Cyflwyniad i Ymarfer Systemig of fewn Gwasanaethau Oedolion ac Integredig (Rheolwyr Tȋm a Rheolwyr Tȋm Cynorthwyol)
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Rheolwyr tȋm a rheolwyr tȋm cynorthwyol o fewn gwasanaethau oedolion ac integredig.
Beth yw'r amcanion?
Bydd y tridiau hyn yn gyfle i archwilio syniadau allweddol ymarfer systemig a deall eu defnydd o fewn maes oedolion. Bydd dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o sut mae syniadau systemig yn gwneud gwahaniaeth i unigolion, rhwydweithiau ac ymarferwyr. Byddant yn cael cyfle i drosglwyddo’r syniadau hyn i achosion ymarfer a bydd yr hyfforddiant yn darparu sgiliau ymarferol i drosglwyddo i'w ymarfer eu hun.
Bydd Diwrnod 1 yn dechrau gyda throsolwg o gysyniadau sylfaenol damcaniaeth systemig. Bydd yn cynnwys cyflwyniad i syniadau megis cybernetics a homeostasis fel ffordd o ddeall swyddogaeth systemau cymhleth. Ceir ystyriaeth o sut mae problemau yn cael eu dal o fewn systemau a’u creu a'u cynnal o fewn patrymau rhyngweithiol. Cyflwynir graces cymdeithasol John Burnham sy’n cefnogi'r ddealltwriaeth o sut mae gwahaniaeth a amrywiaeth yn effeithio ar systemau gan ddylanwadu arnynt.
Bydd Diwrnod 2 yn cyflwyno myfyrwyr i ddull systemig Milan gan ganolbwyntio ar ddamcaniaethu fel dull o reoli ansicrwydd a chymhlethdod o fewn cyd-destun gwneud penderfyniadau. Bydd archwilio cwestiynau cylchol yn galluogi ymarferwyr i ddeall sut y gellir defnyddio cwestiynau fel ymyriadau i sicrhau newid.
Bydd diwrnod olaf y cwrs archwilio sut y gellir defnyddio'r genogram fel dull therapiwtig i'w ddefnyddio gydag unigolion. Bydd y genogram hefyd yn cael ei ystyried fel modd o hyrwyddo dull systemig o fewn trafodaeth achos. Ceir trosolwg o’r hyn a ddysgwyd dros y ddau ddiwrnod blaenorol a thrafodaeth ar sut i drosglwyddo’r hyn a ddysgwyd dros y tridiau i ymarfer.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd rheolwyr gwaith cymdeithasol a rheolwyr tîm cynorthwyol yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau i gymhwyso damcaniaethau systemig i ymarfer a thrafodaethau achos.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
3 Diwrnod
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.