Cerdyn Sgorio Adran Cymunedau

Rydym ar hyn o bryd yn datblygu Cerdyn Sgorio Adran Cymunedau, offeryn strategol perfformiad sydd wedi’i gynllunio i olrhain a gwerthuso cynnydd yn erbyn amcanion allweddol sy’n cyd-fynd â nodau’r adran. Mae’r fenter hon yn hyrwyddo tryloywder, atebolrwydd a gwelliant parhaus ar draws ein gwasanaethau.

Mae’r Cerdyn Sgorio yn galluogi timau i fonitro perfformiad, nodi meysydd i’w datblygu, a gwneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar ddata. Caiff data perfformiad ei gasglu’n fisol ac fe’i hadolygir gan y Tîm Rheoli Uwch yn ystod y cyfarfod fframwaith perfformiad misol.

Os bydd metrigau perfformiad yn codi pryderon, cynhelir ‘ymchwiliad manwl’ penodol. Caiff canfyddiadau’r adolygiadau hyn eu cyflwyno’n ôl i’r cyfarfod fframwaith perfformiad o fewn yr amserlen a gytunwyd, gan sicrhau gweithredu a datrys amserol.

Bydd yr offeryn perfformiad yn cael ei ddiweddaru’n fisol ac ar gael i bawb drwy glicio ar yr eicon isod.