Cryfhau diogelu rhag aflonyddu

2 diwrnod yn ôl

Mae gan bawb yr hawl i weithio mewn amgylchedd lle maen nhw'n teimlo'n ddiogel, a'u bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu a chynnal gweithle heb aflonyddu, gwahaniaethu ac ymddygiad annerbyniol.

Mae'r Cyngor eisoes wedi cymryd camau pwysig i gryfhau amddiffyniadau i weithwyr sy'n wynebu aflonyddu, gan gynnwys adolygu polisïau a chanllawiau a darparu cymorth a hyfforddiant ychwanegol. O Hydref 2026, bydd yr amddiffyniadau cyfreithiol yn cael eu hymestyn i gynnwys pob math o aflonyddu

O dan y gofynion newydd, bydd yn rhaid i gyflogwyr gymryd pob cam rhesymol i atal aflonyddu yn y gweithle, gan gynnwys aflonyddu gan drydydd partïon fel preswylwyr, rhieni, contractwyr, defnyddwyr gwasanaeth a sefydliadau partner. 

Er y bydd y Cyngor yn parhau i adolygu ei bolisïau, ei weithdrefnau a'i drefniadau hyfforddi, mae gan weithwyr rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol a pharchus. Mae hyn yn cynnwys trin eraill ag urddas a pharch, deall y safonau ymddygiad disgwyliedig, a rhoi gwybod am achosion o aflonyddu, trais neu ymddygiad ymosodol pan fyddan nhw'n digwydd. 

Os ydych chi'n profi neu'n gweld ymddygiad annerbyniol, rydyn ni'n eich annog chi i roi gwybod am eich pryderon drwy'r sianeli priodol. Mae codi pryderon yn helpu i sicrhau bod materion yn cael sylw'n brydlon ac yn cefnogi diwylliant lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu parchu yn y gweithle.

Bydd rhagor o ganllawiau a gwybodaeth yn cael eu rhannu wrth i'r newidiadau hyn gael eu rhoi ar waith. Yn y cyfamser, mae gweithwyr yn cael eu hannog i ddarllen Canllawiau Safonau Ymddygiad a Pholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Cyngor a chyfrannu at ddiwylliant yn y gweithle sy'n seiliedig ar barch, cynhwysiant a phroffesiynoldeb.