Arferion sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Hyfforddiant Gorfodol i staff gwaith cymdeithasol yn y Tîm Anabledd (0-25).

Beth yw'r amcanion?

Mae Codau Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gosod canllawiau ar gyfer cynnal asesiadau a chynhyrchu cynlluniau gofal a chymorth o dan y Ddeddf. Nod yr hyfforddiant hwn yw datblygu gwybodaeth cyfranogwyr mewn perthynas â'r canlynol:

  • cynnal asesiadau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
  • cynhyrchu cynlluniau gofal a chymorth sy'n adlewyrchu'r canlyniadau a nodir yn gywir.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn cefnogi arferion effeithiol sy'n adlewyrchu gofynion deddfwriaeth a chanllawiau statudol mewn perthynas â chynnal asesiadau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a llunio cynlluniau gofal a chymorth perthnasol.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

Hanner diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk