DIWEDDARIAD GAN Y GWASANAETHAU DIGIDOL 5pm 13/11/2026 – Tarfu yn effeithio ar Microsoft ar draws y byd
19 awr yn ôl
Rydyn ni'n parhau i weld cynnydd da o ran adfer gwasanaethau Microsoft 365, gan gynnwys ein systemau e-bost.
Mae gwasanaethau yn fwy sefydlog erbyn hyn, ac mae Microsoft bellach yn canolbwyntio ar ddatrys y problemau sy'n weddill a chael popeth yn ôl i normal.
Efallai y bydd rhai defnyddwyr yn dal i gael problemau cysylltu o bryd i'w gilydd neu wynebu oedi wrth dderbyn negeseuon e-bost, ond mae'r sefyllfa gyffredinol yn parhau i wella.
Er bod hyn yn galonogol, ni allwn gadarnhau eto bod popeth wedi'i adfer yn llawn. Dylech chi dybio nad oedd negeseuon e-bost a anfonwyd neu a ddisgwyliwyd yn ystod y tarfu wedi'u derbyn o bosib, a chadarnhau bod negeseuon brys wedi'u derbyn drwy sianel arall.
Byddwn ni'n parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos dros y penwythnos ac yn gofyn bod trefniadau parhad busnes yn parhau i fod ar waith lle mae'r sefyllfa yn dal i effeithio ar wasanaethau hanfodol.
Nid oes unrhyw dystiolaeth o ymosodiad seiber nac unrhyw weithgaredd maleisus.
Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei chyhoeddi drwy'r sianeli priodol os bydd unrhyw ddatblygiadau brys dros y penwythnos.
............................................
Mae tarfu sylweddol yn fyd-eang ar wasanaeth Microsoft ar hyn o bryd sy'n effeithio ar Outlook. Efallai y bydd rhai defnyddwyr hefyd yn sylwi ar broblemau cysylltu o bryd i'w gilydd ar draws apiau eraill Microsoft 365, gan gynnwys Teams, SharePoint, a OneDrive.
Beth mae hyn yn ei olygu i’r Cyngor?
Nid yw ein gwasanaethau e-bost ar gael ar hyn o bryd. Mae Teams fel pe bai'n gweithio, ond rydym yn ei fonitro'n barhaus.
Mae Microsoft wrthi'n ceisio adfer y gwasanaethau. Er llwyddo i gael rhywfaint yn ôl, mae anawsterau technegol pellach wedi dod i'r amlwg, ac mae camau ychwanegol yn cael eu cymryd i adfer sefydlogrwydd. Ar hyn o bryd nid oes amser datrysiad wedi'i gadarnhau.
Mae'n bwysig nodi bod Microsoft wedi datgan nad oes tystiolaeth o weithgaredd maleisus neu ymosodiad seiber.
O ystyried yr effaith bosibl ar ddarparu gwasanaethau, gofynnir i reolwyr adolygu eu trefniadau parhad busnes, yn enwedig lle mae e-bost neu wasanaethau Microsoft eraill yn hanfodol i waith critigol. Pan fo'r tarfu yn effeithio'n sylweddol ar ddarparu gwasanaethau, dylid rhoi mesurau parhad busnes priodol ar waith.
Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa, i gadw mewn cysylltiad agos â Microsoft, ac i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r sefyllfa ddatblygu.
