Academi Arweuyddiaeth

Diweddarwyd y dudalen: 10/01/2024

Croeso i'r Academi Arweuyddiaeth

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i wynebu ei heriau gyda chryfder, hyder a phenderfyniad.

Mae'r Academi hon yn dwyn arweinwyr ynghyd ar wahanol gyfnodau o'u gyrfaoedd. Mae'r rhaglenni yn yr academi wedi'u dylunio i ddarparu annibyniaeth, hyder a set gref o sgiliau arwain a fydd yn dod â'r gorau allan ohonoch chi ac aelodau eich tîm; ymdrechu fel un i sicrhau gwasanaeth sy'n bodloni anghenion ein cymuned yn llawn.

Mae dysgu trwy gymysgedd o ddysgu drwy brofiad, rhyngweithio â chydweithwyr a digwyddiadau ffurfiol wrth wraidd yr Academi hon, gan grynhoi'r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn dysgu gan ddefnyddio'r model 70:20:10.

Mae elfennau allweddol Yr Academi yn cynnwys:

  • Dwy sgwrs Hyfforddi Gyrfa - un ar y dechrau ac un ar y diwedd. Mae'r rhain yn cynnig cymorth personol i greu eich llwybr datblygu eich hun, gwerthuso dysgu a'r hyn sy'n digwydd nesaf i chi'r cyfranogwr.
  • Sgyrsiau ysbrydoledig gan siaradwyr Mewnol ac Allanol
  • Sgiliau Arweinyddiaeth Penodol
  • Adfyfyrio
  • Cymhwyso sgiliau a dysgu yn y gweithle
  • Mentora

Mae pob lefel yn seiliedig ar hunanfyfyrio a dysgu parhaus felly mae'n bwysig gofyn i chi'ch hun:

Pa fath o arweinydd ydych chi a pha fath o arweinydd ydych am fod?

Mae'r Academi hon yn adlewyrchu diwylliant Cyngor Sir Caerfyrddin a'r gofynion rheoli pobl o ddydd i ddydd.

Fe'i rhennir yn 3 lefel rhaglen i gefnogi ein rheolwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfa:

  • Darpar Arweinydd - Datblygiad Arweinydd 1
  • Arweinydd Newydd – Datblygiad Arweinydd 2
  • Arweinydd Datblygol - Datblygiad Arweinydd 3

Mae pob rhaglen wedi'i dylunio i gynnwys sawl methodoleg ddysgu i gefnogi effaith fawr ac integreiddio dysgu yn hawdd i'r gweithle. Ac mae'r tair rhaglen wedi cael eu datblygu i annog annibyniaeth, hyder, a set gref o sgiliau arwain, i ddod â'r gorau allan nid yn unig ohonoch chi ond hefyd aelodau'r tîm. Rydym wedi creu profiad dysgu yn hytrach nag amrywiaeth o gyrsiau.

Y dulliau dysgu a ddefnyddir fel arfer yw

  • Gweithdai hyfforddiant grŵp (wyneb yn wyneb a rhithwir)
  • Setiau Dysgu Gweithredol
  • Hyfforddiant un i un
  • Cysgodi yn y gweithle
  • Siaradwyr Ysbrydoledig
  • Hunan-ddysgu
  • Adfyfyrio
  • Prosiectau Gwella Busnes
  • Grwpiau Rhwydweithio / Bydi
  • Achrediad ILM neu Ardystiad DPP
  • Cyflwyniadau Datblygu'r Cynrychiolwyr

Mae'r holl raglenni wedi'u seilio ar yr egwyddor dysgu 70/20/10. 

Mae newid ac ymgorffori ymddygiadau a ffyrdd newydd o weithio yn golygu mwy na mynychu cwrs yn unig a thrwy weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, rheolwyr llinell a gweithwyr proffesiynol Datblygu a Dysgu mewnol, mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i ddarparu llwybr datblygu hynod ymarferol sy'n 'canolbwyntio ar weithredu.' 

Wedi'i anelu at staff sydd â dyheadau i fod yn rheolwr.

Mae'n galluogi cyfranogwyr i brofi'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn rheolwr da.

Mae'n darparu rhywfaint o wybodaeth hanfodol a fydd yn cefnogi eu dyheadau a'u datblygiad personol.

Cynnwys:

SEFYDLU

Bydd yr holl gyfranogwyr yn dechrau'r rhaglen gyda sesiwn Sefydlu.

  • Sesiwn gyda Hyfforddwr
  • Diwylliant Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Trawsnewid yng Nghyngor Sir Caerfyrddin
  • Rheoli eich dysgu drwy Thinqi
  • Trosolwg o'r Fframwaith Un Cyngor
  • Beth yw Arweinydd Da - ymarfer

RHAGLEN – Darpar Arweinydd - Datblygiad Arweinydd 1

  • Modiwl 1 Y daith Ddatblygu
  • Modiwl 2 Datblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol fel rheolwr posibl
  • Modiwl 3 Y sgiliau i reoli pobl ac adnoddau
  • Gwaith prosiect – gweithio gyda'ch rheolwr llinell i nodi darn o waith lle byddwch yn gallu rhoi eich dysgu ar waith, dangos eich dysgu yn ymarferol. Byddwch wedyn yn rhoi cyflwyniad byr ar hyn yn ystod y cyfnod Adfyfyrio.

Adfyfyrio

Bydd yr holl gyfranogwyr yn gorffen gyda'i gilydd drwy gyfnod o adfyfyrio

  • Cyflwyniad: Beth wyf wedi'i ddysgu a sut bydd yn cael ei roi ar waith
  • Rhwydweithio
  • Bitesize – Sut i fod yn Fentor (dewisol)
  • Sesiwn gyda Hyfforddwr

Ymrwymiad

  • Rhaglen 6 mis a fydd yn cynnwys 2 ddiwrnod o Sefydlu dros gyfnod o 2 wythnos a chyfnod Adfyfyrio o 2 wythnos, presenoldeb 1 diwrnod i'w gadarnhau
  • Mae pob un o 3 modiwl y rhaglen yn para 1 diwrnod, dros gyfnod o 4 mis.
  • Gwaith prosiect - wedi'i wasgaru dros gyfnod o 4 mis.
  • Hunan-ddysgu
  • Gwaith grŵp
  • Cyflwyniad Terfynol

Wedi'i anelu at reolwyr ar y rheng flaen, sydd o bosibl yn rheoli tîm mawr neu efallai'n dechrau ar eu taith reoli.

Edrychwch yn fanwl ar y sgiliau sydd eu hangen i gael y gorau o aelodau'r tîm. Dysgwch am bwysigrwydd cyfathrebu da, dirprwyo effeithiol, gosod amcanion clir a mesuradwy a chymryd ymagwedd ragweithiol wrth reoli perfformiad da a gwael.  Dysgwch sut i greu diwylliant tîm cefnogol.

Bydd cyfranogwyr yn cynyddu eu lefelau hunanymwybyddiaeth ac yn ystyried ystod o wahanol arddulliau / dulliau rheoli a fydd yn cael eu hategu gan gyfathrebu effeithiol.

Mae'n darparu cymorth, sgiliau a thechnegau hanfodol y gellir eu defnyddio yn y gweithle ar unwaith.

Mae'n darparu gwybodaeth sy'n rhoi hyder mewn gallu rheoli, sy'n cynyddu cymhelliant a morâl yr unigolyn a'r timau maent yn gweithio ynddynt.

CYNNWYS:

SEFYDLU:

Bydd yr holl gyfranogwyr yn dechrau'r rhaglen gyda sesiwn Sefydlu

  • Sesiwn gyda Hyfforddwr
  • Diwylliant Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Trawsnewid yng Nghyngor Sir Caerfyrddin
  • Rheoli eich dysgu drwy Thinqi
  • Trosolwg o'r Fframwaith Un Cyngor
  • Beth yw Arweinydd Da - ymarfer

RHAGLEN:  Datblygiad Arweinydd 2 – Arweinydd Newydd

  • Modiwl 1 - Creu diwylliant o gyfathrebu da – (Ymddiriedaeth, Pendantrwydd, Sgyrsiau Hyfforddi, Gosod Amcanion, Rhoi a Derbyn Adborth)
  • Modiwl 2 - Sgiliau ymarferol i wella effeithiolrwydd rheolaethol – (Cyllidebu, arfarnu, rheoli newid, recriwtio a dethol)
  • Modiwl 3 - Hunan-ddarganfod – pwy ydych chi a pha effaith rydych yn ei chael ar eich timau – (MBTI, Arddull Arweinyddiaeth, Gwytnwch, Gwerthoedd)
  • Modiwl 4 - Y Llwyfan Gwleidyddol - (Y prosesau gwleidyddol)
  • Gwaith prosiect – gweithio gyda'ch rheolwr llinell i nodi darn o waith lle byddwch yn gallu rhoi eich dysgu ar waith, dangos eich dysgu yn ymarferol. Byddwch wedyn yn rhoi cyflwyniad byr ar hyn yn ystod y cyfnod Adfyfyrio.

ADFYFYRIO:

Bydd yr holl gyfranogwyr yn gorffen gyda'i gilydd drwy gyfnod o adfyfyrio

  • Cyflwyniad: Beth wyf wedi'i ddysgu a sut bydd yn cael ei roi ar waith
  • Rhwydweithio
  • Bitesize – Sut i fod yn Fentor (dewisol)
  • Sesiwn gyda Hyfforddwr

Ymrwymiad

  • Rhaglen 6 mis a fydd yn cynnwys 2 ddiwrnod o Sefydlu dros gyfnod o 2 wythnos a chyfnod Adfyfyrio o 2 wythnos, presenoldeb 1 diwrnod i'w gadarnhau
  • Mae'r rhaglen o 4 modiwl wedi'i gwasgaru dros gyfnod o 4 mis
  • Modiwl 1 – 7 diwrnod
  • Modiwl 2 – 3.5 diwrnod
  • Modiwl 3 – 1 diwrnod
  • Modiwl 4 – 1 diwrnod
  • Gwaith prosiect - wedi'i wasgaru dros gyfnod o 4 mis
  • Hunan-ddysgu
  • Gwaith grŵp
  • Cyflwyniad Terfynol

Wedi'i anelu at reolwyr ag uchelgeisiau i fod yn rheolwyr trydedd haen neu uwch-reolwyr. 

Mae'n darparu dysgu hanfodol i ddyrchafu sgiliau cyfredol ac annog agwedd fwy strategol.

Yn uniongyrchol gysylltiedig â maes gwaith y cyfranogwr, mewn cydweithrediad â'u rheolwr llinell.

Wedi'i gynllunio ar gyfer Uwch-reolwyr y rhoddwyd ffydd ynddynt i yrru ac arwain y sefydliad ymlaen mewn amgylchedd busnes cystadleuol a heriol.

Bydd y rhaglen hefyd yn edrych ar sut i osod a gweithredu newid strategol a'r sgiliau a'r ymddygiadau arweinyddiaeth craidd sydd eu hangen i arwain, ysbrydoli a grymuso eraill i gyflawni lefelau uchel o berfformiad yn gyson.

CYNNWYS:

SEFYDLU:

Bydd yr holl gyfranogwyr yn dechrau'r rhaglen gyda sesiwn Sefydlu

  • Sesiwn gyda Hyfforddwr
  • Diwylliant Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Trawsnewid yng Nghyngor Sir Caerfyrddin
  • Rheoli eich dysgu drwy Thinqi
  • Trosolwg o'r Fframwaith Un Cyngor
  • Beth yw Arweinydd Da - ymarfer

RHAGLEN: Arweinydd Datblygol - Datblygiad Arweinydd 3

  • Dewis Un Modiwl o'r llwyfan ILM/CMI, ar Lefel 7. Credydau tuag at barhad dysgu i Ddiploma
  • Gwaith prosiect, yn seiliedig ar y modiwl a ddewiswyd – gan weithio gyda'ch rheolwr llinell i nodi darn o waith sy'n berthnasol i'ch gofynion dysgu a gofynion yr adran. Byddwch wedyn yn rhoi cyflwyniad byr ar hyn yn ystod y cyfnod Adfyfyrio.
  • Gweithdai Rheoli Prosiectau yn cynnig dysgu i gefnogi eich gwaith prosiect

ADFYFYRIO:

Bydd yr holl gyfranogwyr yn gorffen gyda'i gilydd drwy gyfnod o adfyfyrio

  • Cyflwyniad: Beth wyf wedi'i ddysgu a sut bydd yn cael ei roi ar waith
  • Rhwydweithio
  • Bitesize – Sut i fod yn Fentor (dewisol)
  • Sesiwn gyda Hyfforddwr

YMRWYMIAD:

  • Rhaglen 6 mis a fydd yn cynnwys 2 ddiwrnod o Sefydlu dros gyfnod o 2 wythnos a chyfnod Adfyfyrio o 2 wythnos, presenoldeb 1 diwrnod i'w gadarnhau
  • Mae'r ymrwymiad i bresenoldeb ffurfiol ar gyfer y modiwl Lefel 7 i'w gytuno gyda'r darparwr
  • Hyfforddiant Rheoli Prosiect – 3 diwrnod dros gyfnod o 4 mis
  • Gwaith prosiect - wedi'i wasgaru dros gyfnod o 4 mis
  • Hunan-ddysgu
  • Gwaith grŵp
  • Cyflwyniad Terfynol

Wrth ystyried ceisiadau ar gyfer y rhaglen hon, mae'r tîm yn ceisio cydbwysedd o gynrychiolaeth sefydliadol, yn ogystal â phrofiad proffesiynol ymgeiswyr a chyfrifoldebau sefydliadol cyfredol.

Dyddiadau cau:

Mynegiant o Ddiddordeb

Mae'r cais am Fynegiant o Ddiddordeb bellach wedi cau. Cyhoeddir y manylion pan fydd dyddiadau pellach wedi'u cadarnhau

Briffiad

Cynhelir cyflwyniad briffio yn yr wythnos sy'n dechrau ar 8 Ionawr 2024 i roi mwy o wybodaeth i chi am y rhaglen, a chyfle i ofyn unrhyw gwestiynau. Bydd gwahoddiadau i'r sesiwn friffio yn cael eu hanfon at y rhai sy'n cyflwyno eu ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb erbyn y dyddiad cau uchod.

Cais ffurfiol:

Bydd ffurflenni cais ar gael ar ôl y sesiwn briffio. Os ydych yn dymuno bwrw ymlaen â'r cais hwn, cysylltwch â Dysgu a Datblygu.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ffurfiol: 26 Ionawr 2024

Sgwrs Anffurfiol: Rhwng 29 Ionawr a 2 Chwefror 2024.

Dyddiad dechrau'r Academi: 20 Chwefror 2024

Rydym yn argymell eich bod yn siarad â'ch rheolwr i gadarnhau eich bod yn gallu ymrwymo i'r rhaglen lawn o 6 mis.

Mae 70:20:10 yn theori dysgu a datblygu sy'n crynhoi'r holl wahanol ffyrdd y mae pobl yn dysgu.

Mae dysgu o brofiadau, rhyngweithio ag eraill, neu drwy hyfforddiant, wrth wraidd y dull hwn.  Mae'r model hwn yn symud ffocws o hyfforddiant i berfformiad.

  • Mae 70% o'r wybodaeth yn cael ei hennill o brofiadau cysylltiedig â gwaith.
  • 20% o ryngweithio ag eraill, fel cyd-weithwyr a rheolwyr
  • 10% o ddigwyddiadau dysgu ffurfiol.

Mae pob rhaglen yn seiliedig ar yr athroniaeth hon o ddysgu. Mae pecyn dysgu yn cael ei greu sy'n cefnogi amgylchedd dysgu cyfannol gyda sgiliau a gwybodaeth y gellir eu trosglwyddo'n hwylus i'r gweithle.