Digwyddiad i Ddathlu'r Hyn a Gyflawnwyd ym maes Iechyd a Llesiant yr Adran Cymunedau
Diweddarwyd y dudalen: 15/11/2019
Cafodd digwyddiad ei gynnal ar 11 Hydref yn y Crochan, y Ffwrnes, Llanelli yn cydnabod gweithwyr sy'n gwneud gwahaniaeth wrth gyfrannu at eu hiechyd a'u llesiant nhw eu hunain ynghyd ag eraill yn y gwaith. Roedd Tîm Rheoli Adrannol yr Adran Cymunedau am ddangos eu gwerthfawrogiad i staff sy'n frwd, yn ymrwymedig, ac sy'n gallu cymell ac ysbrydoli eraill wrth greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, gan ddarparu gwasanaethau arbennig a sicrhau ein bod yn byw ac yn gweithio'n dda yn Sir Gaerfyrddin
Gofynnodd yr Adain i'r staff enwebu cydweithwyr roeddynt o'r farn y dylai gael eu cydnabod. Cawsom ymateb ardderchog, sef 70 o enwebiadau yn gyfan gwbl. Roedd 5 categori, ac roedd 5 aelod o staff wedi cael eu cydnabod yn y categorïau hyn. Cafodd y staff eu gwobrwyo gan ein siaradwr ysgogi Tina Evans "Human on Wheels", sef menyw leol 32 mlwydd oed o Gwm Gwendraeth a gafodd ddiagnosis o Friedreich Ataxia yn 16 mlwydd oed, sef cyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Tina ar ei gwefan: humanonwheels.com. Mae Tina wedi rhoi'r diagnosis naill ochr ac wedi byw bywyd ar ei thelerau ei hun gan barhau i fod yn gadarnhaol a manteisio i'r eithaf ar fywyd, gan ddefnyddio'i chadair olwyn fel arf ar gyfer annibyniaeth yn hytrach nag yn rhywbeth i'w chyfyngu. Mae hi'n gyson yn herio disgwyliadau a'r hyn sy'n arferol ynghylch yr hyn y mae defnyddiwr cadair olwyn yn gallu ei wneud gyda'i fywyd.
Y gobaith yw bod Tina wedi annog ac ysgogi pawb a gafodd eu henwebu i barhau â'u gwaith caled, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'w hunain ac i'w cydweithwyr.
Hefyd dangoswyd neges ar fideo yn y digwyddiad gan Nigel Owens, Dyfarnwr Rhyngwladol yn mynegi ei farn ynghylch pwysigrwydd iechyd a llesiant ac yn llongyfarch pawb a gafodd eu henwebu.
Mae'r bobl a lwyddodd ym mhob categori yn cael eu rhestru isod:
1.Cyflawniad o ran Cyfrannu at Lesiant yn y Gweithle
- Vivienne Jones, Swyddog Safonau Masnach, Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel
- Linda Williams, Swyddog Datblygu, Coleshill, Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Diogelu
- Catrin James, Swyddog Gwerthu a Marchnata, Gwasanaethau Hamdden
- Esther Chapman, Swyddog Perfformiad ac Ansawdd, Gwasanaethau Comisiynu
- Elizabeth Howells, Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol, Y Tîm Camddefnyddio Sylweddau, Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu
2.Cyflawniad Gweithiwr
- Alison Rees, Gweithiwr Cymorth Arbenigol, Maeslliedi, Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Diogelu
- Grŵp Ffordd y Faenor, Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Diogelu
- Tîm Llyfrgell Rhydaman, Gwasanaethau Hamdden
- Joanne Cooke, Swyddog Cadwraeth, Gwasanaethau Hamdden
- Maria Thomas, Canolfan Ddydd y Bwthyn, Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel
3.Cyflawniad Rheolwr
- Debbie Edwards, Cydgysylltydd Anghenion Cymhleth, Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Diogelu
- Janet Scarrott, Rheolwr Tîm, Gwasanaethau Integredig
- Lynne Jenkins, Rheolwr y Gwasanaeth Dydd, Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Diogelu
- Rheolwyr Parc Gwledig Pen-bre, Gwasanaethau Hamdden
- Helen Smith, Cydgysylltydd Cymorth Busnes, Gwasanaethau Cymorth Busnes
4.Cyflawniad o ran Ymrwymo i Wella Iechyd a Llesiant Personol
- Grŵp Rhedeg Porth y Dwyrain
- Neil Canton, Cynorthwyydd, Gwasanaethau Hamdden
- John Ayres, Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd, Cymunedau a Chartrefi Mwy Diogel
- Leeann Cooze, Swyddog Cymorth Busnes, Gwasanaethau Cymorth Busnes
- Carina Davies, Gweinyddwr Cymorth Busnes, Gwasanaethau Cymorth Busnes
5.Cyflawniad y Cydweithiwr Mwyaf Dylanwadol
- Angela Phillips, Rheolwr y Rhaglen Ranbarthol, Comisiynu Integredig ac Atal, Y Tîm Rhanbarthol
- Pippa Lewis, Gweithiwr Cymdeithasol, Gwasanaethau Integredig
- Kellie Mclennan, Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref, Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel
- Helen Thomas, Canolfan Ddydd Cwmaman, Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel
- Janet Jones, Arweinydd y Tîm Cymorth Busnes, Gwasanaethau Cymorth Busnes
Llongyfarchiadau mawr i bawb a diolch yn fawr i'r rheiny sydd wedi enwebu eu cydweithwyr. Ni fyddai'r digwyddiad hwn yn bosibl oni bai eu bod wedi rhoi o'u hamser i gyflwyno enwebiad i sicrhau bod eu cydweithwyr yn cael cydnabyddiaeth.
Mwy ynghylch Cymunedau