Arfer Gorau mewn Gwaith Taith Bywyd

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae'r gweithdy hwn ar gyfer pawb sy'n ymwneud â Gwaith Taith Bywyd ac yn gyfrifol amdano gyda phlant sy'n derbyn gofal ac yn enwedig y rhai sydd â chynllun mabwysiadu e.e.

  • Gweithwyr cymdeithasol o'r Gwasanaethau Plant
  • Unrhyw un arall sy’n gweithio gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal sydd â diddordeb neu sy’n ymwneud â’r maes gwaith hwn.

Beth yw'r amcanion?

Bydd y gweithdy'n archwilio arfer gorau mewn Gwaith Taith Bywyd yng nghyd-destun fframwaith Gwaith Taith Bywyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Bydd yn eich helpu i ddod yn fwy cyfarwydd â'r fframwaith a'r canllaw arfer da cysylltiedig. Bydd yn rhoi mwy o werthfawrogiad i chi o bwysigrwydd gwaith Taith Bywyd fel ffordd o helpu plant sydd wedi'u mabwysiadu a phlant sy'n derbyn gofal i wneud synnwyr o'u hanes ac adeiladu hunaniaeth gadarnhaol. Bydd yn eich helpu i fod yn glir ynghylch beth yw Gwaith Taith Bywyd o ansawdd da ac yn rhoi offer ac adnoddau ychwanegol i chi a'ch sefydliad i gyflawni hyn.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn eich helpu i fod yn glir ynghylch beth yw Gwaith Taith Bywyd o ansawdd da ac yn rhoi offer ac adnoddau ychwanegol i chi a'ch sefydliad i gyflawni hyn.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk