Sesiynau galw heibio i staff: Dysgwch ragor am y gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd
18 awr yn ôl
Bydd Ymgynghorwyr Ailgylchu yn ymweld ag adeiladau'r Cyngor ym mis Hydref i roi cyfle i staff ddysgu mwy am y gwasanaeth newydd, gofyn cwestiynau a siarad yn uniongyrchol ag aelodau o'r Tîm Ailgylchu a Gwastraff. Dewch draw i gael sgwrs gyda'r tîm:
Dydd Mawrth 6 Hydref – Heol Spilman, 9am-12pm
Dydd Mawrth 13 Hydref – Neuadd y Sir, 9am-12pm
Dydd Iau 22 Hydref – Parc Myrddin, 9am-12pm
Does dim angen archebu lle - galwch heibio i gael gwybod mwy.
Rydyn ni hefyd wedi creu ystod o wybodaeth ac adnoddau i'ch helpu i ddeall y newidiadau, gan gynnwys tudalen we benodol, cwestiynau cyffredin, gwiriwr côd post ar-lein a chanllawiau ar sut y bydd y gwasanaeth newydd yn gweithio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.sirgar.llyw.cymru/ailgylchuarwahan
Peidiwch â cholli mas - cofrestrwch i dderbyn negeseuon e-bost neu negeseuon testun AM DDIM i'ch atgoffa o'ch casgliadau ailgylchu a'ch casgliadau gwastraff: www.sirgar.llyw.cymru/atgoffa
