Colled a Phrofedigaeth
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys ar draws y Gwasanaethau Plant
Beth yw'r amcanion?
Bydd Gweithwyr Cymdeithas yn:
- Cael dealltwriaeth o'r broses alaru a'r modelau presennol sy'n helpu i
ddeall galar a phrofedigaeth. - Deall yr effaith y caiff colled a phrofedigaeth ar deuluoedd.
- Ystyried ffyrdd y gallwn gynorthwyo unigolion yn dilyn profedigaeth, drwy ein dealltwriaeth ein hunain o'r effaith y caiff colled.
- Ystyried sgiliau sy'n berthnasol i'w rolau a'u sefydliad a fydd yn gwella'r modd y maent yn cyfathrebu ag unigolion sy'n galaru.
- Datblygu ymwybyddiaeth o sefydliadau cymorth, a sut a phryd i gyfeirio unigolion at gymorth ychwanegol, gan gynnwys deall ffiniau ein rolau.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd y cwrs hwn yn galluogi Gofalwyr Cymdeithasol i ddatblygu sgiliau i'w cynorthwyo nhw wrth gefnogi plant a'u teuluoedd o ran colled a phrofedigaeth.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
2.5 Awr
Cost:
Dim Tâl
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.