Problemau yn ymwneud â gwasanaethau rhwydwaith
1 diwrnod yn ôl
Bu digwyddiad mawr mewn perthynas â Google heddiw a effeithiodd ar wasanaethau rhwydwaith ledled y DU ac Ewrop. Effeithiodd hyn ar un o brif gyflenwyr TG allanol y Cyngor hefyd.
O ganlyniad, gallai staff fod wedi cael problemau yn ymwneud â chysylltedd ac argraffu o bryd i'w gilydd. Buon ni'n gweithio gyda'n cyflenwyr i adfer gwasanaethau cyn gynted â phosibl.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw arwydd bod y mater wedi cynyddu'r risg diogelwch i systemau TG y Cyngor na'u peryglu.
