Helpwch ni i ddeall eich sgiliau digidol

22 awr yn ôl

Pa mor hyderus ydych chi wrth ddefnyddio technoleg ddigidol?

Mae sgiliau digidol yn rhan bwysig o'n bywydau gwaith, gan ein helpu ni i weithio'n effeithiol, addasu i dechnoleg newydd a gwneud y gorau o'r offer sydd ar gael i ni.

Rydyn ni'n gofyn i'r holl staff gwblhau ein Harolwg Sgiliau Digidol byr i'n helpu ni i ddeall lefelau sgiliau cyfredol ar draws y Cyngor, nodi lle y gallai fod angen cymorth ychwanegol a llunio cyfleoedd dysgu yn y dyfodol.

Mae eich ymatebion yn ddienw a byddant ond yn cael eu defnyddio i'n helpu ni i wella sgiliau digidol a'r cymorth sydd ar gael ar draws y sefydliad. 

Cwblhewch yr arolwg heddiw a helpwch ni i lunio dyfodol dysgu digidol yn y Cyngor.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi i lenwi'r arolwg, cysylltwch â Dysgu a Datblygu.

>Dweud eich dweud!