Asesu Gofalwyr dan Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Staff gwaith cymdeithasol sy'n gweithio mewn timau sy'n cynnig gwasanaethau i oedolion.
Beth yw'r amcanion?
Bydd yr hyfforddiant hwn yn cynnig cyfle i gyfranogwyr ddysgu mwy am gynnal asesiadau gofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Bydd yn rhoi sylw i'r canlynol:
- Diffinio ac adnabod gofalwyr
- Dyletswyddau i ofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
- Y broses asesu, gan gynnwys asesiadau cyfunol
- Materion sy'n codi o ran cynnal asesiadau, gan gynnwys man preswylio gofalwyr a gwrthod asesiad
- Meini Prawf
- Diwallu anghenion gofalwyr a'r broses adolygu
- Gwersi o gyfraith achosion a phenderfyniadau'r Ombwdsmon
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yn cefnogi arferion effeithiol sy'n adlewyrchu gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â chynnal asesiadau gofalwyr.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
2 Awr
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk