Mae eich llais yn bwysig - dyma beth sydd wedi newid ar ôl arolwg staff 2025
7 awr yn ôl
Mewn llai na mis, byddwn ni'n lansio Arolwg Ymgysylltu â Staff ar gyfer eleni. Cyn i ni wneud hynny, roedden ni am gymryd y cyfle i edrych yn ôl - a dangos pam mae'n bwysig i gymryd rhan.
Pan wnaethoch chi rannu eich barn yn Arolwg Ymgysylltu â Staff 2025, fe ddwedsoch chi wrthon ni am yr hyn oedd yn gweithio, ddim yn gweithio a ble roeddech chi am weld newid. Rydyn ni wedi defnyddio'r adborth hwnnw i lunio gweithredoedd go iawn ar draws y sefydliad.
Dyma rai enghreifftiau o sut mae eich adborth wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud.
Creu gweithle mwy cynhwysol:
Fe ddwedsoch chi wrthon ni fod angen i ni wneud mwy i gydnabod a chefnogi niwroamrywiaeth yn y gwaith.
Beth sydd wedi newid:
Mae Polisi Niwroamrywiaeth newydd wedi'i ddatblygu i helpu i ddatblygu amgylchedd mwy cynhwysol i bawb. Mae angen i'r polisi bellach fynd drwy'r broses gymeradwyo briodol. Pan fydd y broses wedi’i chwblhau, byddwn yn rhoi gwybod i bawb ble y gallan nhw ei ddarllen a pha gefnogaeth sydd ar gael. Yn ogystal â'r polisi, rydyn ni'n cryfhau canllawiau, cyfleoedd dysgu ac adnoddau llesiant i gefnogi staff a rheolwyr. Mae rhai adnoddau niwroamrywiaeth eisoes ar gael ar ein tudalennau Dysgu a Datblygu a Llesiant Gweithwyr ar y fewnrwyd.
Gwella hyblygrwydd ac amser o'r gwaith:
Fe ddwedsoch chi wrthon ni nad yw polisïau amser o'r gwaith bob amser yn cael eu deall neu eu rhoi ar waith yn gyson.
Beth sydd wedi newid:
Rydyn ni'n datblygu ymgyrch gyfathrebu glir i godi ymwybyddiaeth am y gwahanol opsiynau sydd ar gael o ran amser o'r gwaith, adolygu prosesau ymgeisio i'w gwneud yn symlach, a nodi lle mae angen cymorth neu hyfforddiant ychwanegol ar reolwyr. Nod y gwaith hwn yw gwneud hyblygrwydd yn gliriach, yn decach ac yn haws i'w ddeall.
Gosod llesiant wrth wraidd y sefydliad:
Fe ddwedsoch chi wrthon ni fod llesiant yn ymwneud â theimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, eich cefnogi, a'ch bod yn gallu ffynnu yn y gwaith.
Beth sydd wedi newid:
Helpodd eich adborth i lunio cyd-ddealltwriaeth o lesiant ar draws y sefydliad, gyda chefnogaeth ac ymrwymiad gweladwy uwch-arweinwyr. Rydyn ni'n parhau i hyrwyddo adnoddau iechyd meddwl, hunangymorth, Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant, ac opsiynau gofal iechyd fforddiadwy - gan ei gwneud hi'n haws dod o hyd i help pan fydd ei angen arnoch.
Mynd i'r afael â phwysau llwyth gwaith:
Fe ddwedsoch chi wrthon ni fod llwyth gwaith a phwysau o ran capasiti yn bryder.
Beth sydd wedi newid:
Mae rheolwyr yn cael eu hannog i adolygu llwythi gwaith yn fwy cyson, gyda chefnogaeth timau Trawsnewid a Digidol corfforaethol. Rydyn ni hefyd yn edrych ar sut y gallai awtomeiddio a Deallusrwydd Artiffisial leihau'r baich gweinyddol a rhyddhau amser ar gyfer gwaith gwerth uwch.
Gwell cyfathrebu ac amlygrwydd arweinwyr:
Fe ddwedsoch chi wrthon ni y gellid gwella cyfathrebu mewnol ac amlygrwydd arweinwyr.
Beth sydd wedi newid:
Mae grŵp prosiect pwrpasol yn adolygu sut rydyn ni'n cyfathrebu â gwahanol grwpiau o weithwyr, gyda chefnogaeth arolygon, grwpiau ffocws, ac ymchwil arfer gorau. Ar yr un pryd, mae arweinwyr yn dod yn fwy amlwg drwy ymweld â gwasanaethau, fforymau, cyfleoedd ymgysylltu rheolaidd, a chyfarfodydd gyda dechreuwyr newydd.
Cydnabod a gwerthfawrogi staff:
Fe ddwedsoch chi wrthon ni yr hoffech ddull mwy cyson ac ystyrlon o gydnabod staff ar draws y sefydliad.
Beth sydd wedi newid:
Rydyn ni'n cymryd camau i ddatblygu fframwaith cydnabod staff cyson a chlir sy'n gweithio i bawb. Bydd grŵp prosiect yn cael ei sefydlu i edrych ar syniadau ac arferion gorau, gyda grwpiau ffocws staff yn helpu i lunio sut beth yw cydnabyddiaeth dda yn ymarferol. Ein nod yw creu dull sy'n teimlo'n ddilys, yn deg ac yn cyd-fynd â'r hyn y mae staff wedi dweud wrthon ni sy'n cael ei werthfawrogi - gyda chefnogaeth offer ymarferol a chanllawiau i reolwyr fel bod cydnabyddiaeth yn cael ei roi ar waith gyson ar draws timau.
Sicrhau bod arfarniadau'n deg, yn gyson ac yn ystyrlon:
Fe ddwedsoch chi wrthon ni eich bod am i'r broses arfarnu ac adolygu perfformiad fod yn deg, yn dryloyw a’i bod yn cael ei chymhwyso'n gyson ar draws y sefydliad.
Beth sydd wedi newid:
Rydyn ni wedi cwblhau adolygiad o'r broses arfarnu, gan ddefnyddio eich adborth o'r Arolwg Ymgysylltu â Staff i helpu i nodi lle'r oedd angen gwelliannau. Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod disgwyliadau'n glir, sgyrsiau'n ystyrlon, a bod y broses yn cael ei chymhwyso'n gyson ar draws timau.
Bydd y dull diwygiedig hwn yn cefnogi sgyrsiau perfformiad a datblygu o ansawdd uchel ac yn cyd-fynd yn agosach â'n gwerthoedd a'n hymddygiadau craidd fel Un Cyngor - gan helpu pawb i ddeall nid yn unig yr hyn sy'n cael ei ddisgwyl, ond sut rydyn ni'n gweithio gydag eraill. Rydyn ni hefyd yn datblygu canllawiau i gefnogi rheolwyr, fel bod modd defnyddio arfarniadau fel cyfle cadarnhaol i gydnabod gwaith da, trafod datblygu, a chytuno ar y camau nesaf, yn hytrach nag ymarfer trafodaethol.
Pam mae hyn yn bwysig:
Ni fyddai'r gwaith hwn wedi digwydd heb staff yn dweud wrthon ni beth sy'n bwysig iddyn nhw.
Mae'r Arolwg Ymgysylltu â Staff yn rhoi llais i bawb, ac mae'n dylanwadu ar flaenoriaethau, polisïau a sut rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd. Mae rhai newidiadau yn cymryd amser, ond mae eich adborth yn ein helpu i bennu'r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol.
Dweud eich dweud eto yn 2026:
Pan fydd Arolwg Ymgysylltu â Staff 2026 yn lansio ym mis Mehefin, bydden ni'n eich annog i gymryd rhan.
P'un a yw'ch profiad yn gadarnhaol, heriol, neu rywle yn y canol - mae eich barn yn ein helpu i ddeall beth sy'n digwydd ar lawr gwlad a ble mae angen i ni ganolbwyntio arno nesaf.
