i chi gwblhau'r Ffurflen Cynnig Amodol.

  1. O'r dangosfwrdd, dewiswch y tab 'Interviews Pending Decision'. Bydd rhestr o ymgeiswyr a wahoddwyd i gyfweliad yn ymddangos. Bydd y tabl hefyd yn cael ei ddiweddaru i ddangos y cam nesaf a argymhellir (symud ymlaen i'r cam nesaf neu wrthod) ynghyd â chyfanswm sgôr y cyfweliad.
  2. Dewiswch ymgeisydd trwy glicio ddwywaith ar y rhes. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Application Summary'.
  3. Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Progress'.
  4. Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Create Offer'.
  5. Llenwch y Ffurflen Cynnig Amodol i gadarnhau:
  1. Rhif y Swydd
  2. Oriau contract a gytunwyd gyda'r ymgeisydd
  3. Lleoliad
  4. Cyflog cychwynnol a gytunwyd
  5. Polisi Perthnasol
  6. Dyddiad Dechrau
  7. Hyd y cyfnod prawf
  8. Cadarnhau a yw'r ymgeisydd yn symud i swydd â chyflog is
  1. Pwyswch 'Submit'.
  2. Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Redeployee Offer – Preview Offer Letter’.
  3. Dewiswch y botwm llwyd 'Preview Redeployee Offer Letter'.
  4. Sgroliwch i waelod y dudalen 'Generate Communication' a dewiswch naill ai 'Preview' i weld rhagolwg o'ch llythyr cynnig neu 'Generate' i lunio'r llythyr cynnig.
  5. Os yw'r llythyr cynnig yn anghywir, cliciwch ar 'Cancel’. Byddwch yn dychwelyd i'r 'Application Summary'. Cliciwch ar y botwm glas 'Edit Offer' i olygu'r ffurflen gynnig amodol. Gwnewch eich newidiadau a dilynwch gamau 6-9 uchod.
  6. Pan fyddwch yn hapus gyda'r llythyr cynnig, dewiswch 'Generate’.
  7. Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Offer - Ready to Extend by HR'.

Mae'r llythyr bellach yn aros i gael ei roi gan Adnoddau Dynol. Ar ôl i Adnoddau Dynol roi'r llythyr cynnig byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost. Fel arall, os oes ymholiad ynghylch y llythyr cynnig, bydd yn cael ei ddychwelyd atoch i weithredu. Ar ôl i chi weithredu'r llythyr, gwnewch gamau 5-12 uchod eto.

I wirio statws eich llythyrau cynnig, cliciwch ar y tab 'Offer Letter' ar eich dangosfwrdd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae disgwyl y bydd y Rheolwr Recriwtio yn siarad â'r ymgeisydd a ffefrir i roi'r cynnig amodol iddo ar lafar ac egluro y bydd llythyr cynnig amodol ffurfiol yn cael ei wneud drwy'r Ganolfan Geisiadau. Ni ddylech wthio'r ymgeisydd i wneud penderfyniad ar yr adeg hon ond rhoi amser iddo adolygu manylion y cynnig.

Ar ôl i'r llythyr cynnig amodol gael ei roi i'r ymgeisydd, bydd yn derbyn e-bost yn rhoi gwybod iddo fod llythyr cynnig amodol yn y Ganolfan Geisiadau.

Os bydd yn mewngofnodi i'r Ganolfan Geisiadau, bydd yn gweld diweddariad statws yn y cais a bydd y llythyr cynnig amodol ar gael iddo ei adolygu. Bydd gofyn i'r ymgeisydd wneud penderfyniad recriwtio.

Ymgeisydd yn Derbyn Cynnig

Cyn gynted ag y bydd yr ymgeisydd yn derbyn y cynnig, gofynnir iddo ddechrau'r broses wirio cyn cyflogi. Yn dibynnu ar ba wiriadau cyn cyflogi sydd eu hangen ar gyfer y swydd, gofynnir i'r ymgeisydd gwblhau'r gwiriadau perthnasol.

Ar ôl i'r ymgeisydd dderbyn y cynnig, anfonir e-bost at y rheolwr recriwtio yn ei hysbysu o'r canlyniad a gofynnir iddo ddechrau'r broses wirio cyn cyflogi.

Ymgeisydd yn Gwrthod Cynnig

Os bydd yr ymgeisydd yn gwrthod cynnig, bydd statws ei gais yn newid i 'Offer - Declined' a bydd y rheolwr recriwtio yn derbyn hysbysiad e-bost bod yr ymgeisydd wedi gwrthod y cynnig.

Bydd yr ymgeisydd hefyd yn derbyn cydnabyddiaeth e-bost ei fod wedi gwrthod y cynnig.

Nawr eich bod wedi rhoi'r cynnig amodol i'r ymgeisydd a'i fod wedi'i dderbyn, y cam nesaf yw cwblhau'r gwiriadau cyn cyflogi.

I gael gwybod beth i'w wneud nesaf, edrychwch ar yr adran ‘Gwiriadau cyn cyflogi'.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cofiwch y gallwch bob amser gysylltu â'ch Uwchddefnyddiwr Adrannol neu'r Tîm Recriwtio.