Gwaith Uniongyrchol - Plant gyda Pryder
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Gweithwyr Cymdeithasol yn y Gwasanaeth Plant
Beth yw'r amcanion?
- Deall beth yw gorbryder, beth sy'n ei achosi a'r gwahanol ffyrdd y gall ddod i'r amlwg mewn gwahanol blant o ystod o oedrannau, diwylliannau ac anghenion.
- Deall y berthynas rhwng gorbryder ac anghenion ychwanegol.
- Deall beth yw trawma, beth sy'n ei achosi a'r gwahanol ffyrdd y gall ddod i'r amlwg mewn gwahanol blant o ystod o oedrannau, diwylliannau ac anghenion.
- Dysgu amrywiaeth o dechnegau sy'n gallu helpu plant gyda gorbryder a/neu drawma.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Rhoi gwybodaeth a'r sgiliau i gweithwyr cymdeithasol i gefnogi plant sydd a gorbryder.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Dydd
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.