Hyfforddiant Cryfder Meddyliol a Gwytnwch

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn y Gwasanaethau Plant.

Beth yw'r amcanion?

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol:

  • Drwy hunanasesiad, yn meddu ar ddealltwriaeth o’u lefel o Gryfder Meddyliol a Gwytnwch.
  • Yn deall y modd y canfyddir straen a phwysau. A ydynt yn ‘bethau gwael’ neu’n ffactorau cadarnhaol sy’n ysgogi unigolion?
  • Yn dysgu datblygu eu strategaethau a’u cynlluniau cynaliadwy eu hunain i’w helpu i berfformio dan bwysau, gan gynnal eu llesiant eu hunain.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn gallu rheoli pwysau a straen yn well, gan wybod beth yw eu lefel o Gryfder Meddyliol a Gwytnwch. Drwy ddatblygu a defnyddio’r strategaethau a’r cynlluniau a luniwyd, bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn gwella eu llesiant cyffredinol.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Dyddiad

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Gwnewch gais drwycwblhewch y ffurflen gais hon.

Nodwch - mae'r cwrs hwn ar gyfer staff Cyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Os bydd angen cymorth arnoch chi neu os bydd cwestiwn gennych chi, anfonwch e-bost at dysguadatblygu@sirgar.gov.uk