Grwp Tystiolaeth Ymarfer Sir Gaerfyrddin
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Gweithwyr Cymdeithasol a Rheolwyr Gwaith Cymdeithasol â diddordeb mewn ymarfer wedi ei gyfoethogi gan dystiolaeth.
Beth yw'r amcanion?
- I ddysgu mwy am Brosiect Arweinwyr Ymarfer gan gymrydorion presennol o Gyngor Sir Castell-nedd a Phort Talbot
- I rannu syniadau am ddefnyddio canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol Dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal mewn ymarfer
- Dysgu am amryw o ddulliau i gefnogi gweithwyr cymdeithsol i ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth mewn ymarfer
- Cyfle i rannu dysgu am ddefnyddio ymchwil a thystiolaeth mewn ymarfer rhwng Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Rydym yn gyffrous iawn i'ch gwahodd i sesiwn Tystiolaeth Ymarfer Sir Gaerfyrddin ar y 7fed o Dachwedd 2023 yn llyfrgell y dref yng Nghaerfyrddin.
Darperir cinio rhwng 1 a 2yh, ac yna sesiwn a fydd yn canolbwyntio ar brosiect gan gydweithwyr o Gastell-nedd Port Talbot, a’i taith hwythau o gynyddu'r defnydd o ymchwil a thystiolaeth mewn ymarfer o fewn y sir.
Ceir cyflwyniadau yn y sesiwn gan:
Rachel Scourfield – Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol, Castell-nedd Port Talbot/Cymrawd SCYI
Julie Vile - Hwylusydd Gweithredu, Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth (Cymru)
Emma Taylor-Hill – Arweinydd Ysgogi Gwybodaeth, Gofal Cymdeithasol Cymru
I roi rhywfaint o gyd-destun i chi, mae Rachel a'i chydweithwyr wedi derbyn cyllid drwy'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd ers 12 mis. Mae hyn wedi eu galluogi i ddod yn Arweinwyr Ymchwil Ymarfer yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Pwrpas eu gwaith yw cefnogi tri thîm peilot i gynyddu eu gallu i gael mynediad at ymchwil a'i ddefnyddio mewn ymarfer. Mae hyn yn cynnwys dulliau ymarferol iawn, megis cynnal sesiynau mapio achosion, sy'n canolbwyntio ar achosion cymhleth. Nod y rhain yw cefnogi ymarferwyr i archwilio ymchwil a'i ddefnyddio i ddatod rhai o'r cyfyng-gyngor a'r cymhlethdodau ymarfer yn eu hachosion.
Ynghyd â chefnogaeth ac arweiniad gan Julie, maent hefyd wedi bod yn defnyddio ac yn rhannu eu profiadau o ddefnyddio canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth. Mae hyn wedi eu galluogi i wella cydweithio â chydweithwyr o ddisgyblaethau eraill ac mae wedi eu galluogi i gyflawni canlyniadau gwell i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau.
Dull darparu:
Ystafell Ddosbarth
Hyd y cwrs:
3.5 Awr
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.