Cyflwyniad i Awtistiaeth ac Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Staff gwaith cymdeithasol sy'n gweithio mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol. Bydd lleoedd dros ben yn cael eu cynnig i staff yn y Timau Cymunedol Anableddau Dysgu, y Gwasanaeth Anableddau 0-25 a'r Tîm Camddefnyddio Sylweddau.
Beth yw'r amcanion?
Datblygu gwybodaeth y cyfranogwyr am Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol. Bydd y rhaglen hon yn datblygu gwybodaeth y cyfranogwyr am:
- Y berthynas rhwng Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol, awtistiaeth a chyflyrau eraill
- Pa mor gyffredin yw Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol a beth sy'n ei achosi
- Yr ymennydd awtistig ac Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol
- Anghenion synhwyraidd pobl ag Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol
- Strategaethau ar gyfer gweithio gyda phobl sydd ag Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol
- Deddfwriaeth a pholisi mewn fframwaith mewn perthynas ag awtistiaeth ac Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yn cynorthwyo gweithwyr cymdeithasol i ymarfer yn effeithiol wrth gefnogi pobl ag Anhwylder Osgoi Galwadau Patholegol
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Dydd
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk