'Mae'n Cymryd Pawb': Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026

1 diwrnod yn ôl

Fel Cyngor, rydyn ni unwaith eto'n cefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn, sy'n digwydd ddydd Mercher, 25 Tachwedd. Mae'r Rhuban Gwyn yn fudiad sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn i helpu i atal trais yn erbyn menywod a merched.

Mae thema eleni, 'Mae'n Cymryd Pawb', yn tynnu sylw at y rôl y gallwn ni i gyd ei chwarae wrth greu diwylliant o barch a herio'r agweddau a'r ymddygiadau a all gyfrannu at drais yn erbyn menywod a merched. Mae'n atgyfnerthu bod gan bawb ran i'w chwarae wrth gefnogi newid cadarnhaol.

Gweminar am ddim: Ymddygiad sy'n gorfodi ac yn rheoli

Mae gweminar am ddim ynghylch ymddygiad sy'n gorfodi ac yn rheoli yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 25 Tachwedd, rhwng 10am a 12 canol dydd. Bydd y sesiwn, sy'n cael ei chyflwyno gan Bright Options, yn rhoi cyfle i ddysgu mwy am reolaeth drwy orfodaeth ac effaith hynny yng nghyd-destun cam-drin domestig. Cofrestrwch yma

Dangos ein cefnogaeth

I nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn, bydd baner y Rhuban Gwyn yn cael ei chwifio y tu allan i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin, Neuadd y Dref, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman ar 25 Tachwedd. Bydd Neuadd y Sir hefyd yn cael ei goleuo y noson honno i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch.

Mae cefndiroedd y Rhuban Gwyn ar gyfer Teams hefyd ar gael i'r staff eu defnyddio ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a thrwy gydol y 16 Diwrnod Gweithredu. Gallwch eu lawrlwytho o'n mewnrwyd a'u defnyddio yn ystod cyfarfodydd Teams i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch.

Cadwch lygad am lythyr newyddion yr wythnos nesaf, lle byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn a'r 16 Diwrnod Gweithredu.

Fideo Diwrnod Rhuban Gwyn