Dosbarthu Cardiau Mynediad Newydd - Neuadd y Sir
1 diwrnod yn ôl
Mae system rheoli mynediad newydd yn cael ei chyflwyno ar draws ein hystad gorfforaethol.
Bydd pob aelod o staff sydd angen cael mynediad i adeiladau corfforaethol yn cael cerdyn mynediad newydd.
Mae cardiau newydd wedi'u creu ar gyfer pob defnyddiwr sydd wedi defnyddio un o'r adeiladau corfforaethol yn ystod y cyfnod o dri mis rhwng 31 Mai a 31 Awst 2026. Bydd y cardiau hyn yn cael eu dosbarthu drwy swyddfa eich Cyfarwyddwr neu'ch Uned Cymorth Busnes, a bydd y trefniadau casglu yn cael eu cyfathrebu’n lleol. Os nad ydych wedi defnyddio eich cerdyn mynediad ar y system yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i chi wneud cais am gerdyn newydd drwy anfon e-bost at idcards@sirgar.gov.uk.
Pwysig – Cadwch Eich Cerdyn Mynediad Presennol
Bydd cyfnod pontio wrth i’r system newydd gael ei gosod a'i chomisiynu ar draws yr holl safleoedd. Yn ystod y cyfnod hwn:
Bydd rhai drysau yn parhau i weithredu gan ddefnyddio'r system rheoli mynediad bresennol.
Bydd drysau eraill yn cael eu trosglwyddo i'r system newydd wrth i'r gwaith gosod fynd rhagddo.
Felly, bydd angen i chi gario eich cerdyn mynediad presennol a'ch cerdyn mynediad newydd am gyfnod byr.
Yn ogystal, bydd y rhwystrau mynediad cerbydau yn y meysydd parcio i staff yn aros ar y system bresennol am gyfnod hirach. Mae hyn yn golygu y bydd angen eichcerdyn mynediad presennol o hyd i gael mynediad i'r maes parcio hyd yn oed ar ôl i chi gael eich cerdyn newydd. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r rhaglen fynd rhagddi, gan gynnwys cadarnhad o'r dyddiad pan ellir rhoi'r gorau i ddefnyddio'r hen gardiau.
Dylid anfon unrhyw ymholiadau neu geisiadau am gardiau newydd at idcards@sirgar.gov.uk. Oherwydd y galw disgwyliedig ar y mewnflwch hwn, gofynnwn yn garedig i chi gysylltu dim ond pan fo angen a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer ymatebion.
Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad yn ystod y cyfnod pontio.
