Newid sydd ar ddod i MyView – Treuliau
1 diwrnod yn ôl
Bydd MyView – Treuliau2 yn disodli'r modiwl MyView – Treuliau presennol o 23 Rhagfyr, 2026.
Mae'r system newydd yn cynnig ffordd symlach a mwy effeithlon o hawlio treuliau, gan gynnwys:
Uwchlwytho derbynebau a dogfennau ategol yn uniongyrchol i'ch hawliad.
Profiad gwell i ddefnyddwyr wrth gyflwyno ac olrhain hawliadau am dreuliau.
Beth sydd angen ichi ei wneud
Gweithwyr:
Os oes gennych unrhyw hawliadau wedi'u cadw neu ar y gweill yn y modiwl MyView – Treuliau presennol, sicrhewch eu bod yn cael eu cyflwyno erbyn 3 Rhagfyr. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd y swyddogaethau Cadw a Chyflwyno yn cael eu hanalluogi.
Rheolwyr:
Adolygwch ac awdurdodwch yr holl hawliadau am dreuliau sy'n aros am gymeradwyaeth erbyn 9 Rhagfyr. Bydd gweithredu'n brydlon yn helpu i sicrhau nad oes angen i weithwyr ail-greu hawliadau ar ôl symud i’r modiwl newydd.
Bydd unrhyw hawliadau nad ydynt wedi'u hawdurdodi erbyn y dyddiad cau hwn yn cael eu dileu'n barhaol fel rhan o'r broses symud a bydd angen eu hail-greu yn MyView – Treuliau2.
Cyfnod pwysig pan fydd y system yn segur
Er mwyn gallu prosesu'r gyflogres, a symud i’r modiwl Treuliau2 a’i brofi, ni fydd y modiwl Treuliau presennol ar gael rhwng 10 Rhagfyr a 22 Rhagfyr.
Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd defnyddwyr yn gallu cyflwyno, diwygio nac awdurdodi hawliadau am dreuliau. Bydd mynediad at y swyddogaethau treuliau yn cael ei adfer pan fydd MyView – Treuliau2 yn mynd yn fyw.
Gellir cyflwyno hawliadau ôl-weithredol ar ôl y dyddiad y bydd y system yn mynd yn fyw.
Angen cymorth?
Os oes gennych hawliadau heb eu cwblhau a bod angen cymorth arnoch cyn y dyddiadau cau, cysylltwch â Thîm ResourceLink cyn gynted â phosibl.
Dyddiadau allweddol:
3 Rhagfyr – Y diwrnod olaf i gadw a chyflwyno hawliadau yn MyView – Treuliau
9 Rhagfyr – Y dyddiad cau i reolwyr awdurdodi pob hawliad
10 Rhagfyr hyd nes 22 Rhagfyr – Ni fydd y modiwl Treuliau ar gael yn ystod y gwaith symud
3 Rhagfyr – MyView – Treuliau2 yn mynd yn fyw
Bydd canllawiau pellach a gwybodaeth i ddefnyddwyr yn cael eu rhannu cyn y lansiad.
Diolch am eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth wrth sicrhau trosglwyddiad llyfn i MyView – Treuliau2.
