Gwaith Stori Bywyd gydag Oedolion
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Gweithwyr Cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Integredig
Beth yw'r amcanion?
Bydd y cwrs yn darparu'r deilliannau dysgu canlynol:
- Deall gwerth Gwaith Stori Bywyd mewn amrywiaeth o gyd-destunau a lleoliadau gofal cymdeithasol gydag oedolion ac oedolion hŷn, gan gynnwys ymwybyddiaeth o sut mae'r ymyrraeth hon yn cyd-fynd â dull ymarfer naratif sy'n seiliedig ar gryfder.
- Deall gwerth modelau amrywiol o gasglu a chyflwyno gwybodaeth, yn seiliedig ar ddewisiadau a dulliau cyfathrebu'r unigolyn.
- Gwybod sut i ddehongli a gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd yn y broses.
- Gwella eich sgiliau wrth weithio'n uniongyrchol gydag oedolion o ran naratifau bywyd.
- Gwybod sut i gyfathrebu ag oedolion ac oedolion hŷn a'u hemosiynau.
- Dysgu sut i fynd i'r afael â thrawma a cholled gyda dealltwriaeth empathig a chydnabod lle mae angen atgyfeirio a mewnbwn arbenigol neu seicolegol.
- Creu cynnyrch gwaith stori bywyd sy'n ddefnyddiol, yn werthfawr ac sy'n cynrychioli'r person.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd gan Weithwyr Cymdeithasol y wybodaeth a sgiliau Gwaith Stori Bywyd fel rhan o'u rôl.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk