Gweithio Cydweithredol - Gweithdy Datblygu Blwyddyn Gyntaf yn Ymarfer

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae'r cwrs hyfforddi hwn yn ddigwyddiad undydd ac mae'n un o'r sesiynau hyfforddi gorfodol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn eu Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer. Mae hefyd yn rhan bwysig o drefniadau paratoadol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a fydd yn cwblhau'r Rhaglen Gadarnhau yn ystod eu hail flwyddyn o ymarfer.

Beth yw'r amcanion?

  • Archwilio'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i weithio ar y cyd â phobl sydd angen gofal a chefnogaeth.
  • Datblygu dealltwriaeth o'r hyn a olygir drwy weithio ar y cyd / cydgynhyrchu gwaith.
  • Ystyried sut y mae sgiliau cyfathrebu effeithiol yn sail i hyn.
  • Archwilio'r heriau a all wynebu staff wrth gymryd agwedd gydweithredol.
  • Ystyried pwysigrwydd hunan ymwybyddiaeth, myfyrio a meddwl yn feirniadol wrth weithio ar y cyd.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd gan weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso ddealltwriaeth well o'r cyd-destun ar gyfer ymarfer gwaith cymdeithasol. Bydd ganddynt y wybodaeth i ddatblygu sgiliau a strategaethau ar gyfer cydweithio proffesiynol a gweithio mewn partneriaeth.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk