Canlyniad cyfweliad a llythyrau cynnig
Diweddarwyd y dudalen: 18/04/2024
CYNNWYS
- Cwblhau'r matrics sgorio cyfweliad
- Cofnodi penderfyniad y cyfweliad
- Rhoi gwybod i ymgeiswyr
- Rhoi gwybod i ymgeiswyr aflwyddiannus
- Rhoi gwybod i ymgeiswyr aflwyddiannus (gweithwyr adleoli)
- Llunio'r llythyr cynnig
- Rhoi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus
- Rhoi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus (gweithwyr adleoli)
- Sut mae ymgeiswyr yn derbyn (neu'n gwrthod) cynigion
- Y cam nesaf
Dylai'r ffurflen adborth cyfweliad fod wedi'i sefydlu ar yr un pryd roedd eich swydd wag yn mynd drwy'r broses gymeradwyo.
Ar ôl y Cyfweliad
Dylai Cadeirydd y Panel fod yn gyfrifol am gasglu unrhyw gopïau papur o'r ffurflenni cais, y ffurflenni asesu ac ati a'u cadw'n ddiogel am gyfnod o flwyddyn ar ôl i'r broses recriwtio ddod i ben.
Pan fydd y cyfweliadau yn gorffen, dylai'r panel wneud y canlynol:
- Cyfrifo'r sgorau1. Dechreuwch drwy adio'r sgoriau ar gyfer pob ymgeisydd. Adolygwch pa ymgeiswyr sydd â sgôr dda mewn meysydd penodol a phwy sydd â sgôr dda yn gyffredinol. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniad cyflogi gwybodus a diduedd.
- Trafod yr ymgeiswyr. Dylai dewis gweithiwr newydd fod yn broses gydweithredol. Ar ôl cyfrifo'r holl sgoriau, adolygwch yr holl ymgeiswyr, a thrafodwch y manteision a'r anfanteision ar gyfer pob un sy'n cael ei gyfweld, ynghyd â'i sgorau, ac ystyried safbwyntiau pawb.
- Adolygu unrhyw nodiadau ychwanegol. Cyn i chi wneud eich penderfyniad terfynol, peidiwch ag anghofio adolygu unrhyw nodiadau sydd gennych ar gyfer atebion sydd y tu hwnt i'r cwestiynau a gynlluniwyd ymlaen llaw. Dylid ystyried unrhyw sgiliau y gellid eu trosglwyddo o feysydd eraill.
- Gwneud penderfyniad. Ar ôl adolygu holl nodiadau'r cyfweliad, adborth a sgorau, gallwch wneud eich penderfyniad cyflogi terfynol.
1 Bydd y sgôr gyfartalog yn cael ei chyfrifo drwy'r sgôr unigol gan bob aelod o'r panel ac yna cyfrifo’r ffigwr cyfartalog e.e. bydd sgôr o 3, 4 a 2 gan bob aelod o'r panel yn arwain at sgôr gyfartalog o 3.
Bydd gofyn i chi nodi'r "sgôr" gyfartalog ar gyfer pob gallu/maen prawf ac ychwanegu unrhyw nodiadau i gefnogi eich penderfyniad sgorio.
Canllaw Cam wrth Gam – Cofnodi Penderfyniad
- O'r dangosfwrdd, dewiswch y tab 'Interviews Pending Decision'. Bydd rhestr o ymgeiswyr a wahoddwyd i gyfweliad yn ymddangos.
- Dewiswch ymgeisydd drwy glicio ddwywaith ar y rhes. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Application Summary'.
- Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Input Interview Feedback'.
- Penderfynwch ar y sgôr gyfartalog ar gyfer pob maen prawf a dewiswch y sgôr gyfatebol o'r gwymplen. Gallwch ychwanegu nodiadau i gefnogi'ch penderfyniad.
- Cwblhewch y meysydd Asesiad Sgiliau Iaith Gymraeg a chanlyniad.
- Bydd cyfanswm sgôr yn cael ei gyfrifo'n awtomatig.
- Cwblhewch y meysydd yn yr adran 'Recommendation' gan gynnwys eich penderfyniad cyffredinol e.e. gwrthod yr ymgeisydd neu symud ymlaen i'r cam nesaf (yr ymgeisydd a ffefrir gennych).
- Cyflwyno
Ar ôl i chi gwblhau'r adran 'Input Interview Feedback' ar gyfer pob ymgeisydd. Ewch yn ôl i'r dangosfwrdd. Ar yr adeg hon, rydym yn eich cynghori i ffonio'r ymgeisydd a ffefrir gennych i gynnig y swydd wag iddo ar lafar (yn amodol ar gwblhau gwiriadau cyn cyflogi yn llwyddiannus) cyn rhoi gwybod i'r ymgeiswyr aflwyddiannus.
Canllaw Cam wrth Gam – Rhoi Gwybod i Ymgeiswyr Aflwyddiannus
- O'r dangosfwrdd, dewiswch y tab 'Interviews Pending Decision'. Bydd rhestr o ymgeiswyr a wahoddwyd i gyfweliad yn ymddangos. Bydd y tabl hefyd yn cael ei ddiweddaru i ddangos y cam nesaf a argymhellir (symud ymlaen i'r cam nesaf neu wrthod) ynghyd â chyfanswm sgôr y cyfweliad.
- Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r 'whole table filter' i hidlo'ch canlyniadau, a hidlo yn ôl 'reject’.
- Dewiswch ymgeisydd trwy glicio ddwywaith ar y rhes. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Application Summary'.
- Cliciwch ar y botwm coch 'Reject'.
- Gofynnir i chi nodi a yw'r ymgeisydd yn weithiwr adleoli:
- Os Na, dewiswch 'No' a llenwch y blwch rheswm dros wrthod a sylwadau. Sylwer: Ni fydd yr ymgeisydd yn cael gwybod am sylwadau rydych chi'n eu rhoi yn y blwch sylwadau ond sicrhewch fod unrhyw sylwadau'n briodol.
- Pwyswch 'submit'.
Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Interview Rd 1 - Rejected' a bydd yn derbyn hysbysiad e-bost cyffredinol awtomatig.
Canllaw Cam wrth Gam – Rhoi Gwybod i Ymgeiswyr Aflwyddiannus (gweithwyr adleoli)
- O'r dangosfwrdd, dewiswch y tab 'Interviews Pending Decision'. Bydd rhestr o ymgeiswyr a wahoddwyd i gyfweliad yn ymddangos. Bydd y tabl hefyd yn cael ei ddiweddaru i ddangos y cam nesaf a argymhellir (symud ymlaen i'r cam nesaf neu wrthod) ynghyd â chyfanswm sgôr y cyfweliad.
- Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r 'whole table filter' i hidlo'ch canlyniadau, a hidlo yn ôl 'reject’.
- Dewiswch ymgeisydd trwy glicio ddwywaith ar y rhes. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Application Summary'.
- Cliciwch ar y botwm coch 'Reject'.
- Gofynnir i chi nodi a yw'r ymgeisydd yn weithiwr adleoli:
- Os Ydy, gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol cyn i chi gwblhau'r meysydd 'Reasons for Rejecting'. Byddwch yn ofalus, os mai Cymraeg yw dewis iaith eich ymgeisydd (gallwch weld hyn ar y tab 'Summary' a'r adran 'Communication'), bydd angen i chi gael eich rhesymau dros wrthod wedi'u cyfieithu.
- Pwyswch 'submit'.
Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Interview Rd 1 - Rejected' a bydd yn derbyn hysbysiad awtomatig yn y ganolfan geisiadau yn gofyn iddo edrych ar y llythyr.
Ar ôl i chi siarad â'r ymgeisydd a ffefrir gennych, a'ch bod yn hapus i gadarnhau'ch cynnig yn ysgrifenedig, gallwch lunio'r llythyr cynnig, yn barod i'r llythyr gael ei roi i'r ymgeisydd gan y Tîm Recriwtio neu'r Partner Busnes Adnoddau Dynol yn achos gweithiwr adleoli.
Bydd gwybodaeth o'r ffurflen creu swydd wag yn cael ei thynnu'n awtomatig i dempled y llythyr cynnig. Bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol yn y ffurflen Llythyr Cynnig Amodol.
Sylwer: Os yw eich ymgeisydd wedi ymgeisio o dan y Polisi Secondiadau ond bod ei reolwr llinell wedi gwrthod rhoi caniatâd am y secondiad, gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol.
Canllaw Cam wrth Gam – Rhoi Gwybod i Ymgeiswyr Llwyddiannus (nad ydynt yn cael eu hadleoli)
- O'r dangosfwrdd, dewiswch y tab 'Interviews Pending Decision'. Bydd rhestr o ymgeiswyr a wahoddwyd i gyfweliad yn ymddangos. Bydd y tabl hefyd yn cael ei ddiweddaru i ddangos y cam nesaf a argymhellir (symud ymlaen i'r cam nesaf neu wrthod) ynghyd â chyfanswm sgôr y cyfweliad.
- Dewiswch ymgeisydd trwy glicio ddwywaith ar y rhes. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Application Summary'.
- Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Progress'.
- Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Create Offer'.
- Llenwch y Ffurflen Cynnig Amodol i gadarnhau:
- Rhif y Swydd
- Oriau contract a gytunwyd gyda'r ymgeisydd
- Lleoliad
- Cyflog cychwynnol a gytunwyd gyda'r ymgeisydd (gan lanlwytho dogfennau ategol ynghylch cyflog cychwynnol uwch lle bo angen).
- Pwyswch 'Submit'.
- Os yw eich ymgeisydd yn cael ei adleoli, bydd gofyn i chi gwblhau cwestiynau penodol ynghylch hyn. Yn achos gweithiwr adleoli, gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol cyn i chi gwblhau'r Ffurflen Cynnig Amodol.
- Os yw eich ymgeisydd wedi ymgeisio o dan y Polisi Secondiadau ond bod ei reolwr llinell wedi gwrthod rhoi caniatâd am y secondiad, gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol.
- Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Offer - Preview Offer Letter’.
- Dewiswch y botwm llwyd 'Preview Provisional Offer Letter'.
- Sgroliwch i waelod y dudalen 'Generate Communication' a dewiswch naill ai 'Preview' i weld rhagolwg o'ch llythyr cynnig neu 'Generate' i lunio'r llythyr cynnig.
- Pan fyddwch yn hapus gyda'r llythyr cynnig, dewiswch 'Generate’.
- Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Offer - Ready to Extend by HR'.
Mae'r llythyr bellach yn barod i'r tîm Adnoddau Dynol ei roi i'r ymgeisydd. Ar ôl i Adnoddau Dynol roi'r llythyr cynnig byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost. Fel arall, os oes ymholiad ynghylch y llythyr cynnig, bydd yn cael ei ddychwelyd atoch.
I wirio statws eich llythyrau cynnig, cliciwch ar y tab 'Offer Letter' ar eich dangosfwrdd.
Canllaw Cam wrth Gam – Rhoi Gwybod i Ymgeiswyr Llwyddiannus (nad ydynt yn cael eu hadleoli)
Os yw eich ymgeisydd yn cael ei adleoli, bydd gofyn i chi gwblhau cwestiynau penodol ynghylch hyn. Yn achos gweithiwr adleoli, gofynnwch am gyngor gan eich Partner Busnes Adnoddau Dynol cyn i chi gwblhau'r Ffurflen Cynnig Amodol.
- O'r dangosfwrdd, dewiswch y tab 'Interviews Pending Decision'. Bydd rhestr o ymgeiswyr a wahoddwyd i gyfweliad yn ymddangos. Bydd y tabl hefyd yn cael ei ddiweddaru i ddangos y cam nesaf a argymhellir (symud ymlaen i'r cam nesaf neu wrthod) ynghyd â chyfanswm sgôr y cyfweliad.
- Dewiswch ymgeisydd trwy glicio ddwywaith ar y rhes. Bydd hyn yn agor y dudalen 'Application Summary'.
- Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Progress'.
- Cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Create Offer'.
- Llenwch y Ffurflen Cynnig Amodol i gadarnhau:
- Rhif y Swydd
- Oriau contract a gytunwyd gyda'r ymgeisydd
- Lleoliad
- Cyflog cychwynnol a gytunwyd
- Polisi Perthnasol
- Dyddiad Dechrau
- Hyd y cyfnod prawf
- Cadarnhau a yw'r ymgeisydd yn symud i swydd â chyflog is
- Pwyswch 'Submit'.
- Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Redeployee Offer – Preview Offer Letter’.
- Dewiswch y botwm llwyd 'Preview Redeployee Offer Letter'.
- Sgroliwch i waelod y dudalen 'Generate Communication' a dewiswch naill ai 'Preview' i weld rhagolwg o'ch llythyr cynnig neu 'Generate' i lunio'r llythyr cynnig.
- Os yw'r llythyr cynnig yn anghywir, cliciwch ar 'Cancel’. Byddwch yn dychwelyd i'r 'Application Summary'. Cliciwch ar y botwm glas 'Edit Offer' i olygu'r ffurflen gynnig amodol. Gwnewch eich newidiadau a dilynwch gamau 6-9 uchod.
- Pan fyddwch yn hapus gyda'r llythyr cynnig, dewiswch 'Generate’.
- Bydd statws yr ymgeisydd yn newid i 'Offer - Ready to Extend by HR'.
Mae'r llythyr bellach yn aros i gael ei roi gan Adnoddau Dynol. Ar ôl i Adnoddau Dynol roi'r llythyr cynnig byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost. Fel arall, os oes ymholiad ynghylch y llythyr cynnig, bydd yn cael ei ddychwelyd atoch i weithredu. Ar ôl i chi weithredu'r llythyr, gwnewch gamau 5-12 uchod eto.
I wirio statws eich llythyrau cynnig, cliciwch ar y tab 'Offer Letter' ar eich dangosfwrdd.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae disgwyl y bydd y Rheolwr Recriwtio yn siarad â'r ymgeisydd a ffefrir i roi'r cynnig amodol iddo ar lafar ac egluro y bydd llythyr cynnig amodol ffurfiol yn cael ei wneud drwy'r Ganolfan Geisiadau. Ni ddylech wthio'r ymgeisydd i wneud penderfyniad ar yr adeg hon ond rhoi amser iddo adolygu manylion y cynnig.
Ar ôl i'r llythyr cynnig amodol gael ei roi i'r ymgeisydd, bydd yn derbyn e-bost yn rhoi gwybod iddo fod llythyr cynnig amodol yn y Ganolfan Geisiadau.
Os bydd yn mewngofnodi i'r Ganolfan Geisiadau, bydd yn gweld diweddariad statws yn y cais a bydd y llythyr cynnig amodol ar gael iddo ei adolygu. Bydd gofyn i'r ymgeisydd wneud penderfyniad recriwtio.
Ymgeisydd yn Derbyn Cynnig
Cyn gynted ag y bydd yr ymgeisydd yn derbyn y cynnig, gofynnir iddo ddechrau'r broses wirio cyn cyflogi. Yn dibynnu ar ba wiriadau cyn cyflogi sydd eu hangen ar gyfer y swydd, gofynnir i'r ymgeisydd gwblhau'r gwiriadau perthnasol.
Ar ôl i'r ymgeisydd dderbyn y cynnig, anfonir e-bost at y rheolwr recriwtio yn ei hysbysu o'r canlyniad a gofynnir iddo ddechrau'r broses wirio cyn cyflogi.
Ymgeisydd yn Gwrthod Cynnig
Os bydd yr ymgeisydd yn gwrthod cynnig, bydd statws ei gais yn newid i 'Offer - Declined' a bydd y rheolwr recriwtio yn derbyn hysbysiad e-bost bod yr ymgeisydd wedi gwrthod y cynnig.
Bydd yr ymgeisydd hefyd yn derbyn cydnabyddiaeth e-bost ei fod wedi gwrthod y cynnig.
Nawr eich bod wedi rhoi'r cynnig amodol i'r ymgeisydd a'i fod wedi'i dderbyn, y cam nesaf yw cwblhau'r gwiriadau cyn cyflogi.
I gael gwybod beth i'w wneud nesaf, edrychwch ar yr adran ‘Gwiriadau cyn cyflogi'.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cofiwch y gallwch bob amser gysylltu â'ch Uwchddefnyddiwr Adrannol neu'r Tîm Recriwtio.
Mwy ynghylch Canllawiau recriwtio Oleoo