Enillwch BetterPoints i gael cyfle i ennill gwobr
20 awr yn ôl
Fel arwydd o ddiolch am gefnogi teithio mwy cynaliadwy, mae BetterPoints yn cynnal raffl arbennig i staff sy'n cymryd rhan yn unig.
Am bythefnos, rhwng 17 a 30 Awst, bydd un person bob wythnos yn ennill naill ai:
🎟️ Taleb gwerth £50 ym Mharc Gwledig Pen-bre
NEU🫖 Te prynhawn i ddau yn Y Pantri yn Smallholding Secrets yng Ngorslas
Gallwch ennill hyd at 10 tocyn yr wythnos. Caiff un tocyn ei roi ar gyfer pob taith gerdded, olwyno, beicio, taith ar y trên neu fws am o leiaf 1/4 milltir.
📋Ar ddechrau pob wythnos, bydd BetterPoints yn anfon arolwg yn gofyn pa wobr yr hoffech chi. Rhaid i chi lenwi'r arolwg hwn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth fawr!
Mae BetterPoints yn ap lle rydych chi'n ennill buddion bob tro rydych chi'n cerdded, yn olwyno, yn beicio, neu'n defnyddio'r bws neu'r trên.
Heb gofrestru ar gyfer BetterPoints eto? Rydych chi'n colli allan ar bwyntiau a gwobrau drwy beidio â chofnodi eich teithiau cynaliadwy bob dydd. Mae'n rhad ac am ddim i'w lawrlwytho, yn syml i gofrestru, a gallwch chi ddechrau ennill buddion ar unwaith.
Rhowch eich cyfeiriad e-bost gwaith wrth gofrestru i ymuno yn awtomatig neu defnyddiwch y cod swwooa os nad oes gennych un.
Mae'r rhaglen hon ar gael i holl aelodau staff Cyngor Sir Caerfyrddin ochr yn ochr â Chyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a Chyngor Sir Penfro.
Pob lwc, a diolch eto am eich holl ymdrechion i sicrhau bod Sir Gâr yn lle gwyrddach! 💚
>Rhagor o wybodaeth BetterPoints De-orllewin Cymru
