Chwilfrydedd Proffesiynol o fewn Gwasanaethau Oedolion ac Integredig

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Oedolion ac Integredig

Beth yw'r amcanion?

Bydd y cwrs hwn yn darparu'r deilliannau dysgu canlynol i'r cyfranogwyr:

  • Deall beth yw chwilfrydedd proffesiynol a pham ei fod yn bwysig.
  • Deall ffactorau sy'n hyrwyddo neu'n rhwystro chwilfrydedd proffesiynol.
  • Defnyddio chwilfrydedd proffesiynol i gael empathi tuag at deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd ymgysylltu â gwasanaethau a'u cefnogi i wneud hynny.
  • Gallu defnyddio ystod o sgiliau sy'n hybu chwilfrydedd wrth weithio gyda theuluoedd.
  • Teimlo'n rymus i herio gwasanaethau eraill yn adeiladol ac mewn ffordd sy'n effeithiol wrth gynyddu chwilfrydedd proffesiynol ar y cyd.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd gan Weithwyr Cymdeithasol y wybodaeth a'r sgiliau i ymarfer chwilfrydedd proffesiynol fel rhan o'u rôl.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk