Gwydnwch Emosiynol a Gwydnwch Proffesiynol
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant
Beth yw'r amcanion?
Bydd y cwrs hwn yn darparu'r deilliannau dysgu canlynol i gyfranogwyr:
- Deall beth mae Deallusrwydd Emosiynol a Gwytnwch Proffesiynol yn ei olygu.
- Deall pwysigrwydd ffiniau proffesiynol, sut i'w datblygu, cynnal a chadw
a'u defnyddio ar gyfer ymarfer effeithiol. - Deall sut i wella sgiliau gwytnwch personol i fynd i'r afael â straen a phryder.
- Gallu rheoli emosiynau wrth wneud penderfyniadau anodd yng nghanol
cyfnodau o alw mawr. - Meithrin agwedd realistig ac optimistaidd yn ystod cyfnodau o adfyd ac ansicrwydd.
- Meithrin perthnasau cefnogol a chryf gyda chydweithwyr, teuluoedd a
chleientiaid. - Deall empathi proffesiynol yn well.
- Gallu defnyddio sgiliau gwytnwch i gyflwyno'r negeseuon cywir ar yr adeg cywir gan
deimlo'n hyderus i gael trafodaethau anodd. - Dangos hyblygrwydd a'r gallu i fod mewn rheolaeth wrth wynebu
ansicrwydd. - Deall arddull dysgu eich hun a phrofiadau blaenorol o oruchwyliaeth a sut mae'r profiadau hyn yn effeithio ar oruchwyliaeth presennol, dysgu mewn ymarfer ac anghenion dysgu parhaus proffesiynnol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn gwbod a deall ymdopi gyda gwydnwch emosiynol a proffesiynol
Dull darparu:
Ar-lein
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.
Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk