Gweithio Unigol - Diogelwch Personol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant.
Beth yw'r amcanion?
Diogelwch digidol ar-lein personol
- Gwerthfawrogi sut y gellir mynegi gwrthdaro trwy ddefnyddio iaith y corff
- Cydnabod arwyddion ac effeithiau alcohol, cyffuriau / toddyddion a materion iechyd meddwl a arddangosir gan unigolion
- Defnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol ac iaith gorff gadarnhaol i wasgaru a rheoli sefyllfaoedd gwrthdaro
- Strategaethau dianc / gadael diogel wrth ymgysylltu ag unigolion
- Gwybod pryd a sut i gynhyrchu adroddiadau digwyddiadau effeithiol ar ôl bod yn rhan o sefyllfa heriol
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd gan Weithwyr Cymdeithasol y sgiliau a'r wybodaeth ar sut i gadw eu hunain yn ddiogel wrth weithio ar eu pennau eu hunain.
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk