Dadansoddi'r broses Asesu

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Rhoddir blaenoriaeth i staff gwaith cymdeithasol yn y Tîm Adnoddau Cymunedol. Cynigir lleoedd dros ben i weithwyr cymdeithasol mewn timau eraill sy'n cynnig gwasanaeth i oedolion.

Beth yw'r amcanion?

Nod yr hyfforddiant hwn yw rhoi'r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr cymdeithasol i ymgorffori dadansoddiad ystyrlon yn effeithiol ym mhob lefel o asesu ac adolygu. Yn benodol, bydd yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Y fframwaith deddfwriaethol a pholisi sy'n sail i hyn
  • Dulliau ymarfer, gan gynnwys modelau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a chryfderau
  • Gwerthoedd a moeseg
  • Casglu a dadansoddi gwybodaeth
  • Cofnodi Gwybodaeth

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yn cynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gynnal asesiadau ac adolygiadau effeithiol.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

Diwrnod llawn

Cost:

Am ddim

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk