Academi Arweinyddiaeth

2 diwrnod yn ôl

Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer rhaglen Academi Arweinyddiaeth sy'n dechrau ym mis Medi 2026!

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i wynebu ei heriau gyda chryfder, hyder a phenderfyniad.

Mae'r Academi hon yn dwyn arweinwyr ynghyd ar wahanol gyfnodau o'u gyrfaoedd. Mae'r rhaglenni yn yr academi wedi'u dylunio i ddarparu annibyniaet, hyder a set gref o sgiliau arwain a fydd yn dod â'r gorau allan ohonoch chi ac aelodau eich tîm; ymdrechu fel un i sicrhau gwasanaeth sy'n bodloni anghenion ein cymuned yn llawn.

Rhagor o wybodaeth